Tudalen 2 o 2

Re: Pump am y Penwythnos 4/7/08

PostioPostiwyd: Gwe 04 Gor 2008 8:17 pm
gan dafz
1. Faint o arian poced oeddech chi’n derbyn fel plentyn?
Derbyn arian fel yr oedd ei angen

2. Wnaethoch chi erioed gynilo arian poced er mwyn prynu rhywbeth arbennig? Beth?
Do, Set dren 'Hornby'... nes i byth brynnu e

3. Beth yw’r gwyliau cynharaf ‘dych chi’n cofio o’ch plentyndod?
Mynd i Gernyw

4. Pryd oedd y tro cyntaf i chi fynd ar wyliau heb eich rhieni?
Iwerddon yn 2003

5. Beth oedd y ddiod feddwol cyntaf i chi archebu mewn bar?
Seidr Black

Re: Pump am y Penwythnos 4/7/08

PostioPostiwyd: Gwe 04 Gor 2008 8:27 pm
gan Cacamwri
1. Faint o arian poced oeddech chi’n derbyn fel plentyn?
Dim lot - o'n i'n tueddu i gal pan o'n i angen rhywbeth.

2. Wnaethoch chi erioed gynilo arian poced er mwyn prynu rhywbeth arbennig? Beth?
Do, sawl peth, ond fedra i'm cofio beth oedden nhw nawr...

3. Beth yw’r gwyliau cynharaf ‘dych chi’n cofio o’ch plentyndod?
Mynd i gampio gyda fy rhieni a fy mrawd mawr - o'n i jyst yn edrych ar y llunie wythnos diwetha. *atgofion!*

4. Pryd oedd y tro cyntaf i chi fynd ar wyliau heb eich rhieni?
Corfu, ma'n rhaid, 2004

5. Beth oedd y ddiod feddwol cyntaf i chi archebu mewn bar?
Shandy, dawns sioe Llandysul, 11 oed. Hardcore!

Re: Pump am y Penwythnos 4/7/08

PostioPostiwyd: Sad 05 Gor 2008 3:46 am
gan Mali
1. Faint o arian poced oeddech chi’n Faint o aderbyn fel plentyn?
Dwi'm yn cofio... :wps:
2. Wnaethoch chi erioed gynilo arian poced er mwyn prynu rhywbeth arbennig? Beth?
Ddim cofio .... :wps:
3. Beth yw'r gwyliau cynharaf ‘dych chi’n cofio o’ch plentyndod?
Gwyliau yn y garafan yn yr Alban.
4. Pryd oedd y tro cyntaf i chi fynd ar wyliau heb eich rhieni?
I'r Eidal ar drip sgio efo Ysgol Glan Clwyd yn 1976.
5. Beth oedd y ddiod feddwol cyntaf i chi archebu mewn bar?
O be dwi'n gofio, Port a lemon yn y Saracens yn Llansanan. :lol:

Re: Pump am y Penwythnos 4/7/08

PostioPostiwyd: Sad 05 Gor 2008 11:54 am
gan ceribethlem
1. Faint o arian poced oeddech chi’n derbyn fel plentyn?
50c i ddechre, wedyn lan i bunt, ac yna'r dwybunt mawreddog

2. Wnaethoch chi erioed gynilo arian poced er mwyn prynu rhywbeth arbennig? Beth?
Brynes i beic Raleigh Mustang ar ol safio lan am dwy flynedd. O'n i mor hapus tan i'n whaer a'i ffrindiau ddinistrio fe.

3. Beth yw’r gwyliau cynharaf ‘dych chi’n cofio o’ch plentyndod?
Mynd lan i Gaerlyr i weld rhieni Mami.

4. Pryd oedd y tro cyntaf i chi fynd ar wyliau heb eich rhieni?
Es i a mrawd mas i Nice yn Ne Ffrainc pan o'n i'n 11. Gwd thing.

5. Beth oedd y ddiod feddwol cyntaf i chi archebu mewn bar?
Diamond White 8)

Re: Pump am y Penwythnos 4/7/08

PostioPostiwyd: Sad 05 Gor 2008 12:14 pm
gan sian
ceribethlem a ddywedodd:4. Pryd oedd y tro cyntaf i chi fynd ar wyliau heb eich rhieni?
Es i a mrawd mas i Nice yn Ne Ffrainc pan o'n i'n 11. Gwd thing.

:ofn: Faint oedd oedran dy frawd? 9?

Re: Pump am y Penwythnos 4/7/08

PostioPostiwyd: Sad 05 Gor 2008 3:43 pm
gan Chickenfoot
Taith i Ffrainc hefo Coleg Meirion-Dwyfor yn '97. Roedd o'n pants.

Re: Pump am y Penwythnos 4/7/08

PostioPostiwyd: Sad 05 Gor 2008 3:52 pm
gan osian
1. Faint o arian poced oeddech chi’n derbyn fel plentyn?
50ceiniog - £5 dros gyfnod o tua 8 mlynadd

2. Wnaethoch chi erioed gynilo arian poced er mwyn prynu rhywbeth arbennig? Beth?

Set Lego castall

3. Beth yw’r gwyliau cynharaf ‘dych chi’n cofio o’ch plentyndod?
Aros mewn ty yn rhyw steddfod dwi meddwl, cofio rhyw gwpwrdd mawr gwyn a ffenast yn malu.

4. Pryd oedd y tro cyntaf i chi fynd ar wyliau heb eich rhieni?

Coleg y Bala '99

5. Beth oedd y ddiod feddwol cyntaf i chi archebu mewn bar?
Lager

Re: Pump am y Penwythnos 4/7/08

PostioPostiwyd: Sad 05 Gor 2008 4:03 pm
gan ceribethlem
sian a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:4. Pryd oedd y tro cyntaf i chi fynd ar wyliau heb eich rhieni?
Es i a mrawd mas i Nice yn Ne Ffrainc pan o'n i'n 11. Gwd thing.

:ofn: Faint oedd oedran dy frawd? 9?

Na, fe yw'r brawd mawr, odd e'n 13.