Tudalen 1 o 2

Re: pump am y penwythnos 21.11.08

PostioPostiwyd: Gwe 21 Tach 2008 1:13 pm
gan ceribethlem
1. Beth wnaeth eich gwylltio yr wythnos hon?
Ffacin plymyr twp yn rhoi'r peiriant golchi nol, gyda'r hosen twym yn mynd i'r tap oer, a'r hosen oer yn mynd i'r tap twym. Blydi dillad wedi shrinko yn y dwr berwi!

2. Beth oedd yn ddiflas yr wythnos hon?
Dysgu Blwyddyn 8, wostod yn ddiflas. Ffycyrs bach.

3. Beth wnaeth godi’ch calon (wedi i chi wylltio a diflasi…)?
Crys T newydd fi heb shrinko yn y golch.

4. Beth sydd ar y gweill dros y penwythnos?
Seshwn yn Aber gyda Iestyn ap a'r criw.

5. Beth ‘dy chi’n edrych ‘mlaen ato'r wythnos nesa?
Alex Beavis yn gwneud ei phrawf o'r diwedd! Dim ond wythnos yn hwyr!