Tudalen 1 o 2

Pump am y Penwythnos, 25.04.2008

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ebr 2008 9:10 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
1. Beth yw'r stori fwyaf digrif i chi ei chlywed wythnos 'ma

2. Beth yw'r peth mwyaf cyffrous sydd ar y gweill ar y penwythnos

3. Pa gamau y gellid eu cymryd i wneud pleidleisio yn fwy deniadol?

4. Beth yw'r peth cyntaf y byddech chi'n ei wneud pe bai peiriant gyda chi i deithio drwy amser?

5. Beth fyddai'ch enw a'ch pwer arbennig pe bai chi yn siwpyr-arwr?

Re: Pump am y Penwythnos, 25.04.2008

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ebr 2008 9:54 am
gan Dwlwen
1. Beth yw'r stori fwyaf digrif i chi ei chlywed wythnos 'ma
Un o housemates y mistar yn rhoi giwsg ffansi cymhleth ac impressive at 'i gilydd trwy stwfflo paneli papur at grys T tsep yn null milwr o Fesopotamia ( :?) - rhoiodd e'r peth dros 'i ben a ddaeth y stapels i gyd yn rhydd. Bechod - ma rhaid bod e wir yn ffansio'r ferch sy'n cael y parti.

2. Beth yw'r peth mwyaf cyffrous sydd ar y gweill ar y penwythnos
Road trip i Aber i wylio ffilms Datblygu :D

3. Pa gamau y gellid eu cymryd i wneud pleidleisio yn fwy deniadol?
Byffet? ...a banio darpar-gynghorwyr rhag dod at fy nrws i ofyn dros bwy fyddai'n pleidleisio - achos 'neith e jyst rhoi fi mewn tymer wael, bois.

4. Beth yw'r peth cyntaf y byddech chi'n ei wneud pe bai peiriant gyda chi i deithio drwy amser?
Och - cafflo ar y ceffyle, ofiysli :rolio: :winc:

5. Beth fyddai'ch enw a'ch pwer arbennig pe bai chi yn siwpyr-arwr?
Pfff - 'llai ddim bod yn arsed 'da'r cwestiwn 'ma bore 'ma... Fuest ti'n gwylio Heroes neithiwr, do? Fydden i ishe bod yr un sy'n gallu dwyn pwerau pawb arall. Peter, ie? 'Neith yr enw 'na'r tro.

Re: Pump am y Penwythnos, 25.04.2008

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ebr 2008 10:30 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Dwlwen a ddywedodd:5. Beth fyddai'ch enw a'ch pwer arbennig pe bai chi yn siwpyr-arwr?
Pfff - 'llai ddim bod yn arsed 'da'r cwestiwn 'ma bore 'ma... Fuest ti'n gwylio Heroes neithiwr, do? Fydden i ishe bod yr un sy'n gallu dwyn pwerau pawb arall. Peter, ie? 'Neith yr enw 'na'r tro.


Gyrhaeddes i'r diwedd a bod yn llwfr/rhedeg mas o syniade. Croeso i unrhyw roi eu cwestiwn eu hunain.

O.N. Dim Heroes i fi. O'n i yn y gwely am ddeg. :wps:

Re: Pump am y Penwythnos, 25.04.2008

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ebr 2008 10:35 am
gan Hogyn o Rachub
1. Beth yw'r stori fwyaf digrif i chi ei chlywed wythnos 'ma
Ffycin hel swni'n hard pressed i ddweud dim byd wsos yma. Fydda fo'n gallu bod fy mod ar ddeall bod yn rhaid i un o'm ffrindiau fy helpu i ddadwisgo achos o'n i mor feddw bora dydd Sul.

2. Beth yw'r peth mwyaf cyffrous sydd ar y gweill ar y penwythnos
Wel, dw i'n fod i fynd i drio Tapas, a dw i byth wedi o'r blaen ac fe hoffwn wneud.

3. Pa gamau y gellid eu cymryd i wneud pleidleisio yn fwy deniadol?
Gwleidyddion ifancach yn ddechrau da, a mwy o wmff fatha dani'n gweld yn 'Mericia ar hyn o bryd.

4. Beth yw'r peth cyntaf y byddech chi'n ei wneud pe bai peiriant gyda chi i deithio drwy amser?
Mynd yn ôl i ddydd Sadwrn dwytha - ffwc o amser da!

5. Beth fyddai'ch enw a'ch pwer arbennig pe bai chi yn siwpyr-arwr?
Twatman, efo'r pwer i wneud i bobl grio drwy eu sarhau'n erchyll; yn debyg i Bananaman ar ôl bwyta banana, dw i'n dueddol o droi i mewn i Twatman ar ôl tua 8-9 peint.

