1. Ydych chi'n perthyn i rhywun enwog?
Mae fy mrawd yn frawd i fi.
2. Ydych chi wedi cwrdd â rhwyun enwog - pwy?
Wel drwy fy ngwaith, os allet ti alw holi pobol yn dwll yn 'cwrdd' yng ngwir ystyr y gair.
3. Gan feddwl am eich tre/pentre/dinas enedigol - ydi'r lle yna'n enwog? (am beth?)
Waunfawr tu allan i Geernarfon, a mae na ryw gysylltiad efo gyrru'r negeseuon cynta di-wifr dros y mor Iwerydd neu rywbeth. Dwi'm wir yn gwybod yr hanes.
4. Yn ôl Warhol, mae pawb yn enwog am 15 munud - beth ddigwyddodd yn ystod eich 15 munud chi?
Actio Sniffyn allan o Sothach a Sglyfath. Mega Arth oedd y llyffant.
5. Pe bai chi'n dod yn fyd-enwog, beth fyddai'r rheswm dros eich enwogrwydd?
Ryw fideo You Tube ohona'i yn gwneud rywbeth twp yn fy niod fyddai'n troi'n 'internet meme'.