pump am y penwythnos 19/9/08

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

pump am y penwythnos 19/9/08

Postiogan Dwlwen » Gwe 19 Medi 2008 9:28 am

1. Beth oedd y peth diwethaf i chi dalu arian amdano?
2. Beth oedd y peth diwethaf i chi grefftio â llaw?
3. Ble oedd y lle diwethaf i chi deithio mewn car?
4. Ble oedd y lle olaf i chi gerdded mwy na hanner awr i’w gyrraedd?
5. Beth yw’r anrheg fwyaf rhyfedd i chi dderbyn erioed?
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: pump am y penwythnos 19/9/08

Postiogan Cymro13 » Gwe 19 Medi 2008 9:40 am

1. Beth oedd y peth diwethaf i chi dalu arian amdano?

Coffi Americano

2. Beth oedd y peth diwethaf i chi wneud gyda llaw?

Ateb Ffon

3. Ble oedd y lle diwethaf i chi deithio mewn car?

Aberystwyth

4. Ble oedd y lle olaf i chi gerdded mwy na hanner awr i’w gyrraedd?

I'r gwaith bore ma

5. Beth yw’r anrheg fwyaf rhyfedd i chi dderbyn erioed?

Sebon Playboy :?
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Re: pump am y penwythnos 19/9/08

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 19 Medi 2008 9:44 am

1. Beth oedd y peth diwethaf i chi dalu arian amdano?

Dau frwsh dannedd, Lenor, grawnfwyd Almaenig a batris. Caru Lidl.

2. Beth oedd y peth diwethaf i chi wneud gyda llaw?

Teipio - ydi hynny'n cyfri?

3. Ble oedd y lle diwethaf i chi deithio mewn car?

Lidl

4. Ble oedd y lle olaf i chi gerdded mwy na hanner awr i’w gyrraedd?

Y gwaith - bora 'ma.

5. Beth yw’r anrheg fwyaf rhyfedd i chi dderbyn erioed?

Naill ai inflatable referee neu lyfr "Cymeriadau Ynys Môn"
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: pump am y penwythnos 19/9/08

Postiogan Llefenni » Gwe 19 Medi 2008 9:44 am

1. Beth oedd y peth diwethaf i chi dalu arian amdano?

Wel, efo carden, llwythi Ewros i'r gwyliau dydd Mercher 8)

2. Beth oedd y peth diwethaf i chi wneud gyda llaw?

Creu 'llu? Ym, breichledi cyfeillgarwch, retro!

3. Ble oedd y lle diwethaf i chi deithio mewn car?

I'r gwaith borema, cyn hyna, Caerffili - lle gwerth ei weld gyda llaw.

4. Ble oedd y lle olaf i chi gerdded mwy na hanner awr i’w gyrraedd?

Brighton Seal Life Centre - i weld tyrtls yn paru!

5. Beth yw’r anrheg fwyaf rhyfedd i chi dderbyn erioed?

Ym... dwi'n berson sy wastad yn exited am anrhegion, a felly yn gwerthfawrogi nhw i gyd... pah, ateb rybish!
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Re: pump am y penwythnos 19/9/08

Postiogan Dwlwen » Gwe 19 Medi 2008 9:54 am

Llefenni a ddywedodd:2. Beth oedd y peth diwethaf i chi wneud gyda llaw?
Creu 'llu?

Iep. Creu/ crefftio... newidai hwnna nawr.
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: pump am y penwythnos 19/9/08

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 19 Medi 2008 10:04 am

1. Beth oedd y peth diwethaf i chi dalu arian amdano?

Potel o win, carton o lefrith, pedair roll 'half-baked' a pot o chilli sauce o Somerfield neithiwr.

2. Beth oedd y peth diwethaf i chi grefftio â llaw?

Wel, dwi heb grefftio dim ers tro. Ond nes i goginio stecen nos Farwth efo llaw.

