1. Beth oedd y peth diwethaf i chi dalu arian amdano?
Gwerth £20 o betrol.
2. Beth oedd y peth diwethaf i chi grefftio â llaw?
Nes i neud shelves i'r cwpwrdd crasu dydd sul dwetha. Wy'n gweud "neud shelves" ond dim ond torri darne o 2x1 a hoelio nhw at eu gilydd odd angen neud. A do, nes i bwrw fy mys gyda'r ffacing morthwl.
3. Ble oedd y lle diwethaf i chi deithio mewn car?
Llanrhystud i Aberystwyth via Lledrod.
4. Ble oedd y lle olaf i chi gerdded mwy na hanner awr i’w gyrraedd?
Sai'n cofio o gwbl. Gwarthus, rili.
5. Beth yw’r anrheg fwyaf rhyfedd i chi dderbyn erioed?
Cofio cael raced tenis un dolig. Sai'n hoffi tenis. Ac yn sicr sai'n mynd i whare tenis adeg dolig.