Pump am y Penwythnos, 20.6.2008

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos, 20.6.2008

Postiogan Jon Bon Jela » Gwe 20 Meh 2008 12:57 pm

sian a ddywedodd:
Jon Bon Jela a ddywedodd:Hmmm. O'n i ond yn dweud oherwydd mai meddalwedd cyfieithu sy'n gwneud y rhan fwyaf o'r gwaith erbyn hyn. Do'n i ddim yn meddwl dy sarhau di o fwriad.


Felly ti sy'n gyfrifol am y rhain i gyd! A'r cyfan mewn tair wythnos! Dipyn o gamp!


Oes na air Cymraeg am tumbleweed, tybed?
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Re: Pump am y Penwythnos, 20.6.2008

Postiogan krustysnaks » Gwe 20 Meh 2008 1:05 pm

1. Beth oeddech chi eisiau bod pan oeddech chi'n fach?
Rhywbeth i wneud gyda'r gofod, ond nid astronaunt.

2. Beth oedd eich swydd gyntaf un?
Gweithio i Cymru ar y We yn y Llyfrgell Genedlaethol.

3. Ydych chi'n well yn cynilo neu'n gwario?
Cynilo, ond dwi'n hoffi'r broses o 'covetio' wedyn gwario ar rywbeth drud.

4. Ydych chi'n fwy tebygol o roi benthyg arian i bobl, neu fenthyg arian oddi wth bobl?
Yn fwy tebygol o roi benthyg arian, ond dwi wedi dysgu fy ngwers bod hi'n well peidio erbyn hyn...

5. Beth yw'r peth drutaf i chi ei brynu erioed (heblaw am dy)?
Siwt.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: Pump am y Penwythnos, 20.6.2008

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 20 Meh 2008 1:07 pm

Jon Bon Jela a ddywedodd:
sian a ddywedodd:
Jon Bon Jela a ddywedodd:Hmmm. O'n i ond yn dweud oherwydd mai meddalwedd cyfieithu sy'n gwneud y rhan fwyaf o'r gwaith erbyn hyn. Do'n i ddim yn meddwl dy sarhau di o fwriad.


Felly ti sy'n gyfrifol am y rhain i gyd! A'r cyfan mewn tair wythnos! Dipyn o gamp!


Oes na air Cymraeg am tumbleweed, tybed?



Oes, chwyn treigl. Wythnos arall a byddet ti'n gwybod hynny .....

...... (caru Bruce :winc: )
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Pump am y Penwythnos, 20.6.2008

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 20 Meh 2008 1:10 pm

1. Beth oeddech chi eisiau bod pan oeddech chi'n fach?
Perchennog siop gornel. Ein siop gornel ni, i fod yn benodol.

2. Beth oedd eich swydd gyntaf un?
Gweithio mewn ffatri cyn mynd i'r brifysgol. Fi mewn swydd llawer mwy di-bwynt erbyn hyn.

3. Ydych chi'n well yn cynilo neu'n gwario?
Gwario, gwaetha'r modd.

4. Ydych chi'n fwy tebygol o roi benthyg arian i bobl, neu fenthyg arian oddi wth bobl?
Benthyg i bobl eraill, a ddim yn ei weld e nôl.

5. Beth yw'r peth drutaf i chi ei brynu erioed (heblaw am dy)?
Car. Fi'n mynd i'w gasglu fe fory. Methu aros.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Pump am y Penwythnos, 20.6.2008

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 20 Meh 2008 1:21 pm

1. Beth oeddech chi eisiau bod pan oeddech chi'n fach?
Postmon - gorffen gwaith amser cinio, gwych.

2. Beth oedd eich swydd gyntaf un?
Golchi llestri yn y Kings Head, Llanrheadr.

3. Ydych chi'n well yn cynilo neu'n gwario?
Dwi'm yn meddwl mod i'n un am wario'n wirion, ond eto dwi'ch chal hi'n anodd cynilo. Does gen i'm syniad sut all hyn fod.

4. Ydych chi'n fwy tebygol o roi benthyg arian i bobl, neu fenthyg arian oddi wth bobl?
Ron i arfer gendu ddipyn o'r ddau, ond ddim ebryn hyn.

5. Beth yw'r peth drutaf i chi ei brynu erioed (heblaw am dy)?[/quote]
Car, car, a camera. Heb brynu ty - wedi bod yn aros blynyddoedd am y crash ma, o do :crechwen:
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Pump am y Penwythnos, 20.6.2008

Postiogan Chwadan » Sad 21 Meh 2008 7:14 pm

1. Beth oeddech chi eisiau bod pan oeddech chi'n fach?
Deintydd :?

2. Beth oedd eich swydd gyntaf un?
Gweini yn Ivy House am £2.50 yr awr.

3. Ydych chi'n well yn cynilo neu'n gwario?
Y ddau / pa bynnag un sy'n creu'r lefel ucha o smygrwydd ar y pryd.

4. Ydych chi'n fwy tebygol o roi benthyg arian i bobl, neu fenthyg arian oddi wth bobl?
Rhoi benthyg mae'n siwr.

5. Beth yw'r peth drutaf i chi ei brynu erioed (heblaw am dy)?[/quote]
Car. A ffortiwn ar ddodrefn dros y mis dwytha. Sgintws mintws neu be :(
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Re: Pump am y Penwythnos, 20.6.2008

Postiogan mabon-gwent » Sad 21 Meh 2008 9:57 pm

1. Beth oeddech chi eisiau bod pan oeddech chi'n fach?

Dyn y ffatri sy'n creu figgurau batman, wedyn blocs Lego, wedyn pensaer.

