Tudalen 1 o 1

Pump am y Penwythnos 01/05/09

PostioPostiwyd: Gwe 01 Mai 2009 11:35 am
gan Hogyn o Rachub
1. Lle, uwch bobman arall, hoffech chi fynd ar eich gwyliau?

2. Beth ydi’r gwyliau gorau a gawsoch?

3. Pa dri pheth sy'n hanfodol wrth fynd ar wyliau?

4. Beth all sbwylio gwyliau i chi?

5. Beth yw eich syniad o wyliau erchyll?

Re: Pump am y Penwythnos 01/05/09

PostioPostiwyd: Gwe 01 Mai 2009 11:51 am
gan ceribethlem
1. Lle, uwch bobman arall, hoffech chi fynd ar eich gwyliau?
Adre i ymlacio. Wedi blino nawr.

2. Beth ydi’r gwyliau gorau a gawsoch?
Taith y Llewod i Awtralia yn 2001.

3. Pa dri pheth sy'n hanfodol wrth fynd ar wyliau?
Pasport, Arian a pants sbar.

4. Beth all sbwylio gwyliau i chi?
I ddefnyddio geiriau MC Mabon "Motherfuckers ym mhob man"

5. Beth yw eich syniad o wyliau erchyll?
Mexico ar hyn o bryd.

Re: Pump am y Penwythnos 01/05/09

PostioPostiwyd: Gwe 01 Mai 2009 11:58 am
gan Chickenfoot
1. Lle, uwch bobman arall, hoffech chi fynd ar eich gwyliau?

Cwestiwn da iawn. 'Roeddwn i isio mynd i weld Mexico rywbryd, ond mae'r cynllun yna wedi'i gohirio am y dyfodol agos. :?

2. Beth ydi’r gwyliau gorau a gawsoch?[b][/b]

Gwyliau blynyddol i weld Nain a Taid Sir Fon a Nain Llandudno.

3. Pa dri pheth sy'n hanfodol wrth fynd ar wyliau?

Amser i ffwrdd o'r gwaith
Car
Towel

4. Beth all sbwylio gwyliau i chi?

Ffraeo hefo rywun sydd ar wyliau hefo fi, falla. Basa problemau hefo llety'n gallu sbwylio pethau hefyd. Tywydd ofnadwy, hefyd.

Re: Pump am y Penwythnos 01/05/09

PostioPostiwyd: Gwe 01 Mai 2009 12:22 pm
gan Cymro13
1. Lle, uwch bobman arall, hoffech chi fynd ar eich gwyliau?

Barbados

2. Beth ydi’r gwyliau gorau a gawsoch?

America (New York, Pensylvania a Chicago) gyda Cor CF1

3. Pa dri pheth sy'n hanfodol wrth fynd ar wyliau?

Sbectol Haul
Camera
Lot o arian

4. Beth all sbwylio gwyliau i chi?

Glaw

5. Beth yw eich syniad o wyliau erchyll?

Dim alcahol

Re: Pump am y Penwythnos 01/05/09

PostioPostiwyd: Gwe 01 Mai 2009 1:38 pm
gan Hogyn o Rachub
1. Lle, uwch bobman arall, hoffech chi fynd ar eich gwyliau?
Dwi 'di ystyried hyn yn ofalus achos dwi ddim wirioneddol isho mynd i'r unman, ond mae gen i flys cyfredol i weld y Taj Mahal felly India. Dwi'n licio cyri 'fyd.

2. Beth ydi’r gwyliau gorau a gawsoch?
Cyprus efo'r teulu yn 1998, pan o'n i'n 11 oed a'r tro cyntaf i mi fynd dramor.

3. Pa dri pheth sy'n hanfodol wrth fynd ar wyliau?
Gwin/cwrw da
Diffyg Saeson
Tywydd braf

4. Beth all sbwylio gwyliau i chi?
Tywydd poeth. Seriws, dwi ddim yn licio tywydd sy'n rhy boeth, neu fedra i ddim gadael y gwesty. Mae mynd i rywle rhy drud hefyd yn gallu sbwylio pethau achos dachi'n poeni am faint dachi'n ei wario yng nghefn eich pen a methu ymlacio.

5. Beth yw eich syniad o wyliau erchyll?
Unrhyw beth yn ymwneud â thraethau. Bastads tywodlyd afiach.

Re: Pump am y Penwythnos 01/05/09

PostioPostiwyd: Gwe 01 Mai 2009 1:39 pm
gan Gowpi
1. Lle, uwch bobman arall, hoffech chi fynd ar eich gwyliau?
Cyfandir de America, y gorllewin yn fwyaf arbennig. Y Caribi. Seland Newydd.
2. Beth ydi’r gwyliau gorau a gawsoch?
Pan yn teithio ar draws China, ac yn ne ddwyrain Asia. Cwrdd a phobol difyr dros ben.
3. Pa dri pheth sy'n hanfodol wrth fynd ar wyliau?
Gwen (gyda tho bach, nid bod dim byd yn bod ar Gwen chwaith!), llyfr da, a digon o nicers.
4. Beth all sbwylio gwyliau i chi?
Glaw a chwmni diflas.
5. Beth yw eich syniad o wyliau erchyll?
Bola houlo ar y traeth byth beunydd.

Re: Pump am y Penwythnos 01/05/09

PostioPostiwyd: Gwe 01 Mai 2009 3:43 pm
gan Cardi Bach
1. Lle, uwch bobman arall, hoffech chi fynd ar eich gwyliau?

