1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael newyddion da?Tua pythefnos yn ol - pan ges i wybod fod gen i job am 2 flynedd
2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael newyddion drwg?Ddoe - pan sylwais i bydd raid i mi fod on-call am fis solid yn y job 'ma
3. Pa berson enwog ydych chi'n caru?Ken Stott
4. Pa berson enwog ydych chi'n casau?John Hannah, alla i wir ddim diodde'r boi (ac ambell wleidydd yn naturiol)
5. Beth fyddai'ch pryd olaf ar death row (tri chwrs)?I ddechrau: Scallops efo crwst parmasan wedi ei serfio efo betus melys, a puree hufen a truffle - efo gwydr o Zind - Zindumbrecht
Prif gwrs: Coq au vin efo llysiau rhost, shallots a sbrigyn o darragon - efo gwydraid o Chateauneuf du Pape Domaine Pegau 2005
Wedyn: Crymbyl rhiwbob a sunsur efo almwnd efo hufen ia fanila
I orffen: Caws - Morbiere, Llangloffan, caws o wlad y Basg na allai gofio'i enw, a Ceval - efo Reisling melys aeddfed
(dwi wir wedi meddwl lot rhy gormod am hynna...)