Tudalen 1 o 1

Re: Pump am y Penwythnos 14/11/08

PostioPostiwyd: Sad 15 Tach 2008 7:08 pm
gan ceribethlem
1. Mae holl dim rygbi Cymru yn dod draw noson cyn gem vs Seland Newydd. Be wnewch chi goginio iddyn nhw?
Rhywbeth llawn pysgod. Brain food, er mwyn sicrhau canolbwyntiad yn ystod y gem.

2. Beth yw eich atgof gynta' chi?
Grand Slam 1978

3. Ydych chi'n llaw chwith neu'n law dde?
Ydw

4. Ydych chi'n tueddu i weiddi yn ystod gem rygbi, neu gadw'n dawel?
Gwaeddu fel ionc, fel arfer.

5. Beth fyddai brawddeg ola' yn eich nofel, pe baech chi'n sgwennu un?
"Pan ddihunodd, sylwodd nad breuddwyd oedd y cyfan."

Re: Pump am y Penwythnos 14/11/08

PostioPostiwyd: Sad 15 Tach 2008 8:47 pm
gan Cacamwri
1. Mae holl dim rygbi Cymru yn dod draw noson cyn gem vs Seland Newydd. Be wnewch chi goginio iddyn nhw?
Sosej, beans a chips. We hei!

2. Beth yw eich atgof gynta' chi?
Fy modryb yn fy nghario i draw i'r fan hufen ia pan o'n i tua dwy oed.

3. Ydych chi'n llaw chwith neu'n law dde?
Llaw dde...ond fel Manon, fi'n lico smalio bo fi'n ferch fach to, ac yn sgwennu gyda fy llaw chwith. Ond wrth sgwennu nodiadau yn y gwaith pan yn cyfweld gyda rhywun, ma'r sgrifen yn edrych fel pe bai 'mod i wedi defnyddio fy llaw chwith...annealladwy!

4. Ydych chi'n tueddu i weiddi yn ystod gem rygbi, neu gadw'n dawel?
Cadw'n dawel. Sa i'n deall y blydi gem.

5. Beth fyddai brawddeg ola' yn eich nofel, pe baech chi'n sgwennu un?

A dyna pam mai'r iach y gach y bore.