1. Oes gyda chi gwyliau Pasg?Tair wthnos, ond ma da fi brofiad gwaith a portffolio fod mewn ar y pumed a traethawd ar y dydd mawrth cynta nol hefyd felly dim lot o wylie rili.
2. Odych chi'n yfed heno?Hm, Anhebygol, cashflow problems tan dechre mis nesa ysywaeth.
3. Beth yw'ch hoff edefyn ar maes-e?Cwestiwn cwis bach sydyn, Pyns, Gem fach y caneuon, oen i'n ffan o'r rhai Bambi hefyd a'r cachad yn gwaith. Unrhywbeth hefyd lle roedd RET/Realydd/Dave Thomas a/neu Martin Llywelyn Williams yn tynnu pawb i'w pennau
4. Ydych chi'n gobeithio cael wy(au) Pasg?Nac oeddwn achos oen i braidd byth yn cal pan o'n i'n fach (anfantais bod yn diebetig a mam yn stopio chi fyta siocled) OND mynd lan i weld y nghariad dros wicend a ma nhw'n dal i gal 'egg hunt' felly ges i yn diwedd.
5. Fyddwch chi'n byta'r wyau Pasg yn syth neu'n byta ychydig bach bob dydd?Hm, os yn un mawr yna byta rhywfaint a chadw yn y ffridj a cracio darn pan dwi'n peckish. Byda creame egg mewn chwinciad, chiam chiam chiam!