Unrhyw nifer o lefydd. Ar y foment ma 'da fi fryd ar fynd i Bilbao, yna teithio ar hyd gogledd Sbaen, drwy Asturias i Santiago de Compostella, gan fynychu y gwahanol wyliau cerddorol a seidir, a blasu y selsig, a bwydach erill!

2. Beth ydi’r gwyliau gorau a gawsoch?

Ciwba, nol yn 2006 dros dolig a flwyddyn newydd! Gwych! Arbennig! Y wlad; y bobol; y mojito; y salsa; y pensaerniaeth; ...waw!

3. Pa dri pheth sy'n hanfodol wrth fynd ar wyliau?

Meddwl agored; rhyw grap ar rhyw iaith gyffredin ermwyn lled gyfathrebu!; agwedd leid bac, neu fydd y stress yn siwr y sbwylio'r profiad!

4. Beth all sbwylio gwyliau i chi?

Stress. Poeni am bob dim drwy'r amser, a gwastraffu amser ac egni yn poeni am bethau dibwys, a cholli allan ar hwyl y gwyliau yn llwyr.

5. Beth yw eich syniad o wyliau erchyll?[/quote]

Rhwle sydd yn dangos gemau'r Premiership, gwerthu English Breakfast, yn llawn dynon a merched pissed yn gwaeddu top eu lleisie (a'n goch fel cimychied), yn llawn twristiaid sarhaus, a DJs Sisneg yn bleoddio cachu rwtsh dros y lle, a miwsig dawns shit sydd ar KissFM etc yn byddaru y strydoedd - a hyn oll yn rhwle pert fel Ibiza.

Re: Pump am y Penwythnos 01/05/09

PostioPostiwyd: Gwe 08 Mai 2009 1:57 pm
gan tafod_bach
1. Lle, uwch bobman arall, hoffech chi fynd ar eich gwyliau?
canolbarth ewrop, tuag at y dwyrain: georgia, armenia, azerbaijan

2. Beth ydi’r gwyliau gorau a gawsoch?
georgia eto! jiw ma croeso cynnes na.

3. Pa dri pheth sy'n hanfodol wrth fynd ar wyliau?
cerdyn credit, doleri (arfer bod, yn rwsia ac ati: fydden nhw'n iwsles erbyn heddi falle!)/cash caled, gilet fleece efo lot o bocedi. w a matshys.

4. Beth all sbwylio gwyliau i chi?
pan fyddai'n rhedeg allan o arian ac isio neud rhywbeth rhad, cael fy llusgo i dai bwyta/siopau drudfawr, neu deithio mewn tacsis gyda'n hosts, a gorfod talu am y pleser!

5. Beth yw eich syniad o wyliau erchyll?
gwyl gerddoriaeth post-rock all tomorrow's parties: o'n i'n rhannu chalet efo'r monsters barfog mwyaf pretentious, dirwestaidd, smyg, llwyr-ymwrthodaidd, band t-shirtaidd, drewllyd ym mhrydain, efo dim ond botel o malibu yn gwmni a punt yn fy mhoced. a wedyn golles i'r bands da i gyd achos bo fi'n rhy brysur yn trio ennill fy mhunt nol ar yr amusements.

Re: Pump am y Penwythnos 01/05/09

PostioPostiwyd: Gwe 08 Mai 2009 5:29 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
1. Lle, uwch bobman arall, hoffech chi fynd ar eich gwyliau?
wir isho teithio de america ryw ddiwrnod, a'r byd mewn gwirionedd, ond babi tracsiwt yn peri gohirio am beth amsar. felly, ar y funud, 'swn i'n licio mynd i wlad y basg... a sbaen!
2. Beth ydi’r gwyliau gorau a gawsoch?
madagasgar yn edrach ar ol y plantos bach hyfryta' fyw.
3. Pa dri pheth sy'n hanfodol wrth fynd ar wyliau?
hufen haul, sbectol haul, cwmni difyr.
4. Beth all sbwylio gwyliau i chi?
cydfyw hefo sais unllygeidiog, hunangyfiawn, ollwybodus, rhagfarnllyd a fen.
5. Beth yw eich syniad o wyliau erchyll?
ma' eraill 'di 'i ddeud yn berffaith yn barod...
Cardi Bach a ddywedodd:Rhwle sydd yn dangos gemau'r Premiership, gwerthu English Breakfast, yn llawn dynon a merched pissed yn gwaeddu top eu lleisie (a'n goch fel cimychied), yn llawn twristiaid sarhaus, a DJs Sisneg yn bleoddio cachu rwtsh dros y lle, a miwsig dawns shit sydd ar KissFM etc yn byddaru y strydoedd - a hyn oll yn rhwle pert fel Ibiza.

ceribethlem a ddywedodd:I ddefnyddio geiriau MC Mabon "Motherfuckers ym mhob man"

Re: Pump am y Penwythnos 01/05/09

PostioPostiwyd: Gwe 08 Mai 2009 8:17 pm
gan Duw
1. Lle, uwch bobman arall, hoffech chi fynd ar eich gwyliau?
Assisi, Eidal (eto)
2. Beth ydi’r gwyliau gorau a gawsoch?
Fenis, Perugia a Ferona (mis mêl)
3. Pa dri pheth sy'n hanfodol wrth fynd ar wyliau?
Teulu, bwyd gwych, naws hamddenol
4. Beth all sbwylio gwyliau i chi?
Saeson ronc ac Americanwyr uchel eu clychau :seiclops:
5. Beth yw eich syniad o wyliau erchyll?
Costa Crap gyda Brit Bars a Full English