Tudalen 2 o 2

Re: Pump am y Penwythnos, 27.6.2008

PostioPostiwyd: Gwe 27 Meh 2008 3:20 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
1. Beth yw'ch hoff gêm?
Wy'n dwli chwarae badminton, ond yn methu gwneud ar hyn o bryd (wel, dim ymarfer corff heblaw am seiclo) nes i fi gael llawdriniaeth ar fy mhenglin. :(

Yr amlwg o ran gwylio.

2. Pa gêm y'ch chi'n methu dioddef?
Run and wriggle.

3. Beth yw'ch atgof chwaraeon cyntaf?
Chwarae pêl-droed yn y stryd gyda phêl Mexico '86. O ran gwylio Cymru, y wefr o guro Lloegr a'r iselder o golli yn erbyn Iwerddon yn nhymor '89 siwr o fod.

4. Pwy oedd eich arwr ym maes chwaraeon pan oeddech chi'n fach?
Jiffy o bosib. Dorres i 'nghalon pan aeth e i Widnes. Ffycin run and wriggle - naethoch chi ddifetha fy mhlentyndod.

5. Oeddech chi'n agos at ei (h)efelychu? (h.y. pa mor dda ydych chi?)
Sai'n credu fydda' i byth yn faswr.

Re: Pump am y Penwythnos, 27.6.2008

PostioPostiwyd: Sad 28 Meh 2008 9:47 am
gan Chip
1. Beth yw'ch hoff gêm?
Pel Droed
2. Pa gêm y'ch chi'n methu dioddef?
Nofio, i gwylio
3. Beth yw'ch atgof chwaraeon cyntaf?
chware i clwb pel droed crannog yn yr under 8's
4. Pwy oedd eich arwr ym maes chwaraeon pan oeddech chi'n fach?
oleguna sholsgjar :)
5. Oeddech chi'n agos at ei (h)efelychu? (h.y. pa mor dda ydych chi?)
na

Re: Pump am y Penwythnos, 27.6.2008

PostioPostiwyd: Sad 28 Meh 2008 10:40 am
gan krustysnaks
1. Beth yw'ch hoff gêm?
I wylio, pêl droed. I chwarae, snwcer neu dartiau.

2. Pa gêm y'ch chi'n methu dioddef?
Dwi'n mwynhau bob math o chwaraeon, ond alla i ddim gwylio golff.

3. Beth yw'ch atgof chwaraeon cyntaf?
Un o fy atgofion cyntaf - prynu pêl droed fechan Italia 90.

4. Pwy oedd eich arwr ym maes chwaraeon pan oeddech chi'n fach?
Mark Hughes

5. Oeddech chi'n agos at ei (h)efelychu? (h.y. pa mor dda ydych chi?)
Dwi'n tynnu ambell i foli o'r bag nawr ac yn y man, ond yr agosaf dwi wedi dod ydi rhannu enw.

Re: Pump am y Penwythnos, 27.6.2008

PostioPostiwyd: Sad 28 Meh 2008 11:46 am
gan Chickenfoot
1. Beth yw'ch hoff gêm?

Pel-droed.

2. Pa gêm y'ch chi'n methu dioddef?

Kabbadi. People of Asia: you're playing fucking tick!

3. Beth yw'ch atgof chwaraeon cyntaf?

Cwestiwn anodd. Gwylio fideo hanes Everton neu World of Sport, pan oeddwn i;n feddwl bod reslo'n wir.

4. Pwy oedd eich arwr ym maes chwaraeon pan oeddech chi'n fach?

Dixie Dean

5. Oeddech chi'n agos at ei (h)efelychu? (h.y. pa mor dda ydych chi?)

Wnes i byth gwisgo shorts hir, cracio fy mhenglog wrth syrthio oddiar motorbeic na sgorio 60 gol mewn tymor. Felly, na.

Re: Pump am y Penwythnos, 27.6.2008

PostioPostiwyd: Sad 28 Meh 2008 12:28 pm
gan ceribethlem
1. Beth yw'ch hoff gêm?
Rygbi

2. Pa gêm y'ch chi'n methu dioddef?
Ddim yn gallu meddwl am unrhyw beth allai ddim diodde, lot o bethe fi ddim yn ffysd am.

3. Beth yw'ch atgof chwaraeon cyntaf?
Tripiau o ysgol Bethlehem lan i ysgol Llangadog i chwarae rygbi

4. Pwy oedd eich arwr ym maes chwaraeon pan oeddech chi'n fach?
Ieyan Cennydd Evans

5. Oeddech chi'n agos at ei (h)efelychu? (h.y. pa mor dda ydych chi?)
Dim unman agos.

Re: Pump am y Penwythnos, 27.6.2008

PostioPostiwyd: Sul 29 Meh 2008 11:16 am
gan Mwddrwg
1. Beth yw'ch hoff gêm?
Pel-droed

2. Pa gêm y'ch chi'n methu dioddef?
Criced a baseball. Gemau sydd wedi eu dyfeisio gan/i bobl sy'n rhy ddiog i chwarae sborts go iawn

3. Beth yw'ch atgof chwaraeon cyntaf?
Italia 90 - y droed yn y map yn cicio Sicily

4. Pwy oedd eich arwr ym maes chwaraeon pan oeddech chi'n fach?
Dean Saunders :P

5. Oeddech chi'n agos at ei (h)efelychu? (h.y. pa mor dda ydych chi?)
O'n i'n 'legend in my own mind' tan i mi dorri pont fy ysgwydd wnaeth fy ngorfodi i 'early retirement' o'r 'beautiful game'