Tudalen 1 o 3

Pump am y Penwythnos 9.5.08

PostioPostiwyd: Gwe 09 Mai 2008 10:45 am
gan Dwlwen
1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi chwarae gem bwrdd? (Pa gêm/ pwy enillodd?)
2. Beth yw eich hoff gêm bwrdd?
3. Disgrifiwch eich strategaeth wrth chwarae Monopoli?
4. Beth sy’ well ‘da chi: gemau bwrdd neu gemau cyfrifiadur?
5. Beth am gêm o gardiau? Pa gêm chwaraewn ni?

Re: Pump am y Penwythnos 9.5.08

PostioPostiwyd: Gwe 09 Mai 2008 10:48 am
gan Hogyn o Rachub
1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi chwarae gem bwrdd? (Pa gêm/ pwy enillodd?)

Monopoli, tua 4-5 mis yn ôl erbyn hyn. Mi ges i a rhywun arall ein dal yn rogio felly aeth rhywun arall yn ddig iawn a chau'r bwrdd. Dwi'm yn difaru dim.

2. Beth yw eich hoff gêm bwrdd?

Dwi'n hoff o Fonopoli a gwyddbwyll, ond 'sneb isio chwarae gwyddbwyll efo fi :(

3. Disgrifiwch eich strategaeth wrth chwarae Monopoli?

W, dwi'n broffwyd! Dwi'n licio prynu Old Kent Road. Yn anffodus, anaml y gellir curo gêm o Fonopoli efo Old Ken Road a Whitechapel, ond fydda i byth i weld yn dallt hyn tan hanner ffordd drwy'r gêm pan mae pawb arall yn mynd am y gwyrdds a'r gleision.

4. Beth sy’ well ‘da chi: gemau bwrdd neu gemau cyfrifiadur?

Cyfrifiadur. Llai o ffraeo o lot.

5. Beth am gêm o gardiau? Pa gêm chwaraewn ni?

Poker, 21's, jin rymi. Unrhyw beth 'blaw am Snap - hen gêm dreisgar (h.y. violent, nid rape-like - gobeithio) ydyw.

Re: Pump am y Penwythnos 9.5.08

PostioPostiwyd: Gwe 09 Mai 2008 10:53 am
gan Tegwared ap Seion
1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi chwarae gem bwrdd? (Pa gêm/ pwy enillodd?)

Scrabble yn y bar rai wythnosau yn ôl. Fi. Ond dwi'm yn dda iawn.

2. Beth yw eich hoff gêm bwrdd?

Dwi'm yn chwarae llawer mwyach. Ddudai Rummikub.

3. Disgrifiwch eich strategaeth wrth chwarae Monopoli?

Prynnu'r llefydd rhataf mor fuan â phosib, dim ots am y pris, a chodi gwestai cgaph wedyn ar ôl cael digon o bres i wneud hynny.

4. Beth sy’ well ‘da chi: gemau bwrdd neu gemau cyfrifiadur?

Bwrdd. Inffinitli mwy cymdeithasol.

5. Beth am gêm o gardiau? Pa gêm chwaraewn ni?

'Swn i'n bod yn "ffraeth" a deud strip poker, blow na fedrai chwara poker o gwbwl. Rymi wrach.

Re: Pump am y Penwythnos 9.5.08

PostioPostiwyd: Gwe 09 Mai 2008 10:54 am
gan Tegwared ap Seion
Tegwared ap Seion a ddywedodd:1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi chwarae gem bwrdd? (Pa gêm/ pwy enillodd?)

Scrabble yn y bar rai wythnosau yn ôl. Fi. Ond dwi'm yn dda iawn.


Anghofishi ddeud, "rŵd sgrabl" o'dd o a nesh i ennill drwy orffen efo OARUAAHN neu wbath cyffelyb :winc:

Re: Pump am y Penwythnos 9.5.08

PostioPostiwyd: Gwe 09 Mai 2008 11:23 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi chwarae gem bwrdd? (Pa gêm/ pwy enillodd?)
Fi mewn brwydr hyd farwolaeth yn erbyn sian a Sioni Size ar Scrabulous. Fi ar y blaen yn erbyn y cachlyd Size o gryn dipyn, ond mae'n eitha' cyfartal yn erbyn sian.

2. Beth yw eich hoff gêm bwrdd?
Gweler uchod.

3. Disgrifiwch eich strategaeth wrth chwarae Monopoli?
Monpoli? Ymaith, gyfalafgi!
Delwedd

4. Beth sy’ well ‘da chi: gemau bwrdd neu gemau cyfrifiadur?
Gemau bwrdd. Methu diodde gemau cyfrifiadur heblaw am Tiger Woods.

5. Beth am gêm o gardiau? Pa gêm chwaraewn ni?
Blackjack.

Re: Pump am y Penwythnos 9.5.08

PostioPostiwyd: Gwe 09 Mai 2008 11:35 am
gan jiw jiw!
1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi chwarae gem bwrdd? (Pa gêm/ pwy enillodd?)
Dros Nadolig nes i chware sawl gem o Cluedo, Gem Steddfod a Monoploi a Game of Life - sa i'n meddwl nes i ennill unrhyw un heblaw Gem Steddfod.

