Pump am y Penwythnos, 4.4.2008

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos, 4.4.2008

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 04 Ebr 2008 12:41 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael newyddion da?

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael newyddion drwg?

3. Pa berson enwog ydych chi'n caru?

4. Pa berson enwog ydych chi'n casau?

5. Beth fyddai'ch pryd olaf ar death row (tri chwrs)?
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Pump am y Penwythnos, 4.4.2008

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 04 Ebr 2008 12:49 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael newyddion da?

Huh? Newyddion DA? Iesu, dwn im' - ond dw i'n meddwl tua mis a hanner yn ôl.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael newyddion drwg?

Neithiwr

3. Pa berson enwog ydych chi'n caru?

Dwi'm yn rili licio pobl enwog: ond ti methu curo Fidel.

4. Pa berson enwog ydych chi'n casau?

Byddwn i'n gallu ysgrifennu traethawd ar hyn. Efallai y gwnaf. Er, at ddiben y cwestiwn hwn, Chris Moyles. Pawb arall yn ei garu, dwisho'i ladd.

5. Beth fyddai'ch pryd olaf ar death row (tri chwrs)?

I ddechrau mi gawn sgolops. Dydi nhw ddim yn cytuno efo fi yn y lleiaf ond dw i wrth fy modd efo nhw - os fydda' i ar Death Row prin y bydd stumog ansefydlog yn fy mhryderu'n ormodol.

Pizza pepperoni o Mabinogion Pesda i'r prif gwrs, heb amheuaeth.

I orffen, hufen iâ enfawr aml-flas efo hufen tew.

Hyn i gyd wedi'i olchi i lawr â gwin coch. Dw i bron â bod isio mynd i Death Row, rwan.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Pump am y Penwythnos, 4.4.2008

Postiogan Mwddrwg » Gwe 04 Ebr 2008 1:43 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael newyddion da?
Tua pythefnos yn ol - pan ges i wybod fod gen i job am 2 flynedd

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael newyddion drwg?
Ddoe - pan sylwais i bydd raid i mi fod on-call am fis solid yn y job 'ma :?

3. Pa berson enwog ydych chi'n caru?
Ken Stott

4. Pa berson enwog ydych chi'n casau?
John Hannah, alla i wir ddim diodde'r boi (ac ambell wleidydd yn naturiol)

5. Beth fyddai'ch pryd olaf ar death row (tri chwrs)?
I ddechrau: Scallops efo crwst parmasan wedi ei serfio efo betus melys, a puree hufen a truffle - efo gwydr o Zind - Zindumbrecht
Prif gwrs: Coq au vin efo llysiau rhost, shallots a sbrigyn o darragon - efo gwydraid o Chateauneuf du Pape Domaine Pegau 2005
Wedyn: Crymbyl rhiwbob a sunsur efo almwnd efo hufen ia fanila
I orffen: Caws - Morbiere, Llangloffan, caws o wlad y Basg na allai gofio'i enw, a Ceval - efo Reisling melys aeddfed
(dwi wir wedi meddwl lot rhy gormod am hynna...)
Rhithffurf defnyddiwr
Mwddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 405
Ymunwyd: Maw 06 Ion 2004 11:10 pm
Lleoliad: c'dydd

Re: Pump am y Penwythnos, 4.4.2008

Postiogan eusebio » Gwe 04 Ebr 2008 1:59 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael newyddion da?
hmmmm ... ddim yn siwr iawn a bod yn onest

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael newyddion drwg?
Mansfield 2-1 Wrecsam

3. Pa berson enwog ydych chi'n caru?
Joey Jones

4. Pa berson enwog ydych chi'n casau?
Lee Trundle ;)

5. Beth fyddai'ch pryd olaf ar death row (tri chwrs)?
Unrhywbeth sy'n cymryd oes i'w fwyta ;)
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Re: Pump am y Penwythnos, 4.4.2008

Postiogan joni » Gwe 04 Ebr 2008 2:05 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael newyddion da?
Sai'n siwr.Er fod hi'n newyddion da bob dydd bod fi byw ac yn iach(ish).

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael newyddion drwg?
Heddi. Ma Nikki Walker mas am dydd Sul.

3. Pa berson enwog ydych chi'n caru?
erm...Rachel Weisz?

4. Pa berson enwog ydych chi'n casau?
Paul Ince.

5. Beth fyddai'ch pryd olaf ar death row (tri chwrs)?
Bourak o Casablanca yn aberystwyth fel starter.
Steak o'r lle ma yn Alicante fel prif gwrs.
Hufen Ia Vanilla Cornish i swper. Iym iym!
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Pump am y Penwythnos, 4.4.2008

Postiogan Cymro13 » Gwe 04 Ebr 2008 2:06 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael newyddion da?

Pan ges i wbod bo fi'n cal trip am ddim i Mallorca

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael newyddion drwg?

