Tudalen 2 o 2
Re: pump am y penwythnos 19/9/08
Postiwyd:
Gwe 19 Medi 2008 10:43 am
gan joni
1. Beth oedd y peth diwethaf i chi dalu arian amdano?
Gwerth £20 o betrol.
2. Beth oedd y peth diwethaf i chi grefftio â llaw?
Nes i neud shelves i'r cwpwrdd crasu dydd sul dwetha. Wy'n gweud "neud shelves" ond dim ond torri darne o 2x1 a hoelio nhw at eu gilydd odd angen neud. A do, nes i bwrw fy mys gyda'r ffacing morthwl.
3. Ble oedd y lle diwethaf i chi deithio mewn car?
Llanrhystud i Aberystwyth via Lledrod.
4. Ble oedd y lle olaf i chi gerdded mwy na hanner awr i’w gyrraedd?
Sai'n cofio o gwbl. Gwarthus, rili.
5. Beth yw’r anrheg fwyaf rhyfedd i chi dderbyn erioed?
Cofio cael raced tenis un dolig. Sai'n hoffi tenis. Ac yn sicr sai'n mynd i whare tenis adeg dolig.
Re: pump am y penwythnos 19/9/08
Postiwyd:
Gwe 19 Medi 2008 11:08 am
gan Dwlwen
1. Beth oedd y peth diwethaf i chi dalu arian amdano?
rownd o hanneri. steddon ni yn y pyb yn edrych fel cewri gyda'n gwydrau bach.
2. Beth oedd y peth diwethaf i chi grefftio â llaw?
Menig i Mam. Wy ar ganol 'neud sgarff i fynd 'da nhw.
3. Ble oedd y lle diwethaf i chi deithio mewn car?
Nol i'r ty o tesco dros y penwythnos.
4. Ble oedd y lle olaf i chi gerdded mwy na hanner awr i’w gyrraedd?
Adre, ar ol bod yn y dafarn nithwr.
5. Beth yw’r anrheg fwyaf rhyfedd i chi dderbyn erioed?
Ornament o wyneb amheus-yr-olwg sy'n gwisgo tyrban. Odd y rhoddwr yn grac awn pan *anghofies* bacio fe wrth symud ty. Wy 'di derbyn CD Michael Bolton gan yr un pobl...
Re: pump am y penwythnos 19/9/08
Postiwyd:
Gwe 19 Medi 2008 12:10 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
1. Beth oedd y peth diwethaf i chi dalu arian amdano?\
Fues i'n ddrwg a mynd i'r siop tships neithiwr.
2. Beth oedd y peth diwethaf i chi grefftio â llaw?
Pryd o fwyd nos Fercher.
3. Ble oedd y lle diwethaf i chi deithio mewn car?
I'r Tesco mawr yng Nghaerdydd ddoe.
4. Ble oedd y lle olaf i chi gerdded mwy na hanner awr i’w gyrraedd?
I'r gwaith, gan fod rhywun wedi dwyn fy meic... (ond mae un newydd 'da fi nawr - disc brakes, woo!)
5. Beth yw’r anrheg fwyaf rhyfedd i chi dderbyn erioed?
Odi carden benblwydd yn cyfri? Fe wnaeth ffrind garden i fi gyda llun o'i 'aelod' yn y canol.
Re: pump am y penwythnos 19/9/08
Postiwyd:
Gwe 19 Medi 2008 12:32 pm
gan cyfrinair
1. Beth oedd y peth diwethaf i chi dalu arian amdano?
Tacsi nithwr ar ôl bod yn Y Point
2. Beth oedd y peth diwethaf i chi grefftio â llaw?
Fy ngwallt cyn mynd mas nithwr.
3. Ble oedd y lle diwethaf i chi deithio mewn car?
Tacsi nithwr ar ôl bod yn Y Point
4. Ble oedd y lle olaf i chi gerdded mwy na hanner awr i’w gyrraedd?
Lawr y Bae a nôl, gynne, gyda'r ci.
