Tudalen 1 o 2

Pimp am y Penwythnos 22/8/2008

PostioPostiwyd: Gwe 22 Awst 2008 1:08 pm
gan finch*
Sori am fod mor hy Dwlwen a Gwahanglwyf ond mae'n ddydd gwener a'r haul yn gwenu tu fas.

1. Beth oedd eich hoff hufen ia/lolipop pan yn blentyn (neu hyd heddiw wrth gwrs)
2. Oedd ganddoch chi gas hufen ia/lolipop?
3. Beth sydd yn rhaid i chi neud ar wylie glan mor?
4. Beth yw'ch atgof Olympaidd cyntaf?
5. Beth yw'r gamp fwyaf astrus (obscure/random) i chi wylio yn yr Olympics

Re: Pimp am y Penwythnos 22/8/2008

PostioPostiwyd: Gwe 22 Awst 2008 1:30 pm
gan Hogyn o Rachub
Hwrê! Mai 'di bod yn sdalwm!

1. Beth oedd eich hoff hufen ia/lolipop pan yn blentyn (neu hyd heddiw wrth gwrs)

Dwi wastad wedi bod yn ffan o Strawberry Split. Mae 'na rhai yn y rhewgell acw.

2. Oedd ganddoch chi gas hufen ia/lolipop?

Dwi am wneud ambell i elyn rwan, ond nid ffab mo Fab yn y lleiaf ... iych ....

3. Beth sydd yn rhaid i chi neud ar wylie glan mor?

Mynd o'r lle cynted ag y galla i. Mae'n gas gen i dywod. Fodd bynnag, mi fyddwn yn hapus iawn o amgylch y pyllau yn chwilota am grancod.

4. Beth yw'ch atgof Olympaidd cyntaf?

Rwbath 'leni - ddim yn cymryd math o sylw o'r peth. Fydda i 'di anghofio hwn ymhen dim.

5. Beth yw'r gamp fwyaf astrus (obscure/random) i chi wylio yn yr Olympics

Ro'n i'n trafod hyn ddoe, a'r ceffylau ydi'r ateb. Onid rhywbeth sy'n profi cymaint y gall dyn estyn ei hun ydi'r Gemau Olympaidd yn ei hanfod? Dydi sticio ceffyl rhwng dy goesau a neindio o gwmpas rhywfaint DDIM yn cyfrif.

Re: Pimp am y Penwythnos 22/8/2008

PostioPostiwyd: Gwe 22 Awst 2008 1:36 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
1. Beth oedd eich hoff hufen ia/lolipop pan yn blentyn (neu hyd heddiw wrth gwrs)
pzaz. cymysgedd amryliw llawn e numbers o hufen ias gwahanol. heb 'i weld ers blynyddoedd. feast 'di 'r boi rwan.
2. Oedd ganddoch chi gas hufen ia/lolipop?
cornettos. ych.
3. Beth sydd yn rhaid i chi neud ar wylie glan mor?
mynd i'r mor... tasa fo ond i roi bys bawd yno fo.
4. Beth yw'ch atgof Olympaidd cyntaf?
ddim yn siwr. gwylio dynion cyhyrog yn troi rownd ac ar ben i lawr ar y ceffyla jim 'na siwr o fod. ydi hyn i fod i ddeud wbath amdana' i...?
5. Beth yw'r gamp fwyaf astrus (obscure/random) i chi wylio yn yr Olympics
ffoc nos. well gin i watsiad sali mali. astrus iawn.

Re: Pimp am y Penwythnos 22/8/2008

PostioPostiwyd: Gwe 22 Awst 2008 2:51 pm
gan ceribethlem
1. Beth oedd eich hoff hufen ia/lolipop pan yn blentyn (neu hyd heddiw wrth gwrs)
Mint Choc Chip

2. Oedd ganddoch chi gas hufen ia/lolipop?
Raspberry Ripple

3. Beth sydd yn rhaid i chi neud ar wylie glan mor?
Twlu carreg mewn i'r moe

4. Beth yw'ch atgof Olympaidd cyntaf?
Ddim yn siwr am yr un cyntaf, ond fi'n pan o'dd Seb Coe, Steve Cram ac Odette yn cystadlu'n gyson. Ac wrth gwrs Ben Johnson yn torri record y Byd cyn cael ei wneud am gyffuriau.

5. Beth yw'r gamp fwyaf astrus (obscure/random) i chi wylio yn yr Olympics
Y rasus cerdded. Nonsens llwyr!

Re: Pimp am y Penwythnos 22/8/2008

PostioPostiwyd: Gwe 22 Awst 2008 5:12 pm
gan Ar Mada
1. Beth oedd eich hoff hufen ia/lolipop pan yn blentyn (neu hyd heddiw wrth gwrs)
Feast / Screwball!

2. Oedd ganddoch chi gas hufen ia/lolipop?
hmmmm.... y.... ...mm....

3. Beth sydd yn rhaid i chi neud ar wylie glan mor?
Cael fake tan, dwyn step ladder o un o gytiau lan mor Abersoch, ei osod ar y traeth, eistedd arno mewn tryncs coch a float wedi glymu iddo, a gweiddi ...."Shark!" drwy megaffon.

4. Beth yw'ch atgof Olympaidd cyntaf?
Fy Mam a fy chwaer fawr yn fy ngwisgo fyny fel collage o gemau Olympaidd LA 1984 ar gyfer carnifal Tanygrisiau!

