1. Beth yw'r stori fwyaf digrif i chi ei chlywed wythnos 'maUn o housemates y mistar yn rhoi giwsg ffansi cymhleth ac impressive at 'i gilydd trwy stwfflo paneli papur at grys T tsep yn null milwr o Fesopotamia (
) - rhoiodd e'r peth dros 'i ben a ddaeth y stapels i gyd yn rhydd. Bechod - ma rhaid bod e wir yn ffansio'r ferch sy'n cael y parti.
2. Beth yw'r peth mwyaf cyffrous sydd ar y gweill ar y penwythnosRoad trip i Aber i wylio ffilms Datblygu
3. Pa gamau y gellid eu cymryd i wneud pleidleisio yn fwy deniadol?Byffet? ...a banio darpar-gynghorwyr rhag dod at fy nrws i ofyn dros bwy fyddai'n pleidleisio - achos 'neith e jyst rhoi fi mewn tymer wael, bois.
4. Beth yw'r peth cyntaf y byddech chi'n ei wneud pe bai peiriant gyda chi i deithio drwy amser?Och - cafflo ar y ceffyle, ofiysli
5. Beth fyddai'ch enw a'ch pwer arbennig pe bai chi yn siwpyr-arwr?Pfff - 'llai ddim bod yn arsed 'da'r cwestiwn 'ma bore 'ma... Fuest ti'n gwylio Heroes neithiwr, do? Fydden i ishe bod yr un sy'n gallu dwyn pwerau pawb arall. Peter, ie? 'Neith yr enw 'na'r tro.