Pan nes i ffeindio allan fod rhaid i mi dalu amdano o flaen llaw a chlaimo'r arian yn ol

3. Pa berson enwog ydych chi'n caru?

Rhaid rhi Katherine Jenkins

4. Pa berson enwog ydych chi'n casau?

Sian Lloyd

5. Beth fyddai'ch pryd olaf ar death row (tri chwrs)?

I ddechau - King Prawns (ac bydda i'n cal nhw heb y croen)
Prif Gwrs - Cinio Pork(gyda'r crackling) gyda mint sauce yorkshire pudding a falle bach o horseradish
Pwdin - Teisen Siocled very rich in fat (let's face it dyw e ddim yn cyfri)
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Re: Pump am y Penwythnos, 4.4.2008

Postiogan Ray Diota » Gwe 04 Ebr 2008 2:26 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael newyddion da?

mwy o gyflog na'r disgwyl ar y pay slip bore 'ma

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael newyddion drwg?

wel... pan weles i bo teledu brynes i am £30 yn costio £2.20 ar e-bay...

3. Pa berson enwog ydych chi'n caru?

wff, saimo wir... ar y foment wy'n meddwl bo ali yassine yn dipyn o lejend ar ol i fi glywed e'n gweud bod e'n chware yma o hyd yn geme cardiff city achos bod e'n gwbod bo neil kinnock yna a bod e'n casau'r gan... hefyd yn ddiolchgar iawn i max mosley am ddiddanu fi wthnos 'ma...

4. Pa berson enwog ydych chi'n casau?

natalie cassidy - s'dim ots faint o bwyse golli di, cariad... ma dal 'da ti wyneb fel ffreipan 'di dento

Delwedd

5. Beth fyddai'ch pryd olaf ar death row (tri chwrs)?

cinio dydd sul gyda baedd gwyllt
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Pump am y Penwythnos, 4.4.2008

Postiogan Chip » Gwe 04 Ebr 2008 6:13 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael newyddion da?
bod tocynnau wedi cael ei ooffero i fi i gem ospreys vs saracens. half way seats!!
2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael newyddion drwg?
sylweddoli bod dim ffordd allai mynd lan i llundain erbyn dydd sul
3. Pa berson enwog ydych chi'n caru?
judy :x
4. Pa berson enwog ydych chi'n casau?
richard
5. Beth fyddai'ch pryd olaf ar death row (tri chwrs)?
1 garlic bread
2 rhost sul fy man
3 tamed o cacen penblwydd cant oed fi
-Superman don't need no seat belt.
-Superman don't need no airplane, either.
Muhammad Ali and Flight attendant
Rhithffurf defnyddiwr
Chip
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 276
Ymunwyd: Sul 13 Awst 2006 5:36 pm
Lleoliad: PLwmp

Re: Pump am y Penwythnos, 4.4.2008

Postiogan krustysnaks » Gwe 04 Ebr 2008 7:32 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael newyddion da?
Cwpwl o wythnosau yn ôl pan ges i wybod am gyfweliad.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael newyddion drwg?
Wythnos yn ôl - cael gwybod bod ffrind i mi wedi marw mewn damwain car yn America.

3. Pa berson enwog ydych chi'n caru?
Ronnie Barker.

4. Pa berson enwog ydych chi'n casau?
Kerry Katona.

5. Beth fyddai'ch pryd olaf ar death row (tri chwrs)?
Cwrs foie gras i gychwyn, yna double quarter pounder with cheese meal mawr McDonalds gyda peint o Guinness a rhyw fath o bwdin siocledaidd i orffen.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: Pump am y Penwythnos, 4.4.2008

Postiogan Cacamwri » Sad 05 Ebr 2008 9:17 am

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael newyddion da?
Tua hanner awr yn ol. Fy nghefnither yn dod draw am de, a sa i wedi gweld hi ers dros blwyddyn.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael newyddion drwg?
Pythefnos yn ol. Mam un o fy ffrindiau'n sal iawn.

3. Pa berson enwog ydych chi'n caru?
Ddim yn gallu meddwl am neb.

4. Pa berson enwog ydych chi'n casau?
El Bandito, a Sarra Elgan achos mae'n lyfio'i hun. (A ma rhaid mynd trwy asiant i gael gafael a hi.Dyw hi ddim mor enwog a hynny, nac ydi?!)

5. Beth fyddai'ch pryd olaf ar death row (tri chwrs)?
I ddechrau, cimwch a bara ffres.
Prif gwrs, cinio rhost cig eidon.
Pwdin, crymbl fale a chwstard tew, hyfryd.
"I know I beleive in nothing, but it's my nothing."
Rhithffurf defnyddiwr
Cacamwri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 968
Ymunwyd: Maw 15 Maw 2005 9:39 am
Lleoliad: Nol adre

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 18 gwestai

cron