Re: Pump am y Penwythnos, 25.04.2008

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ebr 2008 10:49 am
gan joni
1. Beth yw'r stori fwyaf digrif i chi ei chlywed wythnos 'ma
Sai'n gwbod. Rhywbeth am leianod mewn bath gyda sebon, ma siwr.

2. Beth yw'r peth mwyaf cyffrous sydd ar y gweill ar y penwythnos
Rafftio dwr gwyn yn Llangollen. A wedyn biar.

3. Pa gamau y gellid eu cymryd i wneud pleidleisio yn fwy deniadol?
Fi efo Dwlwen ar hwn. Byse Byffet yn neis. Vol au vont 'da'ch fôt.

4. Beth yw'r peth cyntaf y byddech chi'n ei wneud pe bai peiriant gyda chi i deithio drwy amser?
Eto, fel Dwlwen, bysen i'n mynd i'r bwcis a ennill ffortiwn.

5. Beth fyddai'ch enw a'ch pwer arbennig pe bai chi yn siwpyr-arwr?
Gallu hedfan (a hynny'n gyflym) siwr o fod.

Re: Pump am y Penwythnos, 25.04.2008

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ebr 2008 12:49 pm
gan Dwlwen
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:O.N. Dim Heroes i fi. O'n i yn y gwely am ddeg. :wps:


Syth ar ol gwylio hwn, ife :D

Re: Pump am y Penwythnos, 25.04.2008

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ebr 2008 12:59 pm
gan Cymro13
1. Beth yw'r stori fwyaf digrif i chi ei chlywed wythnos 'ma

Rhaid taw antics Caerdydd :winc:

2. Beth yw'r peth mwyaf cyffrous sydd ar y gweill ar y penwythnos

Mwy na thebyg - Dosbarthu taflennu Plaid Cymru (how sad am I)

3. Pa gamau y gellid eu cymryd i wneud pleidleisio yn fwy deniadol?

Y wasg yn stopio bod mor niwtral

4. Beth yw'r peth cyntaf y byddech chi'n ei wneud pe bai peiriant gyda chi i deithio drwy amser?

Mynd i Live Aid

5. Beth fyddai'ch enw a'ch pwer arbennig pe bai chi yn siwpyr-arwr?

Hedfan a theithio drwy amser

Re: Pump am y Penwythnos, 25.04.2008

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ebr 2008 3:37 pm
gan ceribethlem
1. Beth yw'r stori fwyaf digrif i chi ei chlywed wythnos 'ma Un o merched bah dinwed Blwyddyn 8 yn gofyn "odi fe'n wir bod barf chi'n tyfu mor glou achos bod peth werewolf yno chi?"

2. Beth yw'r peth mwyaf cyffrous sydd ar y gweill ar y penwythnos
Gig MC Mabon heno, a gobitho mynd am gwpwl o beints gyda CapS nos fory.

3. Pa gamau y gellid eu cymryd i wneud pleidleisio yn fwy deniadol?
Cage fight rhwng y bobl sy'n sefyll.

4. Beth yw'r peth cyntaf y byddech chi'n ei wneud pe bai peiriant gyda chi i deithio drwy amser?
Ail fyw "Back to the Future."

5. Beth fyddai'ch enw a'ch pwer arbennig pe bai chi yn siwpyr-arwr?
Sesh-ddyn, gyda'r pwer i droi pob achlysur mewn i sesh. Hmmm, swno'n gyfarwydd, falle mai fi yw sesh-ddyn!

Re: Pump am y Penwythnos, 25.04.2008

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ebr 2008 3:46 pm
gan Hogyn o Rachub
ceribethlem a ddywedodd:5. Beth fyddai'ch enw a'ch pwer arbennig pe bai chi yn siwpyr-arwr?
Sesh-ddyn, gyda'r pwer i droi pob achlysur mewn i sesh. Hmmm, swno'n gyfarwydd, falle mai fi yw sesh-ddyn!


Os ti mewn damwain niwclear erchyll rhywbryd a dyma dy ffawd dw i'n shotgun bod yn sidekick! :gwyrdd:

Re: Pump am y Penwythnos, 25.04.2008

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ebr 2008 7:49 pm
gan Chickenfoot
4. Beth yw'r peth cyntaf y byddech chi'n ei wneud pe bai peiriant gyda chi i deithio drwy amser?

Newid fy mywywd o '96 ymalen. Dysgu chwarae gitar a mynd i Canada i ddysgu reslo.