1. Beth oedd y peth cyntaf i chi feddwl wrth godi heddiw?
Mod i'n casau fy larwm.
2. Beth wisgoch chi (os ydych chi wedi gwisgo'n barod)?
Crys a thei.
3. Ydych chi'n hoff o ymbarel? Esboniwch eich safbwynt hefyd.
Byth yn eu defnyddio nhw wir.
4. Beth fyddwch chi'n hoff o'i wneud ar ddiwrnod gwlyb?
Yr un peth ydw i'n ei wneud bob dydd, Pinky - ceisio cymryd drosodd y byd!
5. Beth yw'r un peth mae'n rhaid i chi ei gyflawni dros y penwythnos?
Mynychu ryw gyfarfod llenyddol heno, helpu rywun i symud mewn i fy nhy bore fory, a mynd i barti nos fory. Dydd Sul aros yn gwely.