3. Ble oedd y lle diwethaf i chi deithio mewn car?

I'r gwaith bore ma

4. Ble oedd y lle olaf i chi gerdded mwy na hanner awr i’w gyrraedd?

Wel es i am dro neithiwr nath gymryd rhyw awr, ond cyrraedd nol adre nes i

5. Beth yw’r anrheg fwyaf rhyfedd i chi dderbyn erioed?[/quote]

Tap McAlmont and Butler gan fy nghariad cynta yn yr ysgol. Doedd gen i'm clem pwy oedden nhw.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: pump am y penwythnos 19/9/08

Postiogan ceribethlem » Gwe 19 Medi 2008 10:06 am

1. Beth oedd y peth diwethaf i chi dalu arian amdano?
Wedi prynu Feast neithiwr ar ol bod yn y bar Sucshi yn Uplands. Mynd i dalu am fry-up am 1:30.

2. Beth oedd y peth diwethaf i chi grefftio â llaw?
Cinio dydd Sul yn cyfri? Neu Brechdanau?

3. Ble oedd y lle diwethaf i chi deithio mewn car?
Gwaith, bore 'ma.

4. Ble oedd y lle olaf i chi gerdded mwy na hanner awr i’w gyrraedd?
Tro dweth o'n i'n feddw sbo. DDim yn cofio off top mhen.

5. Beth yw’r anrheg fwyaf rhyfedd i chi dderbyn erioed?
Ges i hofrennydd remote control odd yn pallu mynd yn iawn, ac yn cadw crasho, ddim yn rhyfedd iawn, ond methu meddwl am ddim byd arall.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: pump am y penwythnos 19/9/08

Postiogan krustysnaks » Gwe 19 Medi 2008 10:07 am

1. Beth oedd y peth diwethaf i chi dalu arian amdano?
Cael torri goriad.

2. Beth oedd y peth diwethaf i chi grefftio â llaw?
Dim syniad. Fues i'n doodlo tra'r oeddwn i ar y ffôn bnawn ddoe.

3. Ble oedd y lle diwethaf i chi deithio mewn car?
O Gaernarfon i Bow Street.

4. Ble oedd y lle olaf i chi gerdded mwy na hanner awr i’w gyrraedd?
Rhywle yng Nghaer-grawnt mae'n siwr - doedd dim car na beic gen i yno, dim ond fy nhraed.

5. Beth yw’r anrheg fwyaf rhyfedd i chi dderbyn erioed?
Rhywbeth gan tafod_bach. Mae na ormod o anrhegion rhyfedd i ddewis ohonynt!
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: pump am y penwythnos 19/9/08

Postiogan Gowpi » Gwe 19 Medi 2008 10:29 am

1. Beth oedd y peth diwethaf i chi dalu arian amdano?
Sosej a chips ddwywaith i swper neithiwr yn Castell Newydd Emlyn.
2. Beth oedd y peth diwethaf i chi grefftio â llaw?
Rhan o'm gwaith yw llosgi enwau ar ledr a phren...
3. Ble oedd y lle diwethaf i chi deithio mewn car?
Tresaith (gwaith)
4. Ble oedd y lle olaf i chi gerdded mwy na hanner awr i’w gyrraedd?
Rownd tref Caerfyrddin gwlei, cyrraedd? - gwahanol siopau.
5. Beth yw’r anrheg fwyaf rhyfedd i chi dderbyn erioed?
Pyped llaw jiraff - pan yn 30.
I'r rheiny nad sy'n credu bod y pethe bach yn neud gwa'niaeth, triwch rannu stafell gyda mosgito.
Rhithffurf defnyddiwr
Gowpi
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 580
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 12:51 pm
Lleoliad: cadw cwmni cwn annwn

Re: pump am y penwythnos 19/9/08

Postiogan Ar Mada » Gwe 19 Medi 2008 10:35 am

1. Beth oedd y peth diwethaf i chi dalu arian amdano?
Paced o mins, caws Llyn, Cambrian News

2. Beth oedd y peth diwethaf i chi grefftio â llaw?
Tysan

3. Ble oedd y lle diwethaf i chi deithio mewn car?
Dolgellau, mynd a cath fy Mam i'r Vet.

4. Ble oedd y lle olaf i chi gerdded mwy na hanner awr i’w gyrraedd?
Y Ring, dros y mynydd.

5. Beth yw’r anrheg fwyaf rhyfedd i chi dderbyn erioed?
Syrcas
Cimwch?
Rhithffurf defnyddiwr
Ar Mada
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 90
Ymunwyd: Maw 22 Meh 2004 10:18 pm
Lleoliad: Mewn weiran

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai