Tudalen 2 o 2

Re: Pump am y Penwythnos, 5.9.2008

PostioPostiwyd: Gwe 05 Medi 2008 4:37 pm
gan Macsen
1. Beth oedd y peth cyntaf i chi feddwl wrth godi heddiw?
Mod i'n casau fy larwm.

2. Beth wisgoch chi (os ydych chi wedi gwisgo'n barod)?
Crys a thei.

3. Ydych chi'n hoff o ymbarel? Esboniwch eich safbwynt hefyd.
Byth yn eu defnyddio nhw wir.

4. Beth fyddwch chi'n hoff o'i wneud ar ddiwrnod gwlyb?
Yr un peth ydw i'n ei wneud bob dydd, Pinky - ceisio cymryd drosodd y byd!

5. Beth yw'r un peth mae'n rhaid i chi ei gyflawni dros y penwythnos?
Mynychu ryw gyfarfod llenyddol heno, helpu rywun i symud mewn i fy nhy bore fory, a mynd i barti nos fory. Dydd Sul aros yn gwely.

Re: Pump am y Penwythnos, 5.9.2008

PostioPostiwyd: Gwe 05 Medi 2008 4:53 pm
gan osian
1. Beth oedd y peth cyntaf i chi feddwl wrth godi heddiw?
mor dywyll o'dd hi tu allan.

2. Beth wisgoch chi (os ydych chi wedi gwisgo'n barod)?
dim byd diddorol. dillad cyffredin iawn

3. Ydych chi'n hoff o ymbarel? Esboniwch eich safbwynt hefyd.

Yndw wir, er nad o's gin i'r un. dwin hoff iawn o;r syniad o allu cerddad drwy;r glaw heb got law a peidio g'lychu. petha difyr iawn ydynt.

4. Beth fyddwch chi'n hoff o'i wneud ar ddiwrnod gwlyb?

cadw'n sych

5. Beth yw'r un peth mae'n rhaid i chi ei gyflawni dros y penwythnos?
Ffeindio porth iago. os di'n bwrw, ffeindio Ty Newydd Sarn, sy ddim yn anodd iawn.

Re: Pump am y Penwythnos, 5.9.2008

PostioPostiwyd: Gwe 05 Medi 2008 4:59 pm
gan Ray Diota
1. Beth oedd y peth cyntaf i chi feddwl wrth godi heddiw?

Yw'r ffacin ffrij di bod ar agor trwy'r nos? Do. Shit.

2. Beth wisgoch chi (os ydych chi wedi gwisgo'n barod)?

Gwisgo'n smart i berswadio'r Banque Populaire de l'Ouest i fenthyg 500 ewro i fi. Fe nathon nhw. Resultat!

3. Ydych chi'n hoff o ymbarel? Esboniwch eich safbwynt hefyd.

Hmmm. Na... ma nhw mwy o boen yn tin nag o werth rili.

4. Beth fyddwch chi'n hoff o'i wneud ar ddiwrnod gwlyb?

Chware gems ar y compiwtyr... joio bod mewn a clywed y glaw ar y fenest, gweud gwir.

5. Beth yw'r un peth mae'n rhaid i chi ei gyflawni dros y penwythnos?

Ffindo tafarn sy 'da Sky Sports - anhebygol medde nhw wrtho fi. :(

Re: Pump am y Penwythnos, 5.9.2008

PostioPostiwyd: Gwe 05 Medi 2008 5:19 pm
gan Manon
1. Beth oedd y peth cyntaf i chi feddwl wrth godi heddiw?
Pam bod 'na Domos y Tanc yn cael ei dynnu ar draws fy mol? :)

2. Beth wisgoch chi (os ydych chi wedi gwisgo'n barod)?
Jins, crys t a chot fawr melfed- Methu ffindio jympar!

3. Ydych chi'n hoff o ymbarel? Esboniwch eich safbwynt hefyd.
Os mai jest fi sy'n cerdded, yndw. 'Dwi methu rhannu un, neu 'dwi'n siwr o anfon y ffrwd o law i lawr eu cefna' mewn camgymeriad...

