1. Beth yw'ch hoff gêm?
Wy'n dwli chwarae badminton, ond yn methu gwneud ar hyn o bryd (wel, dim ymarfer corff heblaw am seiclo) nes i fi gael llawdriniaeth ar fy mhenglin.
Yr amlwg o ran gwylio.
2. Pa gêm y'ch chi'n methu dioddef?
Run and wriggle.
3. Beth yw'ch atgof chwaraeon cyntaf?
Chwarae pêl-droed yn y stryd gyda phêl Mexico '86. O ran gwylio Cymru, y wefr o guro Lloegr a'r iselder o golli yn erbyn Iwerddon yn nhymor '89 siwr o fod.
4. Pwy oedd eich arwr ym maes chwaraeon pan oeddech chi'n fach?
Jiffy o bosib. Dorres i 'nghalon pan aeth e i Widnes. Ffycin run and wriggle - naethoch chi ddifetha fy mhlentyndod.
5. Oeddech chi'n agos at ei (h)efelychu? (h.y. pa mor dda ydych chi?)
Sai'n credu fydda' i byth yn faswr.