5. Beth yw’r anrheg fwyaf rhyfedd i chi dderbyn erioed?[/quote]
Chwip bren o Ann Summers.
Re: pump am y penwythnos 19/9/08
Postiwyd:
Gwe 19 Medi 2008 1:04 pm
gan Mwnci Banana Brown
cyfrinair a ddywedodd:5. Beth yw’r anrheg fwyaf rhyfedd i chi dderbyn erioed?
Chwip bren o Ann Summers.
Allai ddod draw i whare?
Re: pump am y penwythnos 19/9/08
Postiwyd:
Gwe 19 Medi 2008 8:56 pm
gan Manon
1. Beth oedd y peth diwethaf i chi dalu arian amdano?Sticer wal o goedan i roi i fyny yn y gegin o Ian Snow.
2. Beth oedd y peth diwethaf i chi grefftio â llaw?Nes i a'r bych wneud bocs tlysau i fy chwaer ar ei phen-blwydd yn ddiweddar.
3. Ble oedd y lle diwethaf i chi deithio mewn car?Adra' o Mach yn yr haul braf!
4. Ble oedd y lle olaf i chi gerdded mwy na hanner awr i’w gyrraedd?Ynys-hir i wylio adar.
5. Beth yw’r anrheg fwyaf rhyfedd i chi dderbyn erioed?Wili bach 'da chi'n weindio fyny ac mae o'n cerddad 'rhyd lle. Yyyy
Re: pump am y penwythnos 19/9/08
Postiwyd:
Sad 20 Medi 2008 6:57 am
gan Mwddrwg
1. Beth oedd y peth diwethaf i chi dalu arian amdano?Hendricks gin a tonic
2. Beth oedd y peth diwethaf i chi grefftio â llaw?Y peth dwetha imi wneud oedd yn gofyn am grefft oedd quiche smoked salmon a dill
3. Ble oedd y lle diwethaf i chi deithio mewn car?i fy nhy newydd efo llond y bwt o geriach
4. Ble oedd y lle olaf i chi gerdded mwy na hanner awr i’w gyrraedd?gwaith - pan yn cerdded yn araf...
5. Beth yw’r anrheg fwyaf rhyfedd i chi dderbyn erioed?ges o ddoli glwt gan fodryb pan o'n i'n 13
Re: pump am y penwythnos 19/9/08
Postiwyd:
Sad 20 Medi 2008 10:02 am
gan Cacamwri
1. Beth oedd y peth diwethaf i chi dalu arian amdano?
Indians tecawe i fi a Siffrwd Helyg neithiwr, a photel o win coch a gwin.
2. Beth oedd y peth diwethaf i chi grefftio â llaw?
Hmm, sa i'n cofio. Ydy gwneud paper mache yn grefft?!
3. Ble oedd y lle diwethaf i chi deithio mewn car?
I hol yr indians neithiwr. Er bo fi'n agos i'r siop, sa i'n lico cerdded ar ben fy hun yn y nos...
4. Ble oedd y lle olaf i chi gerdded mwy na hanner awr i’w gyrraedd?
Doedd e ddim yn hela hanner awr...ond fore Iau nes i gerdded lan i'r ysgol gynradd i fynd a mari i'r cylch ti a fi. o'n i wedi anghofio pa mor serth oedd rhiw Seion!
5. Beth yw’r anrheg fwyaf rhyfedd i chi dderbyn erioed?
Jiw, sai'n cofio...ddim yn meddwl bo fi wedi cael dim byd rhyfedd, diolch byth.
Re: pump am y penwythnos 19/9/08
Postiwyd:
Sad 20 Medi 2008 10:20 am
gan Chickenfoot
5. Beth yw’r anrheg fwyaf rhyfedd i chi dderbyn erioed?
Mwg o Sbaen yn siap bron, hefo twll yn y nipple.