Tudalen 1 o 2

Pump am y Penwythnos 4/7/08

PostioPostiwyd: Gwe 04 Gor 2008 10:24 am
gan Dwlwen
1. Faint o arian poced oeddech chi’n derbyn fel plentyn?
2. Wnaethoch chi erioed gynilo arian poced er mwyn prynu rhywbeth arbennig? Beth?
3. Beth yw’r gwyliau cynharaf ‘dych chi’n cofio o’ch plentyndod?
4. Pryd oedd y tro cyntaf i chi fynd ar wyliau heb eich rhieni?
5. Beth oedd y ddiod feddwol cyntaf i chi archebu mewn bar?

Re: Pump am y Penwythnos 4/7/08

PostioPostiwyd: Gwe 04 Gor 2008 10:29 am
gan Hogyn o Rachub
1. Faint o arian poced oeddech chi’n derbyn fel plentyn?

Dim. Dim 'run dima.

2. Wnaethoch chi erioed gynilo arian poced er mwyn prynu rhywbeth arbennig? Beth?

O ystyried yr uchod, byddai hynny'n beth anodd gwneud.

3. Beth yw’r gwyliau cynharaf ‘dych chi’n cofio o’ch plentyndod?

Mynd i gampio yn Litchfield. Dwi'm yn cofio fawr o ddim arall ond yfad peint 'nhad yn y dafarn yn bedair mlwydd oed.

4. Pryd oedd y tro cyntaf i chi fynd ar wyliau heb eich rhieni?

Wel, os mae'n cyfri, mi es gyda'r ysgol am benwythnos i Lundain pan oeddwn tua 7-8 oed. Dwi'm wirioneddol yn cofio be wnaethon ni ond am i mi fynd ar goll yn Covent Gardens a Mr Oliver y Prifathro yn flin efo fi.

5. Beth oedd y ddiod feddwol cyntaf i chi archebu mewn bar?

Fodca syth :D. Mae'r noson honno'n parhau i gyfrif ymhlith y mwyaf blêr dwi wedi'u cael.

Re: Pump am y Penwythnos 4/7/08

PostioPostiwyd: Gwe 04 Gor 2008 10:38 am
gan Tracsiwt Gwyrdd
1. Faint o arian poced oeddech chi’n derbyn fel plentyn?
dim :(
2. Wnaethoch chi erioed gynilo arian poced er mwyn prynu rhywbeth arbennig? Beth?
:crio:
3. Beth yw’r gwyliau cynharaf ‘dych chi’n cofio o’ch plentyndod?
mynd i westy yn lerpwl am noson, a chyfarfod holl dim peldroed lerpwl, oedd yn digwydd bod yn aros yna...!
4. Pryd oedd y tro cyntaf i chi fynd ar wyliau heb eich rhieni?
trip ysgol i ffrainc a glan llyn a ballu siwr o fod, ond y gwylia iawn cynta oedd tenerife yn 2000. ddim yn gwbod be oedd 'di hitio fi wrth weld pobol yn shagio 'nghanol y bybyls yn y foam party!... ychafi.
5. Beth oedd y ddiod feddwol cyntaf i chi archebu mewn bar?
bacardi a coke, steddfod abergele 1995. gig super furries a beganifs. neshi yfad dau - drw nos - a mynd nol i garafan yn trio cuddio fy medd-dod! 8)

Re: Pump am y Penwythnos 4/7/08

PostioPostiwyd: Gwe 04 Gor 2008 10:47 am
gan joni
1. Faint o arian poced oeddech chi’n derbyn fel plentyn?
dim byd.
2. Wnaethoch chi erioed gynilo arian poced er mwyn prynu rhywbeth arbennig? Beth?
naddo, yn amlwg.
3. Beth yw’r gwyliau cynharaf ‘dych chi’n cofio o’ch plentyndod?
Dwi'n credu taw chware crazy golff yn erbyn fy mrawd yn Jersey yw'r cynhara dwi'n cofio.
4. Pryd oedd y tro cyntaf i chi fynd ar wyliau heb eich rhieni?
Llangrannog circa 1988.
5. Beth oedd y ddiod feddwol cyntaf i chi archebu mewn bar?
Lager wrth gwrs. Carling, dwi'n credu.

Re: Pump am y Penwythnos 4/7/08

PostioPostiwyd: Gwe 04 Gor 2008 10:59 am
gan Manon
1. Faint o arian poced oeddech chi’n derbyn fel plentyn?
O 20c pan o'n i'n fach iawn i £5 pan o'n i yn y chweched.
2. Wnaethoch chi erioed gynilo arian poced er mwyn prynu rhywbeth arbennig? Beth?
Pan ga'th fy mrawd bach ei eni, ro'n i'n tueddu gwario lot o bres ar geir bach iddo fo.
3. Beth yw’r gwyliau cynharaf ‘dych chi’n cofio o’ch plentyndod?
Carafan yng ngwlad yr Haf, a chlywed y wiwerod ar y to yn y bore.
4. Pryd oedd y tro cyntaf i chi fynd ar wyliau heb eich rhieni?
Rhyd Ddu i ganu kum ba ya a ffricio allan am y graffiti yn y llofftydd: "This was written in the blood of the black nun's period' :ofn:
5. Beth oedd y ddiod feddwol cyntaf i chi archebu mewn bar?
Fodca a coke yn y White Lion ym Mangor.

