Tudalen 1 o 1

pump am y penwythnos - 7/11/08

PostioPostiwyd: Gwe 07 Tach 2008 1:29 pm
gan Dwlwen
1. Fedrech chi fyw heb ffôn am wythnos?
2. Gyda phwy ‘dy chi’n siarad amlaf ar y ffôn?
3. Beth sy’ well ‘da chi - ffonio, tecstio, e-bost, neu gyrru clomen?
4. Ydych chi’n nabod eich cymdogion?
5. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod ar goll?

Re: pump am y penwythnos - 7/11/08

PostioPostiwyd: Gwe 07 Tach 2008 2:06 pm
gan Macsen
1. Fedrech chi fyw heb ffôn am wythnos?
Na, achos ma fy watsh di stopio rhedeg a dw i angen tsecio'r amser.

2. Gyda phwy ‘dy chi’n siarad amlaf ar y ffôn?
Pwy bynnag ydw i fod i'w gyfweld y diwrnod hwnnw.

3. Beth sy’ well ‘da chi - ffonio, tecstio, e-bost, neu gyrru clomen?
Ffonio os ydw i eisiau gwybodaeth, tsecstio ar gyfer negeseuon byr.

4. Ydych chi’n nabod eich cymdogion?
Dim ond y cathod drws nesa, dim eu perchnogion.

5. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod ar goll?
Wrth geisio ateb y cwestiwn yma. Neu cyn i Sat Navs gael eu dyfeisio.

Re: pump am y penwythnos - 7/11/08

PostioPostiwyd: Gwe 07 Tach 2008 3:22 pm
gan Gowpi
1. Fedrech chi fyw heb ffôn am wythnos?
Yn fy mywyd personol, gallwn, ond ddim yn fy mywyd proffesiynol yn anffodus.
2. Gyda phwy ‘dy chi’n siarad amlaf ar y ffôn?
Fy nghyflogwraig - o leia' am yr hiraf o amser!
3. Beth sy’ well ‘da chi - ffonio, tecstio, e-bost, neu gyrru clomen?
e-bost
4. Ydych chi’n nabod eich cymdogion?
Ydw tamed bach, ond yn cadw i anghofio enwau'r plant.
5. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod ar goll?
Unrhywbryd tra'n gyrru yng Nghaerdydd.

Re: pump am y penwythnos - 7/11/08

PostioPostiwyd: Gwe 07 Tach 2008 3:43 pm
gan Cymro13
1. Fedrech chi fyw heb ffôn am wythnos?

Nes i fyw heb ffon am bythefnos pan on i'n America

2. Gyda phwy ‘dy chi’n siarad amlaf ar y ffôn?

Cwsmeriaid, Awduron blin etc

3. Beth sy’ well ‘da chi - ffonio, tecstio, e-bost, neu gyrru clomen?

Tectio

4. Ydych chi’n nabod eich cymdogion?

Na

5. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod ar goll?

dwi byth yn mynd ar goll

Re: pump am y penwythnos - 7/11/08

PostioPostiwyd: Gwe 07 Tach 2008 3:45 pm
gan Hogyn o Rachub
1. Fedrech chi fyw heb ffôn am wythnos?
Medraf, ond mae'n siwr na fyddwn i'n hapus iawn am y peth.

2. Gyda phwy ‘dy chi’n siarad amlaf ar y ffôn?
'Sgen i ddim syniad - er na allwn fyw heb ffôn y gwir ydi dwi'm yn ei ddefnyddio fo rhyw lawer.

3. Beth sy’ well ‘da chi - ffonio, tecstio, e-bost, neu gyrru clomen?
Ffonio yn bendant

4. Ydych chi’n nabod eich cymdogion?
Ydw tad.

5. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod ar goll?
Gyrru o Aberystwyth i Gaerfyrddin "drwy Gaerfyrddin" - es i'm ar gyfyl y ffycin lle.

Re: pump am y penwythnos - 7/11/08

PostioPostiwyd: Gwe 07 Tach 2008 4:52 pm
gan Manon
1. Fedrech chi fyw heb ffôn am wythnos?
Medrwn, ond 'swn i'n gweld isho gwd malu cach ar ddiwadd y saith diwrnod.

