gan Hogyn o Rachub » Gwe 03 Ebr 2009 9:18 am
1. Oes gyda chi gwyliau Pasg?
Ar wahân i'r gwyliau banc, na. Dwi'm rili isho chwaith, ma 'na blant o gwmpas bryd hynny, well gen i fod yn y gwaith.
2. Odych chi'n yfed heno?
Gen i ben mawr fel mai. Ydw siwr.
3. Beth yw'ch hoff edefyn ar maes-e?
Ro'n i'n mwynhau'r Goelcerth cyn iddi ddiffodd.
4. Ydych chi'n gobeithio cael wy(au) Pasg?
Na, 'sgen i ddim amser i siocled i fod yn onast. Well gen i wyau go iawn nag wyau pasg. Mi ges wy i frecwast heddiw, er nad oes gennych chi ddiddordeb yn hynny dwi'n siwr.
5. Fyddwch chi'n byta'r wyau Pasg yn syth neu'n byta ychydig bach bob dydd?
Binio nhw, da i ddim i mi, ond tasa gen i un fesul ychydig y câi ei fwyta. Dwi'n dod o deulu sy'n ystyried Ferrero Rocher yn rhywbeth y mae'r Frenhines, fwy na thebyg, yn ei fwyta, a dwi'n hoffi iawn o Ferrero Rocher ac mi fyddwn yn arfer cael bocs o 16 bob Dolig, ac mi fyddai'n para tan yr haf yn braf. Yn wir, y tro diwethaf i mi gael anrheg o'r fath mi barodd tan y Dolig nesa.
Golygwyd diwethaf gan
Hogyn o Rachub ar Gwe 03 Ebr 2009 9:24 am, golygwyd 1 waith i gyd.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"