1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi chwarae gem bwrdd? (Pa gêm/ pwy enillodd?)Monopoli, tua 4-5 mis yn ôl erbyn hyn. Mi ges i a rhywun arall ein dal yn rogio felly aeth rhywun arall yn ddig iawn a chau'r bwrdd. Dwi'm yn difaru dim.
2. Beth yw eich hoff gêm bwrdd?Dwi'n hoff o Fonopoli a gwyddbwyll, ond 'sneb isio chwarae gwyddbwyll efo fi
3. Disgrifiwch eich strategaeth wrth chwarae Monopoli?W, dwi'n broffwyd! Dwi'n licio prynu Old Kent Road. Yn anffodus, anaml y gellir curo gêm o Fonopoli efo Old Ken Road a Whitechapel, ond fydda i byth i weld yn dallt hyn tan hanner ffordd drwy'r gêm pan mae pawb arall yn mynd am y gwyrdds a'r gleision.
4. Beth sy’ well ‘da chi: gemau bwrdd neu gemau cyfrifiadur?Cyfrifiadur. Llai o ffraeo o lot.
5. Beth am gêm o gardiau? Pa gêm chwaraewn ni?Poker, 21's, jin rymi. Unrhyw beth 'blaw am Snap - hen gêm dreisgar (h.y. violent, nid rape-like - gobeithio) ydyw.