Tudalen 1 o 2

Pump am y Penwythnos, 5.9.2008

PostioPostiwyd: Gwe 05 Medi 2008 9:59 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
1. Beth oedd y peth cyntaf i chi feddwl wrth godi heddiw?

2. Beth wisgoch chi (os ydych chi wedi gwisgo'n barod)?

3. Ydych chi'n hoff o ymbarel? Esboniwch eich safbwynt hefyd.

4. Beth fyddwch chi'n hoff o'i wneud ar ddiwrnod gwlyb?

5. Beth yw'r un peth mae'n rhaid i chi ei gyflawni dros y penwythnos?

Re: Pump am y Penwythnos, 5.9.2008

PostioPostiwyd: Gwe 05 Medi 2008 10:12 am
gan Hogyn o Rachub
1. Beth oedd y peth cyntaf i chi feddwl wrth godi heddiw?

"Lle ffwc mae'r Snooze?" - 'run peth bob bora i ddweud y gwir yn onast.

2. Beth wisgoch chi (os ydych chi wedi gwisgo'n barod)?

Trowsys gwaith, crys gwaith, sgidiau gwaith.

3. Ydych chi'n hoff o ymbarel? Esboniwch eich safbwynt hefyd.

Yn gyffredinol neu ymbarél benodol? Hm. Wel, dwi'n licio ymbarels mawrion (neu "Man-barél" fel y bydda i'n hoffi ei ddweud) ond dwi'm yn licio rhai bach handi achos dydyn nhw ddim yn fy nghadw yn ddigon sych.

4. Beth fyddwch chi'n hoff o'i wneud ar ddiwrnod gwlyb?

Aros adref, efo tân a phanad a brechdan, neu aros mewn tafarn glyd, efo peint.

5. Beth yw'r un peth mae'n rhaid i chi ei gyflawni dros y penwythnos?

Cofio bod ym Maes Awyr Caerdydd mewn da bryd i gael y ffleit i Hamsterdam neu fydd 'di cachu arna i.

Re: Pump am y Penwythnos, 5.9.2008

PostioPostiwyd: Gwe 05 Medi 2008 11:58 am
gan Tracsiwt Gwyrdd
1. Beth oedd y peth cyntaf i chi feddwl wrth godi heddiw?
ma'n rhaid i fi ga'l diet coke.
2. Beth wisgoch chi (os ydych chi wedi gwisgo'n barod)?
gwn nos.
3. Ydych chi'n hoff o ymbarel? Esboniwch eich safbwynt hefyd.
yndw. ond wedi colli f'un i yn y green man... ynghyd a 'mhen.
4. Beth fyddwch chi'n hoff o'i wneud ar ddiwrnod gwlyb?
gwylio ffilm a buta siocled.
5. Beth yw'r un peth mae'n rhaid i chi ei gyflawni dros y penwythnos?
clirio'r ty, golchi dillad a'u cadw, mynd allan i fangor, a pheidio mynd i barti wedyn ac aros allan drw'r nos. :?

Re: Pump am y Penwythnos, 5.9.2008

PostioPostiwyd: Gwe 05 Medi 2008 12:16 pm
gan sian
1. Beth oedd y peth cyntaf i chi feddwl wrth godi heddiw?
Sgwn i odi'r we'n gweithio (roedd JCB wedi torri trwy'r cebl ddoe mae'n debyg)
2. Beth wisgoch chi (os ydych chi wedi gwisgo'n barod)?
jîns, crys T a jymper.
3. Ydych chi'n hoff o ymbarel? Esboniwch eich safbwynt hefyd.
Nadw. Erioed wedi meistroli'r grefft o ddefnyddio un.
4. Beth fyddwch chi'n hoff o'i wneud ar ddiwrnod gwlyb?
oes dewis?
5. Beth yw'r un peth mae'n rhaid i chi ei gyflawni dros y penwythnos?
clirio, gwneud biliau, paratoi gwers Ysgol Sul - ond beryg mai dim ond yr ola wna'i

Re: Pump am y Penwythnos, 5.9.2008

PostioPostiwyd: Gwe 05 Medi 2008 12:22 pm
gan Gowpi
1. Beth oedd y peth cyntaf i chi feddwl wrth godi heddiw?
Mae'n pisho lawr a glaw ETO!
2. Beth wisgoch chi (os ydych chi wedi gwisgo'n barod)?
Jeans, top glas, a belt newydd wy wedi'i gael wrth Amnest (un o ddefnydd hyfryd!)
3. Ydych chi'n hoff o ymbarel? Esboniwch eich safbwynt hefyd.
Cot law fydda' i'n ei wisgo - fy nghadw'n sych yn well.
4. Beth fyddwch chi'n hoff o'i wneud ar ddiwrnod gwlyb?
Edrych ar ffilm, cwtsho ar y soffa, darllen nofel dda, paned o de...
5. Beth yw'r un peth mae'n rhaid i chi ei gyflawni dros y penwythnos?
Dychwelyd i Dresaith (man gwaith) i droi pethe i ffwrdd yn y Ganolfan a'r fflatiau gwyliau - pawb wedi gadael ar ol yr haf nawr!

