Tudalen 2 o 2

Re: Pump am y Penwythnos 2/4/2009

PostioPostiwyd: Gwe 03 Ebr 2009 9:24 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Dwlwen a ddywedodd:3. Beth yw'ch hoff edefyn ar maes-e?
Pyns, gynt :wps:
Odd 'na un arall ble gafon ni rhith-ddisgo Gwyddelig un tro hefyd, odd hwnna'n ddiwrnod od.


Sgwn i ble mae Brwydr Rap y Rhythwir (sic)?

Re: Pump am y Penwythnos 2/4/2009

PostioPostiwyd: Gwe 03 Ebr 2009 9:32 am
gan Tracsiwt Gwyrdd
Hogyn o Rachub a ddywedodd:
mi fyddwn yn arfer cael bocs o 16 bob Dolig, ac mi fyddai'n para tan yr haf yn braf. Yn wir, y tro diwethaf i mi gael anrheg o'r fath mi barodd tan y Dolig nesa.

wti'n byw yn y 40au?

Re: Pump am y Penwythnos 2/4/2009

PostioPostiwyd: Gwe 03 Ebr 2009 9:36 am
gan Hogyn o Rachub
Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:
Hogyn o Rachub a ddywedodd:
mi fyddwn yn arfer cael bocs o 16 bob Dolig, ac mi fyddai'n para tan yr haf yn braf. Yn wir, y tro diwethaf i mi gael anrheg o'r fath mi barodd tan y Dolig nesa.

wti'n byw yn y 40au?


Wel dwi yn dod o Ddyffryn Ogwan...

Dwlwen a ddywedodd:
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Gen i ben mawr fel mai. Ydw siwr.

Sboted. Dempsey's. Nithwr.


Diar mi, do'n i'm yn meddwl bo fi mod chwil รข hynny! (dwnim pam dwi newydd ddweud 'diar mi', ma hynny'n ridiciwlys o hen ffash)

Re: Pump am y Penwythnos 2/4/2009

PostioPostiwyd: Gwe 03 Ebr 2009 9:58 am
gan Tracsiwt Gwyrdd
ddim mor hen ffash a hwn -
Hogyn o Rachub a ddywedodd:
4. Ydych chi'n gobeithio cael wy(au) Pasg?

Na, 'sgen i ddim amser i siocled i fod yn onast. Well gen i wyau go iawn nag wyau pasg. Mi ges wy i frecwast heddiw, er nad oes gennych chi ddiddordeb yn hynny dwi'n siwr.

hileriys.

Re: Pump am y Penwythnos 2/4/2009

PostioPostiwyd: Gwe 03 Ebr 2009 1:06 pm
gan joni
1. Oes gyda chi gwyliau Pasg?
Dim mwy na 'long weekend' yn anffodus.

2. Odych chi'n yfed heno?
Sai'n credu. Dim ar ol nos fercher.

3. Beth yw'ch hoff edefyn ar maes-e?
Ma na un neu ddau da wedi bod. Y pyns, fel wedodd Dwlwen, yn un bach dion difyr. Wi'n lico'r cwestiwn cwis bach ynyr adran chwaraeon. Odd na edefyn da am Gaz o Rownd a Rownd a hefyd edefyn Bambi. Ond sdim un yn curo hwn.
Pam cachu gartref pan gallwch gachu yn gwaith?


4. Ydych chi'n gobeithio cael wy(au) Pasg?
Gobeithio wir. Un Crunchie plis.

5. Fyddwch chi'n byta'r wyau Pasg yn syth neu'n byta ychydig bach bob dydd?
Lawr a fe fel shot.

Re: Pump am y Penwythnos 2/4/2009

PostioPostiwyd: Gwe 03 Ebr 2009 1:16 pm
gan Mwnci Banana Brown
1. Oes gyda chi gwyliau Pasg?
Wel, fel rywun sy'n self employed, dwi mas o waith am bach dros wthnos arall, so wes.

2. Odych chi'n yfed heno?
Wdw- ni mynd i gymrd dros y golden lion yn trydrath.

3. Beth yw'ch hoff edefyn ar maes-e?
Unrhyw edefyn le wedd Rooney yn cyfranu i.

4. Ydych chi'n gobeithio cael wy(au) Pasg?
Neith cwpwl o creme eggs y tro.

5. Fyddwch chi'n byta'r wyau Pasg yn syth neu'n byta ychydig bach bob dydd?
Un gylp mowr!

Re: Pump am y Penwythnos 2/4/2009

PostioPostiwyd: Gwe 03 Ebr 2009 2:11 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd

diolch am ddangos hwn i ni joni - hwnna di'r peth mwya ffyni dwi 'di ddarllan 'leni! crio chwerthin.

Re: Pump am y Penwythnos 2/4/2009

PostioPostiwyd: Gwe 03 Ebr 2009 3:47 pm
gan Ray Diota
Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:

diolch am ddangos hwn i ni joni - hwnna di'r peth mwya ffyni dwi 'di ddarllan 'leni! crio chwerthin.


dyddie da...

Re: Pump am y Penwythnos 2/4/2009

PostioPostiwyd: Gwe 03 Ebr 2009 5:15 pm
gan osian
Dwlwen a ddywedodd:Pyns, gynt :wps:

Mi ddylech i gyd fod yn falch nad oeddwn i o gwmpas yr adeg honno...

Re: Pump am y Penwythnos 2/4/2009

PostioPostiwyd: Maw 14 Ebr 2009 1:35 pm
gan finch*
1. Oes gyda chi gwyliau Pasg?
Tair wthnos, ond ma da fi brofiad gwaith a portffolio fod mewn ar y pumed a traethawd ar y dydd mawrth cynta nol hefyd felly dim lot o wylie rili.

2. Odych chi'n yfed heno?
Hm, Anhebygol, cashflow problems tan dechre mis nesa ysywaeth.

3. Beth yw'ch hoff edefyn ar maes-e?
Cwestiwn cwis bach sydyn, Pyns, Gem fach y caneuon, oen i'n ffan o'r rhai Bambi hefyd a'r cachad yn gwaith. Unrhywbeth hefyd lle roedd RET/Realydd/Dave Thomas a/neu Martin Llywelyn Williams yn tynnu pawb i'w pennau

4. Ydych chi'n gobeithio cael wy(au) Pasg?
Nac oeddwn achos oen i braidd byth yn cal pan o'n i'n fach (anfantais bod yn diebetig a mam yn stopio chi fyta siocled) OND mynd lan i weld y nghariad dros wicend a ma nhw'n dal i gal 'egg hunt' felly ges i yn diwedd.

5. Fyddwch chi'n byta'r wyau Pasg yn syth neu'n byta ychydig bach bob dydd?
Hm, os yn un mawr yna byta rhywfaint a chadw yn y ffridj a cracio darn pan dwi'n peckish. Byda creame egg mewn chwinciad, chiam chiam chiam! :gwyrdd: