Tudalen 1 o 3

Pump am y Penwythnos, 01/10/10

PostioPostiwyd: Gwe 01 Hyd 2010 1:54 pm
gan Manon
1. Be' 'di'ch hoff lyfr chi yn y byd i gyd yn grwn?
2. Be' 'd'r un peth mawr 'da chi isho'i gyflawni erbyn y 'Dolig?
3. Be' 'di'r peth mwya' hyfryd 'da chi'n bwriadu'i fwyta penwythnos yma?
4. Hoff ddyfyniad, o unrhywbeth, unrhyw iaith?
5. Hoff wenoglun?

Re: Pump am y Penwythnos, 01/10/10

PostioPostiwyd: Gwe 01 Hyd 2010 2:05 pm
gan Ar Mada
1. Be' 'di'ch hoff lyfr chi yn y byd i gyd yn grwn?

'Fel Terydactyl' gan Manuel Stephane Rossi

2. Be' 'd'r un peth mawr 'da chi isho'i gyflawni erbyn y 'Dolig?

Cyfarfod Manuel Stephane Rossi

3. Be' 'di'r peth mwya' hyfryd 'da chi'n bwriadu'i fwyta penwythnos yma?

Rhywbeth o lyfr coginio Manuel Stephane Rossi

4. Hoff ddyfyniad, o unrhywbeth, unrhyw iaith?

"Bierrgarden Jobbe"... ??? Anhysbys

5. Hoff wenoglun?[/quote]

Be ffwc di hyna?

Re: Pump am y Penwythnos, 01/10/10

PostioPostiwyd: Gwe 01 Hyd 2010 2:14 pm
gan Manon
:lol:

gwenoglun ydi'r wyneba' bach sy' fanna -------------------------------------------->

Re: Pump am y Penwythnos, 01/10/10

PostioPostiwyd: Gwe 01 Hyd 2010 2:52 pm
gan Hogyn o Rachub
1. Be' 'di'ch hoff lyfr chi yn y byd i gyd yn grwn?

Ew, dyma chi gwestiwn anodd. Yn nwfn fy mod allwn i ddim dewis o un penodol ond yn sicr un o rai Gwlad y Rwla fydda fo dwi'n meddwl!

2. Be' 'd'r un peth mawr 'da chi isho'i gyflawni erbyn y 'Dolig?

Hah! Sgen i ddim nodau mewn bywyd heb sôn am erbyn y Nadolig!

3. Be' 'di'r peth mwya' hyfryd 'da chi'n bwriadu'i fwyta penwythnos yma?

Dwi'n mynd i fwyty Eidalaidd heno, dwi'n meddwl fydd hi'n downhill ar ôl hynny beth bynang dwi'n ei gael

4. Hoff ddyfyniad, o unrhywbeth, unrhyw iaith?

Roedd 'na un yn ddiweddar iawn am gadwriaeth (sad dwi'n gwbod!) Na'i drio cael hyd iddo

5. Hoff wenoglun?

:D - wrth gwrs!

Re: Pump am y Penwythnos, 01/10/10

PostioPostiwyd: Gwe 01 Hyd 2010 4:22 pm
gan ceribethlem
1. Be' 'di'ch hoff lyfr chi yn y byd i gyd yn grwn?
Dune gan Frank Herbert

2. Be' 'd'r un peth mawr 'da chi isho'i gyflawni erbyn y 'Dolig?
Mynd yn ffit, a cholli ychydig (tua 2 ston) o bwyse

3. Be' 'di'r peth mwya' hyfryd 'da chi'n bwriadu'i fwyta penwythnos yma?
Oes rhaid mai bwyta yw hi? Mynd i yfed fy seidir cartre gyda Iestyn ap fory. Mynd am Chinese gyda rhai ffrindie heno, felly os bwyta wedyn hwnna.

4. Hoff ddyfyniad, o unrhywbeth, unrhyw iaith?
Bunch of slack-jawed faggots around here. This stuff will make you a god damned sexual Tyrannosaurus, just like me.

5. Hoff wenoglun?
ddim rhy ffysd arnyn nhw.

Re: Pump am y Penwythnos, 01/10/10

PostioPostiwyd: Gwe 01 Hyd 2010 4:33 pm
gan Manon
1. Be' 'di'ch hoff lyfr chi yn y byd i gyd yn grwn?
Unrhywbeth gan Fannie Flagg. (Dim jest achos enw'r awdures. Ond, chwara teg, class.)

2. Be' 'd'r un peth mawr 'da chi isho'i gyflawni erbyn y 'Dolig?
Lot fawr iawn o waith.

3. Be' 'di'r peth mwya' hyfryd 'da chi'n bwriadu'i fwyta penwythnos yma?
Nes i 'neud bisgedi mwyar duon gynna, ma' rheiny'n eitha' anhygoel.

4. Hoff ddyfyniad, o unrhywbeth, unrhyw iaith?
Heddiw- "In the depth of winter, I finally learned that within me there lay an invincible summer." Albert Camus

5. Hoff wenoglun?

:rolio: Mae o'n ciwt.

Re: Pump am y Penwythnos, 01/10/10

PostioPostiwyd: Gwe 01 Hyd 2010 5:38 pm
gan nicdafis
1. Be' 'di'ch hoff lyfr chi yn y byd i gyd yn grwn?

A Glastonbury Romance, John Cowper Powys .

2. Be' 'd'r un peth mawr 'da chi isho'i gyflawni erbyn y 'Dolig?

Tymor yr Hydref.

3. Be' 'di'r peth mwya' hyfryd 'da chi'n bwriadu'i fwyta penwythnos yma?

Sleisen o fara ffres, mewn rhyw hanner awr.

4. Hoff ddyfyniad, o unrhywbeth, unrhyw iaith?

There are no bad words, just bad people.

5. Hoff wenoglun?

:ofn:

Re: Pump am y Penwythnos, 01/10/10

PostioPostiwyd: Gwe 01 Hyd 2010 5:53 pm
gan Hedd Gwynfor
1. Be' 'di'ch hoff lyfr chi yn y byd i gyd yn grwn?
Ddim yn ddarllenwr mowr (onibai am bapurau newydd!) ond dwi ddim yn cofio mwynhau unrhyw lyfr mwy na 'Ffydd Gobaith Cariad' Llwyd Owen.

2. Be' 'd'r un peth mawr 'da chi isho'i gyflawni erbyn y 'Dolig?
Hapusrwydd!

3. Be' 'di'r peth mwya' hyfryd 'da chi'n bwriadu'i fwyta penwythnos yma?
Rhywbeth Indiaidd.

4. Hoff ddyfyniad, o unrhywbeth, unrhyw iaith?
"Men make their own history but not in circumstances of their own choosing." Marx

5. Hoff wenoglun?
:?

Re: Pump am y Penwythnos, 01/10/10

PostioPostiwyd: Gwe 01 Hyd 2010 6:41 pm
gan Kez
5. Hoff wenoglun?
:rolio:
(ma pobol yn sharad shwt 'shit' witha)

Re: Pump am y Penwythnos, 01/10/10

PostioPostiwyd: Gwe 01 Hyd 2010 6:43 pm
gan Hedd Gwynfor
Kez a ddywedodd:5. Hoff wenoglun?
:rolio:
(ma pobol yn sharad shwt 'shit' witha)


Medde pencampwr shitsiarad y byd! :winc: