Tudalen 1 o 1
Pump am y Penwythnos 6/2/09
Postiwyd:
Gwe 06 Chw 2009 3:39 pm
gan Gowpi
1. Dy hoff gof o fod yn yr eira?
2. Dy hoff hufen ia?
3. Sut y gelli esbonio beth yw Eira i rywun o Cameroon?
4. Mae fy nhraed i fel plocs o ia - sut mae dy rai di?
5. Ymateb 'Prydeinig' wedi mynd dros ben llestri gyda'r holl eira hyn?
Re: Pump am y Penwythnos 6/2/09
Postiwyd:
Gwe 06 Chw 2009 3:51 pm
gan Hogyn o Rachub
1. Dy hoff gof o fod yn yr eira?
Dim syniad - ro'n i'n ifanc iawn pan oedd hi'n bwrw eira yn rheolaidd, ond dwi'n cofio mynd am dro efo mam a'r chwaer o amgylch caeau Ysgol Llanllechid pan roedd 'rysgol 'di cau rhywbryd a'r eira ddwfn iawn.
2. Dy hoff hufen ia?
Mint Choc Chip
3. Sut y gelli esbonio beth yw Eira i rywun o Cameroon?
Hah, o'n i'n meddwl i Cameron oedd hwnnw rwan! Dwi am osgoi'r cwestiwn drwy ddweud na fydda i byth yn cwrdd â rhywun o Gameroon, ac os gwna i ac mae'n o'n sôn am eira dwi am newid y sgwrs.
4. Mae fy nhraed i fel plocs o ia - sut mae dy rai di?
Iawn diolch
5. Ymateb 'Prydeinig' wedi mynd dros ben llestri gyda'r holl eira hyn?
Do Dduw, ac mae'n dangos faint o bolocs ydi'r ddamcaniaeth fod gan Brydeinwyr blitz spirit dydi!
Re: Pump am y Penwythnos 6/2/09
Postiwyd:
Gwe 06 Chw 2009 4:02 pm
gan Gowpi
1. Dy hoff gof o fod yn yr eira?
Swn crensian yr eira o dan fy nhraed pan yn cerdded - pryd bynnag ma' eira.
2. Dy hoff hufen ia?
Celtic crunch - cnau, toffee, siocled... (ges i lolipop yn China gyda pys (a tho bach) ynddo! Ych a fi.
3. Sut y gelli esbonio beth yw Eira i rywun o Cameroon?
Oer, gwyn, tawel, tawel - oni bai bod y cyfrynge'n son amdano!
4. Mae fy nhraed i fel plocs o ia - sut mae dy rai di?
Fel plocs o ia...
5. Ymateb 'Prydeinig' wedi mynd dros ben llestri gyda'r holl eira hyn?
Newyddion nithwr am 10 wir yn neud i fi wherthin - catastrophe llwyr mae'n debyg.
Re: Pump am y Penwythnos 6/2/09
Postiwyd:
Gwe 06 Chw 2009 4:14 pm
gan ceribethlem
1. Dy hoff gof o fod yn yr eira?
Eira mawr dechre'r 80au, 1982? Tunnelli o'r stwff. Gwych.
2. Dy hoff hufen ia?
10 choc ice am 99c o Somerfield
3. Sut y gelli esbonio beth yw Eira i rywun o Cameroon?
Fel tato stwnsh oer yn cwmpo
4. Mae fy nhraed i fel plocs o ia - sut mae dy rai di?
Gwd, diolch.
5. Ymateb 'Prydeinig' wedi mynd dros ben llestri gyda'r holl eira hyn?
Rhywbeth newydd i bobl gwyno am heb wneud dim i helpu byth.
Re: Pump am y Penwythnos 6/2/09
Postiwyd:
Gwe 06 Chw 2009 4:42 pm
gan Kez
1. Dy hoff gof o fod yn yr eira?
Dwyrnod ne ddou off ysgol ac wedyn dwyrnod ne ddou off gwaith pan dyfais yn ddyn
2. Dy hoff hufen ia?
Mint -choc fel ti'n gal gida'r 'cornetos', 'na - ne mas o dwb miwn amall i siop fel un Mrs Davies lle ot ti'n gallu cal sgwp mas o'r twb fruity tuity a chal dewish doti'r mint-choc ar ei ben e.
3. Sut y gelli esbonio beth yw Eira i rywun o Cameroon?
Dwyrnod o ryddid a joio
4. Mae fy nhraed i fel plocs o ia - sut mae dy rai di?
Ma'r cwestiwn 'na bach yn bersonol. A gwed y gwir, ma'n rhaid ifi fynd i weld y meddyg trad ddydd Merchar nesa. Ma 'na rai gwestiynna na ddylset ti ofyn Gowpi - ne ti bown o ypseto rhywun!
5. Ymateb 'Prydeinig' wedi mynd dros ben llestri gyda'r holl eira hyn?
Na, odd a'n siwto fi i'r dim - dim bysus, dim trens = dim gwaith. Gret o beth.
Re: Pump am y Penwythnos 6/2/09
Postiwyd:
Gwe 06 Chw 2009 4:50 pm
gan Cymro13
1. Dy hoff gof o fod yn yr eira?
Dydd Nadolig adre cwpwl o flynyddoedd yn ol pan nath hi fwrw eira yn drwm nes i a'n chwaer yn pissed fynd allan i neud dynion Eira a rhoi y dillad gaethon ni gan Sion Corn ar y Dyn Eira
2. Dy hoff hufen ia?
Siocled a Fanila
3. Sut y gelli esbonio beth yw Eira i rywun o Cameroon?
Oer, Gwlyb ond llawer o hwyl
4. Mae fy nhraed i fel plocs o ia - sut mae dy rai di?
Cynnes braf diolch - gwresogydd wrth fy nhraed yn gwaith
5. Ymateb 'Prydeinig' wedi mynd dros ben llestri gyda'r holl eira hyn?
Bendat yn enwedig yn Ne Cymru
Re: Pump am y Penwythnos 6/2/09
Postiwyd:
Sad 07 Chw 2009 2:19 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
1. Dy hoff gof o fod yn yr eira?
nos calan ryw ddeuddeg i bymtheg mlynedd yn ol pan nath hi ddechra bwrw eira am hannar nos ar y dot, oedd o'n hudolus.
2. Dy hoff hufen ia?
fanila neu raspberry ripple
3. Sut y gelli esbonio beth yw Eira i rywun o Cameroon?
fel eisin gwyn (ydyn nhw'n gwbod be di eisin...?!) ar gacan 'dolig (ydyn nhw'n gwbod be di cacan 'dolig...?! dwi'n meddwl 'swn i bach yn shit ar y gem yna.)
4. Mae fy nhraed i fel plocs o ia - sut mae dy rai di?
fatha blocs o rew.
5. Ymateb 'Prydeinig' wedi mynd dros ben llestri gyda'r holl eira hyn?
ella wir, ond dio'm ots faint o rybuddio 'nawn nhw ma 'na yobs gwirion yn dal i fynnu mynd fyny'r wyddfa mewn jyst jympyr a trenyrs. wedi gweld dau hofrennydd achub bora ma. stiwpud.
Re: Pump am y Penwythnos 6/2/09
Postiwyd:
Maw 10 Chw 2009 4:40 pm
gan Ray Diota
ceribethlem a ddywedodd:1. Dy hoff gof o fod yn yr eira?
Eira mawr dechre'r 80au, 1982? Tunnelli o'r stwff. Gwych.
1980? cwmpodd to ty ni lawr o dan y pwyse, a hynny'r diwrnod ar ol i fi gyradd gatre o sbyty am y tro cynta... dim bo fi'n cofio ffyc ol, thgwrs...
Re: Pump am y Penwythnos 6/2/09
Postiwyd:
Iau 12 Chw 2009 4:43 pm
gan khmer hun
Eira mowr eighty-two, 'chan! Ffantastic. Fi'n cofio fel ddoe y cloddiau wedi'u cuddio dan yr eira. O'n i yn fach, ond fi'n siwr bod e yn gorchuddio'r cloddiau. Slejo o fore gwyn tan nos, yn sopen yn dod adre a neud tost o flaen tân. Pobol y pentre yn gorfod cerddrd 10 milltir i nol bara i bawb. Hyfryd!