2. Beth yw eich hoff gêm bwrdd?
Monopoli, Cluedo, Gem y Steddfod (cywilyddus i gyfaddef ond mae'n wir!) neu Mouse Trap

3. Disgrifiwch eich strategaeth wrth chwarae Monopoli?
Fi'n mynd am gymaint o'r steshions achos ma pawb arall yn anghofio am rheinny - a ma nhw'n dda am fagu cyfoeth! a rhwbeth yng ngahnol y ffordd o ran pris (orens neu pincs) atyn nhw.
Os 'yf fi'n teimlo'n gas af fi am y piws a'r gwyrdd jyst cyn 'Go' ac adeiladu llwyth o dai a hotels - sdim dianc wedyn wes e!

4. Beth sy’ well ‘da chi: gemau bwrdd neu gemau cyfrifiadur?
gemau bwrdd bob tro

5. Beth am gêm o gardiau? Pa gêm chwaraewn ni?
Shithead neu trymps

Re: Pump am y Penwythnos 9.5.08

PostioPostiwyd: Gwe 09 Mai 2008 11:40 am
gan Gowpi
1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi chwarae gem bwrdd? (Pa gêm/ pwy enillodd?)
Backgammon gyda mam - fi wrth gwrs
2. Beth yw eich hoff gêm bwrdd?
Backgammon; cardiau; articulate; othello; pente; tennis bwrdd
3. Disgrifiwch eich strategaeth wrth chwarae Monopoli?
Casau'r gem - ers yn fach yn whare gyda ceribethlem a'r cardi bach - y cyfalafwyr ag yn nhw! Fydden i'n chware Dune wedyn, sai dal yn deall y rheolau, so wedyn mas i chwarae criced gan dreulio hanner y gem yn mynd ar ol y bel lled cae i ffwrdd....
4. Beth sy’ well ‘da chi: gemau bwrdd neu gemau cyfrifiadur?
Bwrdd - mwy cymdeithasol
5. Beth am gêm o gardiau? Pa gêm chwaraewn ni?
Poker; chwist; canasta; rymi - cloc os wrth fy hunan

Re: Pump am y Penwythnos 9.5.08

PostioPostiwyd: Gwe 09 Mai 2008 11:46 am
gan Mwddrwg
1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi chwarae gem bwrdd? (Pa gêm/ pwy enillodd?)
gem ras geffylau ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn. wnes i'm ennill... allai'm cofio pw y enillodd, roedd y gwin yn llifo erbyn hynny...

2. Beth yw eich hoff gêm bwrdd?
HUNGRY HIPPOS! :D

3. Disgrifiwch eich strategaeth wrth chwarae Monopoli?
ym.. twyllo

4. Beth sy’ well ‘da chi: gemau bwrdd neu gemau cyfrifiadur?
run ohonynt ond dwi'n licio gem rasio ceir sgen i ar fy ffon

5. Beth am gêm o gardiau? Pa gêm chwaraewn ni?
snap neu hen wraig

Re: Pump am y Penwythnos 9.5.08

PostioPostiwyd: Gwe 09 Mai 2008 11:56 am
gan Hogyn o Rachub
Mwddrwg a ddywedodd:2. Beth yw eich hoff gêm bwrdd?
HUNGRY HIPPOS! :D


WAAH! RWAN DWI'N COFIO HWN! ATEGAF!!!!!!!!!!!!!!! :D

Re: Pump am y Penwythnos 9.5.08

PostioPostiwyd: Gwe 09 Mai 2008 11:57 am
gan Dwlwen
1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi chwarae gem bwrdd? (Pa gêm/ pwy enillodd?)
Scrabble neu Trivial Pursuit yn y Conway, mwy na thebyg. Dechrau'r flwyddyn, wy'n meddwl.

2. Beth yw eich hoff gêm bwrdd?
Scrabble (os wy'n enill...) Pethau idiotic fel Pop Up Pirate a Hungry Hippos yn hwyl hefyd.

3. Disgrifiwch eich strategaeth wrth chwarae Monopoli?
Odd ein gemau ni fel teulu pan o'n i'n blentyn yn hynod o sidêt. Wy'n cofio chwarae'r gêm yn Coleg rhywdro a chael syndod o weld pa mor dan-din odd pawb. Eisiau bod y top hat yw'r peth agosa at strategaeth sda fi...

4. Beth sy’ well ‘da chi: gemau bwrdd neu gemau cyfrifiadur?
Gemau bwrdd. Wy'n mynd yn depressed os ffindai'n hun yn syllu at gyfrifiadur yn fy amser hamdden.

5. Beth am gêm o gardiau? Pa gêm chwaraewn ni?
Shithead neu American Snap - oni bai y gall rhywun ddysgu un newydd i fi (wy'n cael trafferth 'u cofio nhw dyddie 'ma.)