2. Beth oedd eich swydd gyntaf un?

Yr wyf yn lanc rhy ifanc

3. Ydych chi'n well yn cynilo neu'n gwario?

Rhaid i mi ddweud cynilo, dwi'n hoffi weld y niferau yn llyfr y banc ... a pethe neis ... yn anffodus dwi ddim yn gallu cael y ddau.

4. Ydych chi'n fwy tebygol o roi benthyg arian i bobl, neu fenthyg arian oddi wth bobl?

rhoi'r arian mwy na rhoi benthyg, dyw fy ffrindie ddim yn hoff iawn o rhoi fe nôl.

5. Beth yw'r peth drutaf i chi ei brynu erioed (heblaw am dy)?

ISA (ond dwi mond 17)
Rhithffurf defnyddiwr
mabon-gwent
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 111
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2008 4:00 am

Re: Pump am y Penwythnos, 20.6.2008

Postiogan Chip » Sul 22 Meh 2008 10:23 am

1. Beth oeddech chi eisiau bod pan oeddech chi'n fach?
ffermwr
2. Beth oedd eich swydd gyntaf un?
gweithio mewn caffi
3. Ydych chi'n well yn cynilo neu'n gwario?
cynilo
4. Ydych chi'n fwy tebygol o roi benthyg arian i bobl, neu fenthyg arian oddi wth bobl?
y ddau mwy na thebyg, ond dwi'n myn yn grac pan bo pobl dim yn talu fi nol
5. Beth yw'r peth drutaf i chi ei brynu erioed (heblaw am dy)?
gwylie i canada
-Superman don't need no seat belt.
-Superman don't need no airplane, either.
Muhammad Ali and Flight attendant
Rhithffurf defnyddiwr
Chip
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 276
Ymunwyd: Sul 13 Awst 2006 5:36 pm
Lleoliad: PLwmp

Re: Pump am y Penwythnos, 20.6.2008

Postiogan Jaff-Bach » Sul 22 Meh 2008 2:37 pm

1. Beth oeddech chi eisiau bod pan oeddech chi'n fach?
arlunudd, wedyn ddudodd mam fod pensaer yn neud lot mwy o bres, felly pensaer.

2. Beth oedd eich swydd gyntaf un?
Gweithio yn somerfield... 'Sachi'n licio cashback?' :D

3. Ydych chi'n well yn cynilo neu'n gwario?
Gwario, ma faint o ffrogia sgenai yn y wardrobe yn brawf o hynna

4. Ydych chi'n fwy tebygol o roi benthyg arian i bobl, neu fenthyg arian oddi wth bobl?
benthyg gan fy rhieni weithia...sgenai byth ddigon i rio benthyg i bobl...dwin gwario gormod ar ffrogia

5. Beth yw'r peth drutaf i chi ei brynu erioed (heblaw am dy)?
laptop falla, neu gwylia...safio fyny dros yr haf i brynu camera slr am £800...dim mwy o ffrocs i fi :(
'Ydi Myrddin ap Dafydd yn fab i Dafydd ap Gwilym?............'
Rhithffurf defnyddiwr
Jaff-Bach
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 198
Ymunwyd: Maw 31 Gor 2007 6:09 pm
Lleoliad: Llan Ffestiniog/Leeds

Re: Pump am y Penwythnos, 20.6.2008

Postiogan tafod_bach » Sul 22 Meh 2008 7:19 pm

1. Beth oeddech chi eisiau bod pan oeddech chi'n fach?
ro'n i eisiau rhoi calonnau newydd i bobl. wedyn ar ol gweld 'gypsy' pan yn 6 oed, odd breuddwyd gudd da fi i fod yn stripper.

2. Beth oedd eich swydd gyntaf un?
casglu gwydrau cymun ar ol y gwasanaeth yn y capel am 50p y tro.

3. Ydych chi'n well yn cynilo neu'n gwario?
bum yn gwario, nawr yn cynilo'n ara bach

4. Ydych chi'n fwy tebygol o roi benthyg arian i bobl, neu fenthyg arian oddi wth bobl?
bach o'r ddau, yn dibynnu ar yr amser o'r mis.

5. Beth yw'r peth drutaf i chi ei brynu erioed (heblaw am dy)?
wn i ddim, ma fe siwr o fod yn rhwbeth rhy bathetig/frivolous i'w gyfadde ar lein (helo dad!)
Rhithffurf defnyddiwr
tafod_bach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 936
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 11:49 am

Nôl

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron