Pump am y Penwythnos, 27.6.2008

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos, 27.6.2008

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 27 Meh 2008 10:40 am

O feddwl am eiriau cableddus y Nwdlyn am griced, dyma rifyn arbennig am chwaraeon...

1. Beth yw'ch hoff gêm?

2. Pa gêm y'ch chi'n methu dioddef?

3. Beth yw'ch atgof chwaraeon cyntaf?

4. Pwy oedd eich arwr ym maes chwaraeon pan oeddech chi'n fach?

5. Oeddech chi'n agos at ei (h)efelychu? (h.y. pa mor dda ydych chi?)
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Pump am y Penwythnos, 27.6.2008

Postiogan Cymro13 » Gwe 27 Meh 2008 11:20 am

1. Beth yw'ch hoff gêm?

Rygbi neu (gem yfed) Gem Enwau

2. Pa gêm y'ch chi'n methu dioddef?

snap

3. Beth yw'ch atgof chwaraeon cyntaf?

Cael fy nharo ar fy mhen gan Bel Droed a syrthio i'r llawr

4. Pwy oedd eich arwr ym maes chwaraeon pan oeddech chi'n fach?

Scott Gibbs (arfer byw rownd y gornel i mi)

5. Oeddech chi'n agos at ei (h)efelychu? (h.y. pa mor dda ydych chi?)

na
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Re: Pump am y Penwythnos, 27.6.2008

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 27 Meh 2008 11:24 am

1. Beth yw'ch hoff gêm?

I chwarae tenis neu fadminton - i wylio byddwn i'n cael trafferth dewis rhwng rygbi a phêl-droed, ond yr ail dwi'n meddwl.

2. Pa gêm y'ch chi'n methu dioddef?

Criced. Sori, ond mae'n wanc.

3. Beth yw'ch atgof chwaraeon cyntaf?

Pwdu fy mod i'n gorfod chwarae pêl-droed yn ysgol fach. Dwi'n warthus o wael am chwarae pêl-droed, i'r graddau y byddech chi'n cael trafferth dod o hyd i rywun gwaeth.

4. Pwy oedd eich arwr ym maes chwaraeon pan oeddech chi'n fach?

Ryan Giggs.

5. Oeddech chi'n agos at ei (h)efelychu? (h.y. pa mor dda ydych chi?)

Wele 3....
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Pump am y Penwythnos, 27.6.2008

Postiogan joni » Gwe 27 Meh 2008 11:26 am

1. Beth yw'ch hoff gêm?
Pel-droed (jyst)
2. Pa gêm y'ch chi'n methu dioddef?
Baseball
3. Beth yw'ch atgof chwaraeon cyntaf?
Whare yn yr ardd gyda'r brawd mawr.
Parthed gwylio chwaraeon, yna mynd lawr i wylio Aberystwyth RFC gyda Dad yw'r atgof cynta.
4. Pwy oedd eich arwr ym maes chwaraeon pan oeddech chi'n fach?
Neville Southall
5. Oeddech chi'n agos at ei (h)efelychu? (h.y. pa mor dda ydych chi?)
Dim yn agos o gwbl. Fi'n shait ymhopeth!
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Pump am y Penwythnos, 27.6.2008

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 27 Meh 2008 11:32 am

1. Beth yw'ch hoff gêm?
Pel-droed

2. Pa gêm y'ch chi'n methu dioddef?
Tenis a badminton

3. Beth yw'ch atgof chwaraeon cyntaf?
Ffeinal Pencwmpwriaeth Snwcer y Byd 1985. Cofio strancio o gael fy anfon i'r gwely cyn iddi orffen.

4. Pwy oedd eich arwr ym maes chwaraeon pan oeddech chi'n fach?

Pat Nevin a Neville Southall

5. Oeddech chi'n agos at ei (h)efelychu? (h.y. pa mor dda ydych chi?)[/quote]

Na, ddim o gwbl. Er, ma'n siwr fyddai'n dew fel Nev rhyw ddydd.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Pump am y Penwythnos, 27.6.2008

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 27 Meh 2008 12:10 pm

1. Beth yw'ch hoff gêm?
I chwara - tenis, i wylio - rygbi.

2. Pa gêm y'ch chi'n methu dioddef?
Sboncen. Tyrden wleb o gêm os bu un erioed.

3. Beth yw'ch atgof chwaraeon cyntaf?
Chwara mini rygbi'n tua 7 oed. Gwych.

4. Pwy oedd eich arwr ym maes chwaraeon pan oeddech chi'n fach?
Ieuan Evans

5. Oeddech chi'n agos at ei (h)efelychu? (h.y. pa mor dda ydych chi?)
Yeah, right. Ond dwi'n siarad fatha fo pan dwi di meddwi.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Pump am y Penwythnos, 27.6.2008