4. Beth fyddwch chi'n hoff o'i wneud ar ddiwrnod gwlyb?
Pobi, gwylio ffilmia' Charlie Chaplin, chwara 'pryd yn union mae'r Ddyfi'n mynd i orlifo'.

5. Beth yw'r un peth mae'n rhaid i chi ei gyflawni dros y penwythnos?
Gorffan gwnio sleepsuit i'r bych... Mae'n ooooer 'chi!

Re: Pump am y Penwythnos, 5.9.2008

PostioPostiwyd: Gwe 05 Medi 2008 7:33 pm
gan Chip
1. Beth oedd y peth cyntaf i chi feddwl wrth godi heddiw?

Hogyn o Rachub a ddywedodd:"Lle ffwc mae'r Snooze?" - 'run peth bob bora i ddweud y gwir yn onast.


2. Beth wisgoch chi (os ydych chi wedi gwisgo'n barod)?
trowsus a crys t
3. Ydych chi'n hoff o ymbarel? Esboniwch eich safbwynt hefyd.
dwi'n hoff o rhoi fy mhen dan ymbarels pobl arall ond allen i byth cario un rownd trwy'r dydd
4. Beth fyddwch chi'n hoff o'i wneud ar ddiwrnod gwlyb?
aros mewn
5. Beth yw'r un peth mae'n rhaid i chi ei gyflawni dros y penwythnos?
darllen llyfr

Re: Pump am y Penwythnos, 5.9.2008

PostioPostiwyd: Gwe 05 Medi 2008 9:50 pm
gan Mali
1. Beth oedd y peth cyntaf i chi feddwl wrth godi heddiw?
Diwrnod rhydd...dim gwaith !

2. Beth wisgoch chi (os ydych chi wedi gwisgo'n barod)?
Trowsus Capri golau a crys t.

3. Ydych chi'n hoff o ymbarel? Esboniwch eich safbwynt hefyd.
Gas gen i nhw...pethau i'w anghofio a'u gadael ar ôl.

4. Beth fyddwch chi'n hoff o'i wneud ar ddiwrnod gwlyb?
Aros yn ty.

5. Beth yw'r un peth mae'n rhaid i chi ei gyflawni dros y penwythnos?
Ffonio'n chwaer yng Nghymru !

Re: Pump am y Penwythnos, 5.9.2008

PostioPostiwyd: Sad 06 Medi 2008 9:47 am
gan Cacamwri
1. Beth oedd y peth cyntaf i chi feddwl wrth godi heddiw?
Am 8.10yb - "Yes, ma mari wedi penderfynu cal lie in am tshenj!"

2. Beth wisgoch chi (os ydych chi wedi gwisgo'n barod)?
Jins, siwmper a threinyrs.

3. Ydych chi'n hoff o ymbarel? Esboniwch eich safbwynt hefyd.
Byth yn defnyddio ymbarel - nai jest rhedeg os dw i'n y glaw, neu osgoi mynd mas.

4. Beth fyddwch chi'n hoff o'i wneud ar ddiwrnod gwlyb?
Swatio ar y soffa.

5. Beth yw'r un peth mae'n rhaid i chi ei gyflawni dros y penwythnos?
Dod o'r parti gwaith heno heb neud ffwl o fy hun, ac heb feddwi'n gocyls a chwydu dros bob man. (felly macsen, paid a mentro sbeicio'n niod i!)

Re: Pump am y Penwythnos, 5.9.2008

PostioPostiwyd: Sul 07 Medi 2008 9:52 pm
gan krustysnaks
1. Beth oedd y peth cyntaf i chi feddwl wrth godi heddiw?
"Yrgh."

2. Beth wisgoch chi (os ydych chi wedi gwisgo'n barod)?
Siwmper las a streips du, jîns.

3. Ydych chi'n hoff o ymbarel? Esboniwch eich safbwynt hefyd.
Na, ddim felly. Gwell gen i gôt law dda - cadw'r dwylo'n rhydd.

4. Beth fyddwch chi'n hoff o'i wneud ar ddiwrnod gwlyb?
Aros ddigon pell o'r glaw.

5. Beth yw'r un peth mae'n rhaid i chi ei gyflawni dros y penwythnos?
Cael lie-in. Mae'r penwythnos yma wedi bod yn fethiant, felly.