5. Beth yw'r gamp fwyaf astrus (obscure/random) i chi wylio yn yr Olympics
413.33m o fflyff fflops ...... gyda moron.

Re: Pimp am y Penwythnos 22/8/2008

PostioPostiwyd: Gwe 22 Awst 2008 5:38 pm
gan Kez
1. Beth oedd eich hoff hufen ia/lolipop pan yn blentyn (neu hyd heddiw wrth gwrs)
Choc ice

2. Oedd ganddoch chi gas hufen ia/lolipop?
Lolipops blas banana

3. Beth sydd yn rhaid i chi neud ar wylie glan mor?
Rhedeg gyda'r ci a'i gal e i redeg dros y cerfluniau tywod 'na y ma' dynon canol oed yn lico creu.

4. Beth yw'ch atgof Olympaidd cyntaf?
Cal tri wanc un ar ol y llall pan own i'n bymthag oed

5. Beth yw'r gamp fwyaf astrus (obscure/random) i chi wylio yn yr Olympics
Y gamp (?!) lle bo pobol salw y diawl yn troi mewn cylch ac yn towlu rhyw belan mor bellad ag y gallan nhw - on'd yw hwnna'n ffycin stiwpid ac yn wast amsar: man a man iddyn nhw dowlu un o'r logs 'na fel ma'r Albanwyr yn lico ei wneud ar ol bwyta uwd.

Re: Pimp am y Penwythnos 22/8/2008

PostioPostiwyd: Gwe 22 Awst 2008 7:09 pm
gan Chip
1. Beth oedd eich hoff hufen ia/lolipop pan yn blentyn (neu hyd heddiw wrth gwrs)
Dim ond y rhai chep oedd hawl da ni cal, fi'n meddwl milk ice oedd enw e.
2. Oedd ganddoch chi gas hufen ia/lolipop?
Sut allech chi cal gas hufen ia?
3. Beth sydd yn rhaid i chi neud ar wylie glan mor?
palu twll mawr
4. Beth yw'ch atgof Olympaidd cyntaf?
menyw yn saeth saeth o bwa i cynnu y fflam olympaidd mewn stadiwm yn y seremoni agor, sain cofio pa flwyddyn
5. Beth yw'r gamp fwyaf astrus (obscure/random) i chi wylio yn yr Olympics
cytuno, shotput

Re: Pimp am y Penwythnos 22/8/2008

PostioPostiwyd: Gwe 22 Awst 2008 7:16 pm
gan sian
1. Beth oedd eich hoff hufen ia/lolipop pan yn blentyn (neu hyd heddiw wrth gwrs)
Heart a wedyn Count Dracula.
2. Oedd ganddoch chi gas hufen ia/lolipop?
Tutti Frutti. ych
3. Beth sydd yn rhaid i chi neud ar wylie glan mor?
Byw rhyw bedwar can llath o lan y môr - byth yn cael gwylie ar lan y môr. Ond o'n i'n arfer mynd i aros 'da Myng-gu yn Cei. Licio mynd am wac i lan y môr yn gynnar iawn yn y bore.
4. Beth yw'ch atgof Olympaidd cyntaf?
Cael teledu lliw ar gyfer y gemau
5. Beth yw'r gamp fwyaf astrus (obscure/random) i chi wylio yn yr Olympics
mbo - dressage?[/quote]

Re: Pimp am y Penwythnos 22/8/2008

PostioPostiwyd: Gwe 22 Awst 2008 10:22 pm
gan Mwddrwg
1. Beth oedd eich hoff hufen ia/lolipop pan yn blentyn (neu hyd heddiw wrth gwrs)

solero - dim ond 100 calorie! waaw!

2. Oedd ganddoch chi gas hufen ia/lolipop?

RASPBERRY RIPPLE. YCH YCH YCH!

3. Beth sydd yn rhaid i chi neud ar wylie glan mor?

nofio yn y mor (os ydio'n ddigon cynnes)

4. Beth yw'ch atgof Olympaidd cyntaf?

Carl Lewis yn ennill... loads yn Atlanta

5. Beth yw'r gamp fwyaf astrus (obscure/random) i chi wylio yn yr Olympics

Nofio am oriau yn yr awyr agored. pam ddiawl fase unrhyw un call yn gneud hyn? yn enwedig pan fod rhaid nofio mewn pwll llygredig yn China?! does na ddim arian i'w ennill, a does dim urddas mewn gallu gwneud ffasiwn dasg pointless mewn oes lle mae 'na ddigon o gychod, yn ogystal a thwnneli bellach yn cysylltu Prydain, sori Cymru, a Morocco. (dydwi ddim yn ffan o'r olympics)

Re: Pimp am y Penwythnos 22/8/2008

PostioPostiwyd: Sad 23 Awst 2008 4:52 pm
gan Mali
1. Beth oedd eich hoff hufen ia/lolipop pan yn blentyn (neu hyd heddiw wrth gwrs)
Chocstick...hufen ia a siocled arno. :)

2. Oedd ganddoch chi gas hufen ia/lolipop?
Y rhai blas ffrwythau oedd yn dripian dros bob man.

3. Beth sydd yn rhaid i chi neud ar wylie glan mor?
Rhoi fy nhraed yn y môr.

4. Beth yw'ch atgof Olympaidd cyntaf?
Munich 1972...'roedd un o athrawon yr ysgol yn golgeidwad hoci yno, ac wrth gwrs campau gymnasteg Olga Korbut o Rwsia.

5. Beth yw'r gamp fwyaf astrus (obscure/random) i chi wylio yn yr Olympics

Deifio...mae camp pawb yn edrych yr un fath , ac mae o'n mynd ymlaen ac ymlaen ormod nes 'i fod o'n hollol boring!