gan Hogyn o Rachub » Gwe 05 Medi 2008 10:12 am
1. Beth oedd y peth cyntaf i chi feddwl wrth godi heddiw?
"Lle ffwc mae'r Snooze?" - 'run peth bob bora i ddweud y gwir yn onast.
2. Beth wisgoch chi (os ydych chi wedi gwisgo'n barod)?
Trowsys gwaith, crys gwaith, sgidiau gwaith.
3. Ydych chi'n hoff o ymbarel? Esboniwch eich safbwynt hefyd.
Yn gyffredinol neu ymbarél benodol? Hm. Wel, dwi'n licio ymbarels mawrion (neu "Man-barél" fel y bydda i'n hoffi ei ddweud) ond dwi'm yn licio rhai bach handi achos dydyn nhw ddim yn fy nghadw yn ddigon sych.
4. Beth fyddwch chi'n hoff o'i wneud ar ddiwrnod gwlyb?
Aros adref, efo tân a phanad a brechdan, neu aros mewn tafarn glyd, efo peint.
5. Beth yw'r un peth mae'n rhaid i chi ei gyflawni dros y penwythnos?
Cofio bod ym Maes Awyr Caerdydd mewn da bryd i gael y ffleit i Hamsterdam neu fydd 'di cachu arna i.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"