Pump am y Penwythnos, 20.6.2008

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos, 20.6.2008

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 20 Meh 2008 9:22 am

Duw, ni heb gael un o'r rhain ers oesoedd...

1. Beth oeddech chi eisiau bod pan oeddech chi'n fach?
2. Beth oedd eich swydd gyntaf un?
3. Ydych chi'n well yn cynilo neu'n gwario?
4. Ydych chi'n fwy tebygol o roi benthyg arian i bobl, neu fenthyg arian oddi wth bobl?
5. Beth yw'r peth drutaf i chi ei brynu erioed (heblaw am dy)?
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Pump am y Penwythnos, 20.6.2008

Postiogan Jon Bon Jela » Gwe 20 Meh 2008 9:36 am

1. Beth oeddech chi eisiau bod pan oeddech chi'n fach?
Hapus
2. Beth oedd eich swydd gyntaf un?
Gweithio mewn Siop Spar!
3. Ydych chi'n well yn cynilo neu'n gwario?
Good saver, bad spender...
4. Ydych chi'n fwy tebygol o roi benthyg arian i bobl, neu fenthyg arian oddi wth bobl?
Menthyg arian i bobl
5. Beth yw'r peth drutaf i chi ei brynu erioed (heblaw am dy)?
Car
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Re: Pump am y Penwythnos, 20.6.2008

Postiogan ceribethlem » Gwe 20 Meh 2008 9:36 am

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Duw, ni heb gael un o'r rhain ers oesoedd...
Penwythnosau wedi bod yn hynod o fflat hebddyn nhw!


1. Beth oeddech chi eisiau bod pan oeddech chi'n fach?
Esgob (pan o'n i tua 5) o'n i'n lico'r hat. Erbyn fi gyrraedd ysgol fawr, odd y freuddwyd o wyddoniaeth wedi cymryd drosodd ac o'n i ishe bod yn wyddonydd fforensig.

2. Beth oedd eich swydd gyntaf un?
BAMS - Benefit Agency Medical Services. Ges i £7117 y flwyddyn! Highlight y jobyn odd pan odd rhywun yn chwilio am Pensiwn Rhyfel gan ddweud "I died in the war for you". Gwych.

3. Ydych chi'n well yn cynilo neu'n gwario?
Gwario, lot gwell yn gwario.

4. Ydych chi'n fwy tebygol o roi benthyg arian i bobl, neu fenthyg arian oddi wth bobl?
Rhoi menthyg.

5. Beth yw'r peth drutaf i chi ei brynu erioed (heblaw am dy)?
Car.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Pump am y Penwythnos, 20.6.2008

Postiogan Cymro13 » Gwe 20 Meh 2008 9:49 am

1. Beth oeddech chi eisiau bod pan oeddech chi'n fach?

Gyrwr trennau

2. Beth oedd eich swydd gyntaf un?

Lloyds Tsb (cyn i'r adran symud i India :drwg:)

3. Ydych chi'n well yn cynilo neu'n gwario?

Gwario :wps:

4. Ydych chi'n fwy tebygol o roi benthyg arian i bobl, neu fenthyg arian oddi wth bobl?

Y ddau

5. Beth yw'r peth drutaf i chi ei brynu erioed (heblaw am dy)?

Car mae'n debyg (wedyn yr ipod :winc: )
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Re: Pump am y Penwythnos, 20.6.2008

Postiogan Dwlwen » Gwe 20 Meh 2008 9:50 am

1. Beth oeddech chi eisiau bod pan oeddech chi'n fach?
Athrawes neu florist. Rock on :wps:

2. Beth oedd eich swydd gyntaf un?
Cydlynu plant, bysus a minor selebritis ar rhaglen gwis i blant.

3. Ydych chi'n well yn cynilo neu'n gwario?
Wel ma gwario'n haws, ondyw e (ond wedi gweud 'nny, wy'n hanner cardi.)

4. Ydych chi'n fwy tebygol o roi benthyg arian i bobl, neu fenthyg arian oddi wth bobl?
Rhoi benthyg, siwr o fod.

5. Beth yw'r peth drutaf i chi ei brynu erioed (heblaw am dy)?
Llapllop. Y peth drytaf i fi brynu ffwl stop.
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos, 20.6.2008

Postiogan Cacamwri » Gwe 20 Meh 2008 9:51 am

1. Beth oeddech chi eisiau bod pan oeddech chi'n fach?
Nyrs. Diolch byth, wnes i byth dilyn y trywydd yna, achos fi'n casau gwaed - switsh off pan mae Casualty mlan.

2. Beth oedd eich swydd gyntaf un?
Spar, £10 am ddwy awr bob nos fercher. Ond fy swydd go iawn - newyddiadurwr. A dw i dal yno.

3. Ydych chi'n well yn cynilo neu'n gwario?
Cynilo. Dw i'n gwario weithie, ac yn difaru wedyn.

4. Ydych chi'n fwy tebygol o roi benthyg arian i bobl, neu fenthyg arian oddi wth bobl?
Rhoi benthyg. Ond yn ddiweddar, benthyg oddi wrth pobol - achos fi'n whit-what yn y boreau, ac yn anghofio rhoi fy mhwtsh yn fy mag. So fi'n sgrownjo am gwpwl o bunoedd i gael fy nghinio.

