Tudalen 1 o 1

27/9/08 pump am y penwythnos

PostioPostiwyd: Sad 27 Medi 2008 6:41 pm
gan Cacamwri
1. Beth sydd o dan eich gwely?

2. Beth sy'n gwneud i chi gochi?

3. Os fyddwch chi byw tan bo chi'n gant, sut fyddwch chi'n dathlu?

4. Pan o'ch chi'n blentyn, beth oedd eich hoff fwyd?

5. Ble ydych chi'n mynd i ddianc a chael llonydd?

Re: 27/9/08 pump am y penwythnos

PostioPostiwyd: Sad 27 Medi 2008 9:41 pm
gan ceribethlem
1. Beth sydd o dan eich gwely?
Llwch

2. Beth sy'n gwneud i chi gochi?
Y Larwm, damo fe

3. Os fyddwch chi byw tan bo chi'n gant, sut fyddwch chi'n dathlu?
Yfed can peint (dros gyfnod, nid mewn dwrnod!)

4. Pan o'ch chi'n blentyn, beth oedd eich hoff fwyd?
Chinese take away

5. Ble ydych chi'n mynd i ddianc a chael llonydd?
I fyd fy nychymyg.

Re: 27/9/08 pump am y penwythnos

PostioPostiwyd: Sul 28 Medi 2008 10:58 am
gan Manon
1. Beth sydd o dan eich gwely?
Jympars, llyfra', rhannau o hen bapura' dydd Sul 'dwi byth 'di darllan.

2. Beth sy'n gwneud i chi gochi?
BOB DIM! 'Nenwedig pan ma' pobol yn deud petha' neis.

3. Os fyddwch chi byw tan bo chi'n gant, sut fyddwch chi'n dathlu?
Efo teulu a jin gobeithio 8)

4. Pan o'ch chi'n blentyn, beth oedd eich hoff fwyd?
pic a mics o Wylwyrths bangor. Mmmm llygod siocled gwyn!

5. Ble ydych chi'n mynd i ddianc a chael llonydd?
Ma' 'na fainc yng nghefn yr ardd sy'n sbio dros y caea'. Gwych o le.

Re: 27/9/08 pump am y penwythnos

PostioPostiwyd: Sul 28 Medi 2008 11:04 am
gan Tracsiwt Gwyrdd
1. Beth sydd o dan eich gwely?
porno mags.

2. Beth sy'n gwneud i chi gochi?
lot o betha'. a chochi wedyn wrth feddwl yn ol amdanyn nhw.

3. Os fyddwch chi byw tan bo chi'n gant, sut fyddwch chi'n dathlu?
mynd ar y piss rownd dre fatha bob penblwydd arall siwr.

4. Pan o'ch chi'n blentyn, beth oedd eich hoff fwyd?
sosijis.

5. Ble ydych chi'n mynd i ddianc a chael llonydd?
foryd.