Tudalen 1 o 2
pump am y penwythnos 19/9/08
Postiwyd:
Gwe 19 Medi 2008 9:28 am
gan Dwlwen
1. Beth oedd y peth diwethaf i chi dalu arian amdano?
2. Beth oedd y peth diwethaf i chi grefftio â llaw?
3. Ble oedd y lle diwethaf i chi deithio mewn car?
4. Ble oedd y lle olaf i chi gerdded mwy na hanner awr i’w gyrraedd?
5. Beth yw’r anrheg fwyaf rhyfedd i chi dderbyn erioed?
Re: pump am y penwythnos 19/9/08
Postiwyd:
Gwe 19 Medi 2008 9:40 am
gan Cymro13
1. Beth oedd y peth diwethaf i chi dalu arian amdano?Coffi Americano
2. Beth oedd y peth diwethaf i chi wneud gyda llaw?Ateb Ffon
3. Ble oedd y lle diwethaf i chi deithio mewn car?Aberystwyth
4. Ble oedd y lle olaf i chi gerdded mwy na hanner awr i’w gyrraedd?I'r gwaith bore ma
5. Beth yw’r anrheg fwyaf rhyfedd i chi dderbyn erioed?Sebon Playboy
Re: pump am y penwythnos 19/9/08
Postiwyd:
Gwe 19 Medi 2008 9:44 am
gan Hogyn o Rachub
1. Beth oedd y peth diwethaf i chi dalu arian amdano?
Dau frwsh dannedd, Lenor, grawnfwyd Almaenig a batris. Caru Lidl.
2. Beth oedd y peth diwethaf i chi wneud gyda llaw?
Teipio - ydi hynny'n cyfri?
3. Ble oedd y lle diwethaf i chi deithio mewn car?
Lidl
4. Ble oedd y lle olaf i chi gerdded mwy na hanner awr i’w gyrraedd?
Y gwaith - bora 'ma.
5. Beth yw’r anrheg fwyaf rhyfedd i chi dderbyn erioed?
Naill ai inflatable referee neu lyfr "Cymeriadau Ynys Môn"
Re: pump am y penwythnos 19/9/08
Postiwyd:
Gwe 19 Medi 2008 9:44 am
gan Llefenni
1. Beth oedd y peth diwethaf i chi dalu arian amdano?Wel, efo carden, llwythi Ewros i'r gwyliau dydd Mercher
2. Beth oedd y peth diwethaf i chi wneud gyda llaw?Creu 'llu? Ym, breichledi cyfeillgarwch, retro!
3. Ble oedd y lle diwethaf i chi deithio mewn car?I'r gwaith borema, cyn hyna, Caerffili - lle gwerth ei weld gyda llaw.
4. Ble oedd y lle olaf i chi gerdded mwy na hanner awr i’w gyrraedd?Brighton Seal Life Centre - i weld tyrtls yn paru!
5. Beth yw’r anrheg fwyaf rhyfedd i chi dderbyn erioed?Ym... dwi'n berson sy wastad yn exited am anrhegion, a felly yn gwerthfawrogi nhw i gyd... pah, ateb rybish!
Re: pump am y penwythnos 19/9/08
Postiwyd:
Gwe 19 Medi 2008 9:54 am
gan Dwlwen
Llefenni a ddywedodd:2. Beth oedd y peth diwethaf i chi wneud gyda llaw?
Creu 'llu?
Iep. Creu/ crefftio... newidai hwnna nawr.
Re: pump am y penwythnos 19/9/08
Postiwyd:
Gwe 19 Medi 2008 10:04 am
gan Mr Gasyth
1. Beth oedd y peth diwethaf i chi dalu arian amdano?
Potel o win, carton o lefrith, pedair roll 'half-baked' a pot o chilli sauce o Somerfield neithiwr.
2. Beth oedd y peth diwethaf i chi grefftio â llaw?
Wel, dwi heb grefftio dim ers tro. Ond nes i goginio stecen nos Farwth efo llaw.