Re: Pump am y Penwythnos, 5.9.2008

PostioPostiwyd: Gwe 05 Medi 2008 12:48 pm
gan joni
1. Beth oedd y peth cyntaf i chi feddwl wrth godi heddiw?
"Ma rhaid mynd i gwaith yn gynnar heddi achos bod fi moyn gorffen yn gynnar i gwrdd a'r boi central heating"

2. Beth wisgoch chi (os ydych chi wedi gwisgo'n barod)?
Jeans, trainers, pans, sannau, t-shirt, tracksuit top, cot. Ond dim cweit yn yr ordyr yna.

3. Ydych chi'n hoff o ymbarel? Esboniwch eich safbwynt hefyd.
Wi'n hoffi fy ambarel golff wrth wylie chwaraeon yn y glaw. Ond ma nhw'n poen yn tin wrth gerdded lawr y stryd am bod rhaid ceisio cymryd llyged pobl mas efo'r bits pointy.

4. Beth fyddwch chi'n hoff o'i wneud ar ddiwrnod gwlyb?
Aros mewn.

5. Beth yw'r un peth mae'n rhaid i chi ei gyflawni dros y penwythnos?
Tynnu'r holl boards allan o'r attic fel bod y boi gwres canolog (gw. 1) yn gallu rhoi peips lan yna.

Re: Pump am y Penwythnos, 5.9.2008

PostioPostiwyd: Gwe 05 Medi 2008 1:04 pm
gan Cymro13
1. Beth oedd y peth cyntaf i chi feddwl wrth godi heddiw?

Bo fi dal yn Jet Lagged ar ol bod yn America

2. Beth wisgoch chi (os ydych chi wedi gwisgo'n barod)?

Crys a Jins i gwaith

3. Ydych chi'n hoff o ymbarel? Esboniwch eich safbwynt hefyd.

Ydw on ddim pan ma hi'n wyntog achos bo nhw wasted yn torri

4. Beth fyddwch chi'n hoff o'i wneud ar ddiwrnod gwlyb?

Aros mewn

5. Beth yw'r un peth mae'n rhaid i chi ei gyflawni dros y penwythnos?

Cysgu

Re: Pump am y Penwythnos, 5.9.2008

PostioPostiwyd: Gwe 05 Medi 2008 1:39 pm
gan Dwlwen
1. Beth oedd y peth cyntaf i chi feddwl wrth godi heddiw?
Croesi 'mysedd na fydde fe'n gorfodi fi fynd i rhedeg.

2. Beth wisgoch chi (os ydych chi wedi gwisgo'n barod)?
Blydi dillad rhedeg.

3. Ydych chi'n hoff o ymbarel? Esboniwch eich safbwynt hefyd.
Ma rhyw egni talismanaidd i'n un i. Os ai i'r drafferth o'i gario fe, 'neith hi'm bwrw. Os ai allan heb, ddaf fi getre'n tswps.

4. Beth fyddwch chi'n hoff o'i wneud ar ddiwrnod gwlyb?
Cadw'n sych.

5. Beth yw'r un peth mae'n rhaid i chi ei gyflawni dros y penwythnos?
Gweu cap, a dysgu shwd i weu menig.

Re: Pump am y Penwythnos, 5.9.2008

PostioPostiwyd: Gwe 05 Medi 2008 1:41 pm
gan Sili
1. Beth oedd y peth cyntaf i chi feddwl wrth godi heddiw?
Argh! Dwi'n hwwwyr! (i be, dwnim. Doedd gennai bygyr ol i neud heddiw)

2. Beth wisgoch chi (os ydych chi wedi gwisgo'n barod)?
Duvet am fy nghanol wrth redeg am y gawod cyn i neb fy ngweld.

3. Ydych chi'n hoff o ymbarel? Esboniwch eich safbwynt hefyd.
Ydw. Ma gennai ffantasi o gael defnyddio ymbarel fawr ddu i fygwth a prodio rhywun diarth ar y stryd mewn acen Saesneg posh. What-ho!

4. Beth fyddwch chi'n hoff o'i wneud ar ddiwrnod gwlyb?
Gwisgo sandalau a cerdded drwy pob pwll dwr ar fy ffordd.

5. Beth yw'r un peth mae'n rhaid i chi ei gyflawni dros y penwythnos?
Cyrraedd Llundain via Caerdydd mewn un darn er mwyn cael gweld Old Crow Medicine Show :D

Re: Pump am y Penwythnos, 5.9.2008

PostioPostiwyd: Gwe 05 Medi 2008 2:32 pm
gan ceribethlem
1. Beth oedd y peth cyntaf i chi feddwl wrth godi heddiw?
O ffyc.

2. Beth wisgoch chi (os ydych chi wedi gwisgo'n barod)?
Dillad ysgol fi.

3. Ydych chi'n hoff o ymbarel? Esboniwch eich safbwynt hefyd.
Odw, heddi. Achos mae'n pisho lawr.

4. Beth fyddwch chi'n hoff o'i wneud ar ddiwrnod gwlyb?
Cysgu

5. Beth yw'r un peth mae'n rhaid i chi ei gyflawni dros y penwythnos?
Rhoi hen chwareuwr DVD i'm chwaer yng Nghaerdydd a chasglu fy NVD's Heroes wrth chwaer MrsB