Tudalen 1 o 1

Pump am y Penwythnos 29/05/09

PostioPostiwyd: Gwe 29 Mai 2009 1:19 pm
gan Hogyn o Rachub
1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi chwerthin lond eich bol?

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi wirioneddol ddigio at rywbeth/rhywun?

3. Pryd oedd y tro diwethaf i rywbeth godi ofn arnoch?

4. Pryd oedd y tro diwethaf i chi edifar?

5. Moch daear neu foch coed?

Re: Pump am y Penwythnos 29/05/09

PostioPostiwyd: Gwe 29 Mai 2009 1:49 pm
gan osian
5. Moch daear neu foch coed?
Moch coed yn bendant. Mae nhw yn lanach, yn fwy o hwyl i'w hela, yn llosgi yn well, ac yn fwy defnyddiol yn gyffredinol na moch daear. TB honest, ma' moch daear yn reit shit.
Heblaw Mr Broch.

Re: Pump am y Penwythnos 29/05/09

PostioPostiwyd: Gwe 29 Mai 2009 1:56 pm
gan Hogyn o Rachub
osian a ddywedodd:TB honest...


:D :!:

Re: Pump am y Penwythnos 29/05/09

PostioPostiwyd: Gwe 29 Mai 2009 3:16 pm
gan Cacamwri
1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi chwerthin lond eich bol?
Ryw bythefnos yn ol pan oeddwn i'n dathlu fy mhen-blwydd yn 24. Roedd fy merch fach ddwy-flwydd yn dweud wrth pawb oedd hi'n gweld fy mod i'n 54! Ac oedd hi'n hollol siriys...

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi wirioneddol ddigio at rywbeth/rhywun?
Dw i'm yn digio'n hawdd iawn. Weithie'n pisd off am bethe, ond dim digio.

3. Pryd oedd y tro diwethaf i rywbeth godi ofn arnoch?
Nath ryw gorryn du glanio ar fy mraich ar dopiau mynyddoedd ym Mach dydd Sul diwetha - ac mae gen i ffobia am gorrynod. Waaaa!

4. Pryd oedd y tro diwethaf i chi edifar?
Cwestiwn da, a sai'n cofio! Dw i'm di edifar am ddim byd yn ddiweddar.

5. Moch daear neu foch coed?
Allai'm dweud fy mod i'n ffan o ddim un ohonyn nhw.

Re: Pump am y Penwythnos 29/05/09

PostioPostiwyd: Gwe 29 Mai 2009 8:23 pm
gan ceribethlem
1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi chwerthin lond eich bol?
jiawcs, wherthin yn reit amal, yn arbennig mas ar y pop gyda ffrindie.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi wirioneddol ddigio at rywbeth/rhywun?
Ddim yn wirioneddol digio, tueddu i ffugio digio yn ngwaith.

3. Pryd oedd y tro diwethaf i rywbeth godi ofn arnoch?
Ar y ffordd i briodas Hedd, pan ddath car y ffordd arall (ar heolydd Bethlem - beth ddiawl odd y ffycar yn neud 'na?), nes i swyrfio, a mynd lan y bancyn, a bron i fi droi'r car ar ei phen!

4. Pryd oedd y tro diwethaf i chi edifar?
Gyrru rhy glou ar y ffordd i briodas Hedd :winc:

5. Moch daear neu foch coed?
Ym mha cyd-destyn? Mwy o flas gyda moch Daear.

Re: Pump am y Penwythnos 29/05/09

PostioPostiwyd: Sad 30 Mai 2009 12:17 pm
gan Chickenfoot
1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi chwerthin lond eich bol?

Antics Holy Steele. Top class fakery.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi wirioneddol ddigio at rywbeth/rhywun?

Cwestiwn da. Bydd rhaid i mi feddwl yn galetach...

3. Pryd oedd y tro diwethaf i rywbeth godi ofn arnoch?

Neithiwr - merched bach Good Evans - creepy
Darllen am y Moors Murderers ar Wikipedia - creepy

Re: Pump am y Penwythnos 29/05/09

PostioPostiwyd: Mer 15 Gor 2009 12:54 pm
gan finch*
1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi chwerthin lond eich bol?
Neithiwr ar Simpsons gwych, 'Lisa, in this house we obey the rules of THERMODYNAMICS!'

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi wirioneddol ddigio at rywbeth/rhywun?
Mynd yn grac iawn a ddim jyst yn pissed off? Mis Mawrth

3. Pryd oedd y tro diwethaf i rywbeth godi ofn arnoch?
Hunllef neithiwr ar ol gwylio 'Tales from the Crypt' ar Sky. Nath Leusa (ie off of maes-e), wthio fi lawr shaft lifft ond nes i lusgo Nia (ffrind o ysgol dwi heb weld ers ages) lawr gyda fi a glanio ar ei phen hi. O ni'n iawn ond odd hi'n sgwoshed.

4. Pryd oedd y tro diwethaf i chi edifar?
Ar ol y digio go iawn yn mis Mawrth.

5. Moch daear neu foch coed?
Ma moch coed yn edrych yn well wedi eu peintio.