Tudalen 1 o 2

Pump am y Penwythnos 2/4/2009

PostioPostiwyd: Iau 02 Ebr 2009 3:30 pm
gan ceribethlem
Sdim un o rhein wedi bod ers sbel, a fi byth wedi shot o'r blaen, felly dyma ni:

1. Oes gyda chi gwyliau Pasg?

2. Odych chi'n yfed heno?

3. Beth yw'ch hoff edefyn ar maes-e?

4. Ydych chi'n gobeithio cael wy(au) Pasg?

5. Fyddwch chi'n byta'r wyau Pasg yn syth neu'n byta ychydig bach bob dydd?

Re: Pump am y Penwythnos 2/4/2009

PostioPostiwyd: Iau 02 Ebr 2009 4:23 pm
gan Ray Diota
1. Oes gyda chi gwyliau Pasg?

dim clem... stiwdents ffrainc di bod ar streic ers tua 10 wthnos gyda pob un ffycin wthnos yn byta mewn i unrhyw wylie odd 'da fi... so nafydd, ma'n siwr (ond wedyn sai di neud strocen ers wthnos so allai'm cwyno...)

2. Odych chi'n yfed heno?

nagw. ges i beint (wel, hanner) pnawn ma and that's my lot am heno... ffilm a wanc fydd hi weden i...

3. Beth yw'ch hoff edefyn ar maes-e?

sai'n gwbod wir... unrhyw edefyn lle ma rhywun yn ypsetio achos bo fi di gweud rhwbeth negatif a bo fi ddim yn trefnu gigs fy hun... :rolio:

4. Ydych chi'n gobeithio cael wy(au) Pasg?

odw, wy (!) yn mynd i wledda ar joclet leni...

5. Fyddwch chi'n byta'r wyau Pasg yn syth neu'n byta ychydig bach bob dydd?

gwledda stret off, allwch chi wastad brynu mwy yn chep ar ol pasg...

Re: Pump am y Penwythnos 2/4/2009

PostioPostiwyd: Iau 02 Ebr 2009 6:28 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
1. Oes gyda chi gwyliau Pasg?
na. a gorfod mynd i gaerdydd ar gyfar parti iar dros penwsos y pasg. och.

2. Odych chi'n yfed heno?
na. gweiffio fel arfer.

3. Beth yw'ch hoff edefyn ar maes-e?
pump am y penwsos. :wps:

4. Ydych chi'n gobeithio cael wy(au) Pasg?
yndw. lindt neu galaxy plis. iym iym iym.

5. Fyddwch chi'n byta'r wyau Pasg yn syth neu'n byta ychydig bach bob dydd?[/quote]
yn syth siwr iawn. a 'di pobol sy'n gallu gadal wy pasg - neu unrhyw joclet - ar 'i hannar ddim yn dryst.

Re: Pump am y Penwythnos 2/4/2009

PostioPostiwyd: Iau 02 Ebr 2009 6:33 pm
gan osian
1. Oes gyda chi gwyliau Pasg?
Oes, pythefnos.

2. Odych chi'n yfed heno?
Dibynnu os ai i'r cwis neu beidio. Hydnoed os ai, fydd dim yfed mawr a meddwi.

3. Beth yw'ch hoff edefyn ar maes-e?
Dwni'm. Dim un o'r rhei presennol am wn i

4. Ydych chi'n gobeithio cael wy(au) Pasg?

Ydw, lot. Ond chai 'run.

5. Fyddwch chi'n byta'r wyau Pasg yn syth neu'n byta ychydig bach bob dydd?

Bob yn chydig, felna bydda i'n licio fy melysion. Dwi'n gyrru pobl yn nyts.

Re: Pump am y Penwythnos 2/4/2009

PostioPostiwyd: Iau 02 Ebr 2009 7:56 pm
gan dawncyfarwydd
1. Oes gyda chi gwyliau Pasg?
Mi oedd gen i dair wsnos, ond dim ond pythefnos sy ar ôl rwan.

2. Odych chi'n yfed heno?
Te.

3. Beth yw'ch hoff edefyn ar maes-e?
Cysylltiadau enwogion peth na.


4. Ydych chi'n gobeithio cael wy(au) Pasg?

Mae nain et al fel arfer yn rhoi pres yn lle ŵy pasg. Sy'n dda, achos dwi'n cal ffeifar, a swn i'n licio profi ŵy pasg digon mawr i fod yn ffeifar.

Ar nodyn arall, nes i a nghariad sylwi, wrth brynu ŵy gwerth punt ar self service yn ASDA, bod na gamgymeriad wedi bod wrth gofrestru'r pris a bod y peiriant mond yn codi deg ceiniog arnon ni. Brynon ni 14. Am £1.40.


5. Fyddwch chi'n byta'r wyau Pasg yn syth neu'n byta ychydig bach bob dydd?

Byta chydig wedyn ma na rywun arall yn dwyn y gweddill.

Re: Pump am y Penwythnos 2/4/2009

PostioPostiwyd: Iau 02 Ebr 2009 8:48 pm
gan ceribethlem
1. Oes gyda chi gwyliau Pasg?
Oes pythefnos, yn dechrau am 3:30 fory

2. Odych chi'n yfed heno?
Odw, wedi cael bach (gormod) o seidir, HMS fory!

3. Beth yw'ch hoff edefyn ar maes-e?
hon, mae'n ticlo fi bob tro!

4. Ydych chi'n gobeithio cael wy(au) Pasg?
Dim felni, na.

5. Fyddwch chi'n byta'r wyau Pasg yn syth neu'n byta ychydig bach bob dydd?
Dibynnu ar y maint, byddai'n byta un bach yn syth, ond ychydig o un mawr gan roi'r gweddill i rhywun arall.