Postiogan bartiddu » Gwe 27 Meh 2008 12:36 pm

1. Beth yw'ch hoff gêm?
FH2 yn y byd seiber, ond angerddol am antiriaethau cochion Mr Toshack o flaen y bocs ar y sofa..dished o de a rich tea

2. Pa gêm y'ch chi'n methu dioddef?
Criced :rolio: ......... er! didn't quite get his leg over... :winc:

3. Beth yw'ch atgof chwaraeon cyntaf?
Cic cyntaf gem a dau gyd chwarewr yn galw am y bel, bwrw mewn i'w gilydd ala Stan ag Ollie a'r bel hirgron yn rolio i fy nhraed, rhediad syth 30 llath dan pyst ysgol Llambed :gwyrdd:

4. Pwy oedd eich arwr ym maes chwaraeon pan oeddech chi'n fach?
Gareth

5. Oeddech chi'n agos at ei (h)efelychu? (h.y. pa mor dda ydych chi?)
Ges i dfop gôl o 6 llath mas yng ngem eisteddfodol ysgol oedd yn debyg iawn i un Mr Edwards yn erbyn Ffrainc '78 o fôn y llinell ...yn fy mreuddwydion
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Re: Pump am y Penwythnos, 27.6.2008

Postiogan Dwlwen » Gwe 27 Meh 2008 12:42 pm

1. Beth yw'ch hoff gêm?
sgrabl :winc: ond o ran chwaraeon a chymryd rhan, nofio.

2. Pa gêm y'ch chi'n methu dioddef?
Sai'n cîn ar wylio chwaraeon o gwbwl a bod yn onest, ond allai ddiodde lot, un fel 'na ydw i...

3. Beth yw'ch atgof chwaraeon cyntaf?
Mabol gampau'r ysgol. Sbrintio a whare 'olwyn sbôc'. Cael pop 'calypso' radioactive yr olwg ar ol cymryd rhan.

4. Pwy oedd eich arwr ym maes chwaraeon pan oeddech chi'n fach?
Pfff. Sai'n meddwl i fi gael arwr o fyd Chwaraeon erioed.

5. Oeddech chi'n agos at ei (h)efelychu? (h.y. pa mor dda ydych chi?)
Yyyy - oes unrhywun sy'n cyfrannu at seiat fwydro ar fforwm wê yn mynd i ateb y cwestiwn yma yn gadarnhaol?!
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos, 27.6.2008

Postiogan Macsen » Gwe 27 Meh 2008 2:57 pm

1. Beth yw'ch hoff gêm?
Dwi'n hoffi rhedeg, a gwylio rygbi, ond mae gwylio rhedeg yn boring a fyddwn i'n crap ar chwarae rygbi.

Dwi'n wych am baseball, bocsio, tennis a bowlio deg 'fyd - (yn wii sports).

2. Pa gêm y'ch chi'n methu dioddef?
Criced. Mae pel-droed yn hynod gyffrous ond yn gallu bod yn uffernol o ddiflas hefyd.

3. Beth yw'ch atgof chwaraeon cyntaf?
Chwarae british bulldogs ar iard ysgol a fy mrawd yn torri ei goes. Bwaha.

4. Pwy oedd eich arwr ym maes chwaraeon pan oeddech chi'n fach?
Dwi'm yn credu mod i erioed wedi cael un! Oni'n hoffi Jonah Lomu.

5. Oeddech chi'n agos at ei (h)efelychu? (h.y. pa mor dda ydych chi?)
Wel dw i newydd redeg marathon... ond dw i'n crap am unrhywbeth sy'n golygu taro pel.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Pump am y Penwythnos, 27.6.2008

Postiogan khmer hun » Gwe 27 Meh 2008 3:03 pm

1. Beth yw'ch hoff gêm?
Ydi 'gem' yn golygu 'sports'? Os felly, sgïo. Yna syrffio, yna tenis, yna rhwyfo.
O ran hwyl mewn tim, rownders neu volleyball ar draeth, neu griced go iawn mewn knee-pads a phopeth. dim bo fi'n cael neud nhw'n aml!

2. Pa gêm y'ch chi'n methu dioddef?
rygbi

3. Beth yw'ch atgof chwaraeon cyntaf?
fues i ddigon lwcus a chael mynd dramor i sgio yn 8 oed. cyn mynd odd raid ymarfer yn capel curig. felly'r rhaff yn llosgi'r dwylo, arogl y boots sgio, a hot chocolate wedyn. a stopio mewn caffi yn betws y coed.

4. Pwy oedd eich arwr ym maes chwaraeon pan oeddech chi'n fach?
sparkie. siawns am gem? a franz klammer.

5. Oeddech chi'n agos at ei (h)efelychu? (h.y. pa mor dda ydych chi?)
fi'n trio efelychu klammer bob tro fi ar y moguls. ffaelu'n rhacs.
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron