1. Beth yw eich hoff gân ar hyn o bryd?Llanw ucha rioed (cowbois rh b), seidir ddoe a hiraeth yn iwerddon (plethyn), ar goll (cyrff), blind willie mctell (ei fobrwydd). am rwan
2. Enwch gân sy’n eich gwneud chi’n hapus?ges di dy buro yn fflamau'r tan yma? (steve eaves), mana un arall sy'n gneud mi wenu bob tro ond allaim yn fy myw a cofio.
3. Beth yw eich hoff lyrics allan o gân?
AR Y FUNUD: "hogie'r bicwerch wrth godi bels i'r trelar, yn gochel tynnu tranne gyda'u swn"
ond o sdyriad atab 5, ma'n amhosib meddwl am un enghraifft...
4. Pe bai chi’n cychwyn band, beth fyddai’r enw?dwi'n crap am feddwl am enw i ddim byd.
wbath yn ymwneud a huw herc efallai, ond sa hynny yn swnio yn shit mashwr.
5. Pwy yw eich hoff fand/ artist erioed?Bob Dylan, efo Leonard Cohen yn ennill yr arian, a Datblygu yn cipio'r efydd. mi naeth tom waits yn dda i gyraedd y ffeinal, a steve eaves, ac eraill (ond ddim y band!)