Re: Pump am y Penwythnos 2/4/2009

PostioPostiwyd: Gwe 03 Ebr 2009 5:11 am
gan Chickenfoot
1. Oes gyda chi gwyliau Pasg?

Oes, gan fy mod i'n ddi-waith :wps: :(

2. Odych chi'n yfed heno?

Ydw...Budweiser = yummy.

3. Beth yw'ch hoff edefyn ar maes-e?

Unrhyw un lle dydw i ddim wedi cyfrannu post meddw. ymddirheuriadau i bawb ar Faes-E am fy nyddiau cyn-Chickenfoot.

4. Ydych chi'n gobeithio cael wy(au) Pasg?


Nacdw...mae gobeithio am rywbeth cewch chi ddim yn wirion :( :wps: . Shit on toast, maen'n wir bod alcohol yn depressive, tydi? :)

5. Fyddwch chi'n byta'r wyau Pasg yn syth neu'n byta ychydig bach bob dydd?

Gweler uchod...di mam na dad ddim yn cael un i fi a mae nhw di cau ysbyty salwch meddwl yn Ninbych, felly 'sgen i'm sweet lady woman i brynu un i mi chwaith. Mae fy chwaer dal yn cael...yr ast :D

Re: Pump am y Penwythnos 2/4/2009

PostioPostiwyd: Gwe 03 Ebr 2009 8:51 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
1. Oes gyda chi gwyliau Pasg?
Na, sai'n ffycin slacyr o athro.

2. Odych chi'n yfed heno?
Wel, fe fues i'n yfed neithiwr, ac felly'n teimlo bach yn groggy nawr. Heno - shwod.

3. Beth yw'ch hoff edefyn ar maes-e?
Brad y Cymry alltud. Old skool.

4. Ydych chi'n gobeithio cael wy(au) Pasg?
Fydda' i'n mynd i Siopa Teg fory i brynu dau wy Masnach Deg. Rhinweddus ydwyf.

5. Fyddwch chi'n byta'r wyau Pasg yn syth neu'n byta ychydig bach bob dydd?
Wel, os caf i un Green and Blacks, mae'r rheina mor gyfoethog eu blas bod dim modd eu byta mewn un eisteddiad.

Re: Pump am y Penwythnos 2/4/2009

PostioPostiwyd: Gwe 03 Ebr 2009 9:18 am
gan Hogyn o Rachub
1. Oes gyda chi gwyliau Pasg?

Ar wahân i'r gwyliau banc, na. Dwi'm rili isho chwaith, ma 'na blant o gwmpas bryd hynny, well gen i fod yn y gwaith.

2. Odych chi'n yfed heno?

Gen i ben mawr fel mai. Ydw siwr.

3. Beth yw'ch hoff edefyn ar maes-e?

Ro'n i'n mwynhau'r Goelcerth cyn iddi ddiffodd.

4. Ydych chi'n gobeithio cael wy(au) Pasg?

Na, 'sgen i ddim amser i siocled i fod yn onast. Well gen i wyau go iawn nag wyau pasg. Mi ges wy i frecwast heddiw, er nad oes gennych chi ddiddordeb yn hynny dwi'n siwr.

5. Fyddwch chi'n byta'r wyau Pasg yn syth neu'n byta ychydig bach bob dydd?

Binio nhw, da i ddim i mi, ond tasa gen i un fesul ychydig y câi ei fwyta. Dwi'n dod o deulu sy'n ystyried Ferrero Rocher yn rhywbeth y mae'r Frenhines, fwy na thebyg, yn ei fwyta, a dwi'n hoffi iawn o Ferrero Rocher ac mi fyddwn yn arfer cael bocs o 16 bob Dolig, ac mi fyddai'n para tan yr haf yn braf. Yn wir, y tro diwethaf i mi gael anrheg o'r fath mi barodd tan y Dolig nesa.

Re: Pump am y Penwythnos 2/4/2009

PostioPostiwyd: Gwe 03 Ebr 2009 9:23 am
gan Dwlwen
1. Oes gyda chi gwyliau Pasg?
Nyp.

2. Odych chi'n yfed heno?
Es i ardd cwrw am y tro cynta 'leni nithwr, odd yn braf iawn - ond fyddai ddim yn yfed heno, siwr o fod.

3. Beth yw'ch hoff edefyn ar maes-e?
Pyns, gynt :wps:
Odd 'na un arall ble gafon ni rhith-ddisgo Gwyddelig un tro hefyd, odd hwnna'n ddiwrnod od.

4. Ydych chi'n gobeithio cael wy(au) Pasg?
Sda fi whar uffernol o drefnus sy'n cofio'r pethau 'ma bob blwyddyn, so wy'n *gwybod* y byddai'n cael wy pasg. Ishe i fi gofio ôl un iddi hi dros y penwthnos.

5. Fyddwch chi'n byta'r wyau Pasg yn syth neu'n byta ychydig bach bob dydd?
Tamed bach ar y tro. 'Na ffordd ges i'n fagu.

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Gen i ben mawr fel mai. Ydw siwr.

Sboted. Dempsey's. Nithwr.