5. Beth yw'r peth drutaf i chi ei brynu erioed (heblaw am dy)?
Car.
"I know I beleive in nothing, but it's my nothing."
Rhithffurf defnyddiwr
Cacamwri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 968
Ymunwyd: Maw 15 Maw 2005 9:39 am
Lleoliad: Nol adre

Re: Pump am y Penwythnos, 20.6.2008

Postiogan Ray Diota » Gwe 20 Meh 2008 9:59 am

1. Beth oeddech chi eisiau bod pan oeddech chi'n fach?
Pensaer. Fi'n cofio ca'l sgwrs 'da Karl fy ffrind gore'n ysgol gynradd am hyn pan on i tua 6 a fynte'n gweud bod e moyn bod yn beilot. Ma'n hedfan i EasyJet nawr. Fi'n genfigennus y diawl o bobol sy'n gwbod yn reit be ma nhw moyn neud fel'na...

2. Beth oedd eich swydd gyntaf un?
Swydd go iawn: cyfieithu. Ma'n job perffeth... am dri mis.

3. Ydych chi'n well yn cynilo neu'n gwario?
Gwario. Dwi'n WARTH gyda arian.

4. Ydych chi'n fwy tebygol o roi benthyg arian i bobl, neu fenthyg arian oddi wth bobl?
Menthyg wrth bobol. Wy'n neud e'n fynych. Fyddai'n neud e heno: wy'n mynd i Nottingham am y wicend 'da £20. :rolio:
5. Beth yw'r peth drutaf i chi ei brynu erioed (heblaw am dy)?
Yyyyym. Laptop.
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Pump am y Penwythnos, 20.6.2008

Postiogan sian » Gwe 20 Meh 2008 10:06 am

1. Beth oeddech chi eisiau bod pan oeddech chi'n fach?

Ballerina, wedyn air hostess, wedyn dysgu Saesneg yn Sbaen

2. Beth oedd eich swydd gyntaf un?

Gofalu am lyfrgell Pencader bob nos Iau am £2 yr wythnos. Swydd go iawn - Cyfieithydd gyda Phapurau'r Herald am £2 yr awr. Ddysgais i lot yno.

3. Ydych chi'n well yn cynilo neu'n gwario?

Treio peidio gwario lot ond mae'r arian jest yn mynd i rywle.

4. Ydych chi'n fwy tebygol o roi benthyg arian i bobl, neu fenthyg arian oddi wth bobl?

Dim un.

5. Beth yw'r peth drutaf i chi ei brynu erioed (heblaw am dy)?

Car mae'n debyg [/quote]
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Pump am y Penwythnos, 20.6.2008

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 20 Meh 2008 10:16 am

1. Beth oeddech chi eisiau bod pan oeddech chi'n fach?

Ystrydebol iawn, ond peilot! Niaaaaaaawwwwwwwwwwwwww.

2. Beth oedd eich swydd gyntaf un?

Llnau llestri yn Brewer's Fayre ym Mangor. Afiach o swydd.

3. Ydych chi'n well yn cynilo neu'n gwario?

Dw i'n gwneud ymdrech i gynilo ond yn aml iawn yn gwario mwy na ddylwn.

4. Ydych chi'n fwy tebygol o roi benthyg arian i bobl, neu fenthyg arian oddi wth bobl?

Dwi'm yn licio gwneud yr un i fod yn onest, ond byddai'n well gen i fenthyg i rywun. Gas gen i fod mewn dyled i bobl eraill.

5. Beth yw'r peth drutaf i chi ei brynu erioed (heblaw am dy)?

I mi'n hun? Mwy na thebyg camera digidol am tua £110. Dwi'm yn licio gwario o gwbl. Os, mae gwyliau'n cyfri - Prâg am tua £160 (efo pres gwario)
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Pump am y Penwythnos, 20.6.2008

Postiogan Llefenni » Gwe 20 Meh 2008 10:20 am

1. Beth oeddech chi eisiau bod pan oeddech chi'n fach?

Peilot y 'fighter jets' oedd yn ymarfer bomio lawr uwchben Ysgol Gynradd Corris - oedd hi fel Bosnia yna, ond doedde3'n ni ddim ofn, achos oedd o'n digwydd wastad. Cwl iawn iawn a deud y gwir :-D

2. Beth oedd eich swydd gyntaf un?

Mynd a bobl roend Celtica Machynlleth - tâl gwych tho achos oedd o i'r Cyngor £5.30 yr awr, get in! Dwi dal yn gwbod sut i ddeud "y deial melyn yw'r rheolydd sain a'r deial du yw'r rheolydd iaith, pridiwch â'i gyffwrdd os gwelwch yn dda' yn Alamaeneg

3. Ydych chi'n well yn cynilo neu'n gwario?

Dwi'n eithaf teit efo pres - ond hefyd mae gennai'r synnwyr Tawrws yna o sblyrj go dda ar rwbeth gwirion bob hyn a hyn.Yn amlach fyth dyddie yma hefyd :?

4. Ydych chi'n fwy tebygol o roi benthyg arian i bobl, neu fenthyg arian oddi wth bobl?
Rhoi benthyg, dwi'n casau bod menw dyled i rwyn, mae o'n neud fi deimlo'n annifir i gyd :?

5. Beth yw'r peth drutaf i chi ei brynu erioed (heblaw am dy)?

Heblaw am y plasdy yn Grangetown, warie's i £500 ar Mini DV cam efo 3CCD, oedd yn grêt am fis o drafeilio yn Malaysia, a dwidi neud lot o ddim byd efo fo wedyn :-(
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron