gan Hogyn o Rachub » Gwe 22 Awst 2008 1:30 pm
Hwrê! Mai 'di bod yn sdalwm!
1. Beth oedd eich hoff hufen ia/lolipop pan yn blentyn (neu hyd heddiw wrth gwrs)
Dwi wastad wedi bod yn ffan o Strawberry Split. Mae 'na rhai yn y rhewgell acw.
2. Oedd ganddoch chi gas hufen ia/lolipop?
Dwi am wneud ambell i elyn rwan, ond nid ffab mo Fab yn y lleiaf ... iych ....
3. Beth sydd yn rhaid i chi neud ar wylie glan mor?
Mynd o'r lle cynted ag y galla i. Mae'n gas gen i dywod. Fodd bynnag, mi fyddwn yn hapus iawn o amgylch y pyllau yn chwilota am grancod.
4. Beth yw'ch atgof Olympaidd cyntaf?
Rwbath 'leni - ddim yn cymryd math o sylw o'r peth. Fydda i 'di anghofio hwn ymhen dim.
5. Beth yw'r gamp fwyaf astrus (obscure/random) i chi wylio yn yr Olympics
Ro'n i'n trafod hyn ddoe, a'r ceffylau ydi'r ateb. Onid rhywbeth sy'n profi cymaint y gall dyn estyn ei hun ydi'r Gemau Olympaidd yn ei hanfod? Dydi sticio ceffyl rhwng dy goesau a neindio o gwmpas rhywfaint DDIM yn cyfrif.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"