3. Ble oedd y lle diwethaf i chi deithio mewn car?
I'r gwaith bore ma
4. Ble oedd y lle olaf i chi gerdded mwy na hanner awr i’w gyrraedd?
Wel es i am dro neithiwr nath gymryd rhyw awr, ond cyrraedd nol adre nes i
5. Beth yw’r anrheg fwyaf rhyfedd i chi dderbyn erioed?[/quote]
Tap McAlmont and Butler gan fy nghariad cynta yn yr ysgol. Doedd gen i'm clem pwy oedden nhw.
Re: pump am y penwythnos 19/9/08
Postiwyd:
Gwe 19 Medi 2008 10:06 am
gan ceribethlem
1. Beth oedd y peth diwethaf i chi dalu arian amdano?
Wedi prynu Feast neithiwr ar ol bod yn y bar Sucshi yn Uplands. Mynd i dalu am fry-up am 1:30.
2. Beth oedd y peth diwethaf i chi grefftio â llaw?
Cinio dydd Sul yn cyfri? Neu Brechdanau?
3. Ble oedd y lle diwethaf i chi deithio mewn car?
Gwaith, bore 'ma.
4. Ble oedd y lle olaf i chi gerdded mwy na hanner awr i’w gyrraedd?
Tro dweth o'n i'n feddw sbo. DDim yn cofio off top mhen.
5. Beth yw’r anrheg fwyaf rhyfedd i chi dderbyn erioed?
Ges i hofrennydd remote control odd yn pallu mynd yn iawn, ac yn cadw crasho, ddim yn rhyfedd iawn, ond methu meddwl am ddim byd arall.
Re: pump am y penwythnos 19/9/08
Postiwyd:
Gwe 19 Medi 2008 10:07 am
gan krustysnaks
1. Beth oedd y peth diwethaf i chi dalu arian amdano?
Cael torri goriad.
2. Beth oedd y peth diwethaf i chi grefftio â llaw?
Dim syniad. Fues i'n doodlo tra'r oeddwn i ar y ffôn bnawn ddoe.
3. Ble oedd y lle diwethaf i chi deithio mewn car?
O Gaernarfon i Bow Street.
4. Ble oedd y lle olaf i chi gerdded mwy na hanner awr i’w gyrraedd?
Rhywle yng Nghaer-grawnt mae'n siwr - doedd dim car na beic gen i yno, dim ond fy nhraed.
5. Beth yw’r anrheg fwyaf rhyfedd i chi dderbyn erioed?
Rhywbeth gan tafod_bach. Mae na ormod o anrhegion rhyfedd i ddewis ohonynt!
Re: pump am y penwythnos 19/9/08
Postiwyd:
Gwe 19 Medi 2008 10:29 am
gan Gowpi
1. Beth oedd y peth diwethaf i chi dalu arian amdano?
Sosej a chips ddwywaith i swper neithiwr yn Castell Newydd Emlyn.
2. Beth oedd y peth diwethaf i chi grefftio â llaw?
Rhan o'm gwaith yw llosgi enwau ar ledr a phren...
3. Ble oedd y lle diwethaf i chi deithio mewn car?
Tresaith (gwaith)
4. Ble oedd y lle olaf i chi gerdded mwy na hanner awr i’w gyrraedd?
Rownd tref Caerfyrddin gwlei, cyrraedd? - gwahanol siopau.
5. Beth yw’r anrheg fwyaf rhyfedd i chi dderbyn erioed?
Pyped llaw jiraff - pan yn 30.
Re: pump am y penwythnos 19/9/08
Postiwyd:
Gwe 19 Medi 2008 10:35 am
gan Ar Mada
1. Beth oedd y peth diwethaf i chi dalu arian amdano?
Paced o mins, caws Llyn, Cambrian News
2. Beth oedd y peth diwethaf i chi grefftio â llaw?
Tysan
3. Ble oedd y lle diwethaf i chi deithio mewn car?
Dolgellau, mynd a cath fy Mam i'r Vet.
4. Ble oedd y lle olaf i chi gerdded mwy na hanner awr i’w gyrraedd?
Y Ring, dros y mynydd.
5. Beth yw’r anrheg fwyaf rhyfedd i chi dderbyn erioed?
Syrcas