Re: Pump am y Penwythnos 4/7/08

PostioPostiwyd: Gwe 04 Gor 2008 11:09 am
gan Dwlwen
1. Faint o arian poced oeddech chi’n derbyn fel plentyn?
20c bob dydd Sadwrn, o pan o'n i tua 7 oed.

2. Wnaethoch chi erioed gynilo arian poced er mwyn prynu rhywbeth arbennig? Beth?
'Nes i safio arian ges i fel anrheg Nadolig pan o'n i tua 9 i brynu 'The Jolly Postman', ond 'nath Mam ddala fi cyn i fi gyrredd y til yn Smiths a stopio fi rhag prynu fe achos bod e ar gyfer plant llai na fi :rolio:

3. Beth yw’r gwyliau cynharaf ‘dych chi’n cofio o’ch plentyndod?
Cofio whilo am y 'Lincoln Imp' yn y Gadeirlan ('nethon ni ddim ffeindio fe.)

4. Pryd oedd y tro cyntaf i chi fynd ar wyliau heb eich rhieni?
Gwersyll Pentywyn pan o'n i tua 9... 'Nethon ni syrffo, abseilo, ogofa, dysgu am y môr a recordio sioe radio am Dic Penderyn :D

5. Beth oedd y ddiod feddwol cyntaf i chi archebu mewn bar?
Lime Bacrdi Breezer. Rolling Mill, Llanelli. c. 1998

Re: Pump am y Penwythnos 4/7/08

PostioPostiwyd: Gwe 04 Gor 2008 1:33 pm
gan Cymro13
1. Faint o arian poced oeddech chi’n derbyn fel plentyn?

Cwpwl o bunnoedd yr wythnos

2. Wnaethoch chi erioed gynilo arian poced er mwyn prynu rhywbeth arbennig? Beth?

Prynnu gemau Snes (tua £40 yr un ar y pryd)

3. Beth yw’r gwyliau cynharaf ‘dych chi’n cofio o’ch plentyndod?

Mynd i lan y mor gyda Nanna a Grampa pan oedd fy chwaer yn cael ei geni

4. Pryd oedd y tro cyntaf i chi fynd ar wyliau heb eich rhieni?

gweler uchod :winc:

5. Beth oedd y ddiod feddwol cyntaf i chi archebu mewn bar?

Pent o Lager yn y Owain Glyndwr yng Nghaerdydd pan on i tua 15 8)

Re: Pump am y Penwythnos 4/7/08

PostioPostiwyd: Gwe 04 Gor 2008 2:27 pm
gan Mihangel Macintosh
1. Faint o arian poced oeddech chi’n derbyn fel plentyn?
Ugain ceiniog yr wythnos!

2. Wnaethoch chi erioed gynilo arian poced er mwyn prynu rhywbeth arbennig? Beth?
Naddo ond nes i beidio bwyta a gadw fy arian cinio am bythefnos er mwyn cael walkie talkie set unweth.

3. Beth yw’r gwyliau cynharaf ‘dych chi’n cofio o’ch plentyndod?
Dim syniad... fi'm yn credu o ni'n mynd ar lawer o wyliau.

4. Pryd oedd y tro cyntaf i chi fynd ar wyliau heb eich rhieni?
Steddfod Yr Wyddgrug 1991 - yna am wythnos gyfan heb babell a £5 yn fy mhoced.

5. Beth oedd y ddiod feddwol cyntaf i chi archebu mewn bar?
Peint o chwerw yn Roc Ystwyth pan o ni'n 14.

Re: Pump am y Penwythnos 4/7/08

PostioPostiwyd: Gwe 04 Gor 2008 2:33 pm
gan krustysnaks
1. Faint o arian poced oeddech chi’n derbyn fel plentyn?
Dwi ddim yn cofio. Doeddwn i ddim yn cael arian mor rheolaidd a hynny.

2. Wnaethoch chi erioed gynilo arian poced er mwyn prynu rhywbeth arbennig? Beth?
Mae'r cof yn pallu...

3. Beth yw’r gwyliau cynharaf ‘dych chi’n cofio o’ch plentyndod?
Gwyliau i Fuerteventura pan oeddwn i'n bump oed. Pwll nofio, traeth, tywydd poeth ayyb.

4. Pryd oedd y tro cyntaf i chi fynd ar wyliau heb eich rhieni?
Fues i yn Nulyn cyn cael canlyniadau Lefel A gyda'r lads.

5. Beth oedd y ddiod feddwol cyntaf i chi archebu mewn bar?
Potel o Grolsch yn y Cwps (ych y pych), falle, neu peint o chwerw.

Re: Pump am y Penwythnos 4/7/08

PostioPostiwyd: Gwe 04 Gor 2008 6:01 pm
gan Chip
1. Faint o arian poced oeddech chi’n derbyn fel plentyn?
o'n i'n dechrau ar 15c pan o'n i'n 6 a wedyn adio 5c pob penblwydd
2. Wnaethoch chi erioed gynilo arian poced er mwyn prynu rhywbeth arbennig? Beth?
do, nes i trial casglu £80 am car remote control ond cyniles i lan i £50 a weld car chepach a'i prynu yn lle
3. Beth yw’r gwyliau cynharaf ‘dych chi’n cofio o’ch plentyndod?
mynd i llundain
4. Pryd oedd y tro cyntaf i chi fynd ar wyliau heb eich rhieni?
mynd i'r eidal

seidir