joni a ddywedodd:4. Yn ôl Warhol, mae pawb yn enwog am 15 munud - beth ddigwyddodd yn ystod eich 15 munud chi?
So fe di digwydd eto...
Ceillie - Nago't ti ar tipit?!
1. Ydych chi'n perthyn i rhywun enwog?
Actores o'r enw Gemma Jones. 'Neud lot o ddrama cyfnod, a wy'n meddwl taw hi actiodd y fam yn Bridget Jones. Taid wedodd, ond wn i ddim shwd ma'i'n perthyn
2. Ydych chi wedi cwrdd â rhwyun enwog - pwy?
Allai ddim a meddwl am unrhywun sy'n enwog tu allan i Gymru. Heblaw'r tro 'na 'nes i fwydro Jeffrey Lewis
3. Gan feddwl am eich tre/pentre/dinas enedigol - ydi'r lle yna'n enwog? (am beth?)
Infamous, nid famous.
4. Yn ôl Warhol, mae pawb yn enwog am 15 munud - beth ddigwyddodd yn ystod eich 15 munud chi?
Cyfweliad hynod nerfus ar Bandit, neu stint yn ateb y ffôns ar apêl Heno gynt
5. Pe bai chi'n dod yn fyd-enwog, beth fyddai'r rheswm dros eich enwogrwydd?
Sefydlu stondin slap yr Eisteddfod TM. Ie, wotshwch y sbês yna hefyd