2. Gyda phwy ‘dy chi’n siarad amlaf ar y ffôn?
Fy chwaer.

3. Beth sy’ well ‘da chi - ffonio, tecstio, e-bost, neu gyrru clomen?
Ffonio.

4. Ydych chi’n nabod eich cymdogion?
Yndw ac mae nhw'n lyfli, diolch yn fawr 8)

5. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod ar goll?
Pan es i am dro dros y bryn tu ol i ty ni- Gollish i'r llwybr a gorfod dringo dros ffens i mewn i ardd rhywun yn diwadd :wps:

Re: pump am y penwythnos - 7/11/08

PostioPostiwyd: Gwe 07 Tach 2008 5:14 pm
gan ceribethlem
1. Fedrech chi fyw heb ffôn am wythnos?
Ai shwr o fod, wedi llwyddo bob tro fi'n torri'r ffon yn fy meddwdod.

2. Gyda phwy ‘dy chi’n siarad amlaf ar y ffôn?
Mami a Dadi, sbo

3. Beth sy’ well ‘da chi - ffonio, tecstio, e-bost, neu gyrru clomen?
Byth wedi gyrru colomen, ond bydden i'n dwlu neud. Gan nad oes colomen gyda fi, bydd rhaid mynd am ffon.

4. Ydych chi’n nabod eich cymdogion?
Odw, cyn wraig cyn ddyfarnwr ffeinal Cwpan y Byd 1995, Menyw neis, dod o'r Alban yn wreiddiol.

5. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod ar goll?
Byth yn mynd ar goll, fi fel homing Ceri

Re: pump am y penwythnos - 7/11/08

PostioPostiwyd: Gwe 07 Tach 2008 6:00 pm
gan krustysnaks
1. Fedrech chi fyw heb ffôn am wythnos?
Dwi newydd wneud! Stopiodd fy ngherdyn SIM weithio'n llwyr. Nes i eithaf mwynhau'r profiad, i ddweud y gwir.

2. Gyda phwy ‘dy chi’n siarad amlaf ar y ffôn?
Fy rhieni.

3. Beth sy’ well ‘da chi - ffonio, tecstio, e-bost, neu gyrru clomen?
Ebost neu decstio. Dwi'n anfon cardiau post yn weddol aml a llythyron wedi'u sgwennu gyda llaw weithiau. Dwi ddim yn ffan o siarad ar y ffôn, ond dwi'n gwella.

4. Ydych chi’n nabod eich cymdogion?
Ydw, ar un ochr.

5. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod ar goll?
Roeddwn i ar goll am ychydig bach yn Llundain cwpwl o wythnosau yn ôl tan i mi gofio bod gen i Google Maps ar fy ffôn...

Re: pump am y penwythnos - 7/11/08

PostioPostiwyd: Sad 08 Tach 2008 11:58 am
gan Cacamwri
1. Fedrech chi fyw heb ffôn am wythnos?
Na sa i'n credu 'ny. Blaw bo fi ar wythnos off gwaith. Sen i'n gallu mynd heb ffon yn hawdd os na fydden i'n gweithio.

2. Gyda phwy ‘dy chi’n siarad amlaf ar y ffôn?
Y Golygydd yn ystod orie gwaith.

3. Beth sy’ well ‘da chi - ffonio, tecstio, e-bost, neu gyrru clomen?
Tecstio neu ebost.

4. Ydych chi’n nabod eich cymdogion?
Odw glei. Moira drws nesa' wastad yn rhoi losin i Mari...a'r cymdogion eraill yn neis, ond ma nhw di bod yn ail-wneud y ty yn ddiweddar, felly dy'n nhw ddim yn fy good books, am bo nhw'n cadw Mari'n effro gyda'i drilio!

5. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod ar goll?
O'n i'n trio ffeindio ffordd i'r Amwythig cwpwl o fisoedd yn ol. Aeth y Sat Nav a fi lawr ffyrdd bach llawn mwd. Ych! Twll o le...