Tudalen 2 o 3

Re: Pump am y Penwythnos, 01/10/10

PostioPostiwyd: Gwe 01 Hyd 2010 6:48 pm
gan Kez
A'r gystadleuath mor agos hefyd Hedd - ond o leia wi'n credu bo fi wedi cal bach o gynghanedd; ' sharad shwt shit' - it just has to be cynghanedd!! :winc:

Re: Pump am y Penwythnos, 01/10/10

PostioPostiwyd: Gwe 01 Hyd 2010 7:04 pm
gan Hedd Gwynfor
Kez a ddywedodd:A'r gystadleuath mor agos hefyd Hedd - ond o leia wi'n credu bo fi wedi cal bach o gynghanedd; ' sharad shwt shit' - it just has to be cynghanedd!! :winc:


Cyflythreniad cariad, cyflythreniad... :winc:

Re: Pump am y Penwythnos, 01/10/10

PostioPostiwyd: Gwe 01 Hyd 2010 7:14 pm
gan Kez
Hedd Gwynfor a ddywedodd:
Kez a ddywedodd:A'r gystadleuath mor agos hefyd Hedd - ond o leia wi'n credu bo fi wedi cal bach o gynghanedd; ' sharad shwt shit' - it just has to be cynghanedd!! :winc:


Cyflythreniad cariad, cyflythreniad... :winc:


Own i'n meddwl taw cynghanedd 'lisp' odd hi. Na, wedi meddwl - tharad thwt thit - bysa hwnna.

Mae barddoniaeth Gymraeg yn gallu bod mor ffycin anodd - ac wi'm credu taw cyflythreniad yw e chwaith ond walla bo ti'n iawn ond gobitho ddim, darling.. :winc:

Re: Pump am y Penwythnos, 01/10/10

PostioPostiwyd: Sad 02 Hyd 2010 10:26 am
gan sian
1. Be' 'di'ch hoff lyfr chi yn y byd i gyd yn grwn?
Mae Theomemphus yn Hen gan Dafydd Rowlands

2. Be' 'd'r un peth mawr 'da chi isho'i gyflawni erbyn y 'Dolig?
Peidio â (gorfod) nagio Megan i gadw'i llofft yn weddol daclus

3. Be' 'di'r peth mwya' hyfryd 'da chi'n bwriadu'i fwyta penwythnos yma?
Caws Pont Gâr - newydd ei ddarganfod - mae'n hyfryd

4. Hoff ddyfyniad, o unrhywbeth, unrhyw iaith?
Wedi bod yn Cylch Llenyddol Llŷn yn gwrando ar Idris Reynolds yn siarad am Dic Jones neithiwr, felly "Ei dawn i wylo yw gwerth dynoliaeth"

5. Hoff wenoglun?
:?

Re: Pump am y Penwythnos, 01/10/10

PostioPostiwyd: Sad 02 Hyd 2010 1:32 pm
gan Jemeima Mop
1. Be' 'di'ch hoff lyfr chi yn y byd i gyd yn grwn?
Yyym . . .On The Road, Jack Kerouak . . . . ne Cerddi T.H.Parry Williams

2. Be' 'd'r un peth mawr 'da chi isho'i gyflawni erbyn y 'Dolig?
Mynd adra

3. Be' 'di'r peth mwya' hyfryd 'da chi'n bwriadu'i fwyta penwythnos yma?
Ma na fango ar y bwr. Fydd o'n barod erbyn diwadd fory. Mmm.

4. Hoff ddyfyniad, o unrhywbeth, unrhyw iaith?
"Anti, ti'n debyg i fwystfil yn y llun 'na" Efan Dafydd Ros.

5. Hoff wenoglun?
:seiclops:

Re: Pump am y Penwythnos, 01/10/10

PostioPostiwyd: Sad 02 Hyd 2010 4:45 pm
gan Bwchdanas
1. Be' 'di'ch hoff lyfr chi yn y byd i gyd yn grwn?
"Brendon Chase" gan BB
2. Be' 'd'r un peth mawr 'da chi isho'i gyflawni erbyn y 'Dolig?
Llwyddo i symud y teulu i Gyprus heb golli gormod o stwff nag un or plant
3. Be' 'di'r peth mwya' hyfryd 'da chi'n bwriadu'i fwyta penwythnos yma?
Rwy newydd gael gafael ar hanner pwys o eog gwyll or Teifi, wedi ei smygu, y gobaith yw na'I lwyddo i fyta fe i gyd cyn i'r plant ei weld e!
4. Hoff ddyfyniad, o unrhywbeth, unrhyw iaith?
"Buzzards gotta eat, same as worms" gan Clint Eastwood yn y ffilm "The Outlaw Josey Wales"(cyswllt Cymraeg - o fath :D )
5. Hoff wenoglun?
:wps: am fod gymaint o bethau saesneg yn fy rhestr!

Re: Pump am y Penwythnos, 01/10/10

PostioPostiwyd: Sad 02 Hyd 2010 5:20 pm
gan Gwen
Jemeima Mop a ddywedodd:1. Be' 'di'ch hoff lyfr chi yn y byd i gyd yn grwn?
Yyym . . .On The Road, Jack Kerouak . . . .


O diar. (Dim llawer ers i mi weld Gwlad yr Addewid)

Dwisho atab, ond mae gen i ofn ers dallt bod Pump am y Penwythnos yn gorad :ofn:

Yn y cyfamsar, rhaid i mi gytuno efo Hogyn o Rachub mai dyma'r gwenoglun gora: :D

Re: Pump am y Penwythnos, 01/10/10

PostioPostiwyd: Sad 02 Hyd 2010 6:40 pm
gan anffodus
1. Be' 'di'ch hoff lyfr chi yn y byd i gyd yn grwn?
The Catcher in the Rye, J.D. Salinger neu Cyw Haul neu Cyw Dôl, Twm Miall

2. Be' 'd'r un peth mawr 'da chi isho'i gyflawni erbyn y 'Dolig?
Tyfu locsyn os ga'i fynadd

3. Be' 'di'r peth mwya' hyfryd 'da chi'n bwriadu'i fwyta penwythnos yma?
Ma na minted lamb chops a chips yn y stôf ar hyn o bryd felly hwnna oni bai y gneith o losgi. A'r rhan fwya o dun mawr o Quality Street brynis i'n Asda dre gynna

4. Hoff ddyfyniad, o unrhywbeth, unrhyw iaith?
Gormod o lawar ohonyn nhw a phob un yn ffefryn ar adega gwahanol.

5. Hoff wenoglun?
:winc:

Re: Pump am y Penwythnos, 01/10/10

PostioPostiwyd: Sad 02 Hyd 2010 7:02 pm
gan Chwadan
Diolch Manon!

1. Be' 'di'ch hoff lyfr chi yn y byd i gyd yn grwn?
The Grapes of Wrath, John Steinbeck.

2. Be' 'd'r un peth mawr 'da chi isho'i gyflawni erbyn y 'Dolig?
Gorffen gwaith cwrs a chael amser i fanteisio ar y pethau gwych yn fy mywyd :D </caws>

3. Be' 'di'r peth mwya' hyfryd 'da chi'n bwriadu'i fwyta penwythnos yma?
Pasta efo chorizo a ffenel a briwsion bara. A llwyth o win coch.

4. Hoff ddyfyniad, o unrhywbeth, unrhyw iaith?
"I used to be snow white, but I drifted" - Mae West

5. Hoff wenoglun?
:D :D :D :D :D

Re: Pump am y Penwythnos, 01/10/10

PostioPostiwyd: Sad 02 Hyd 2010 9:00 pm
gan Macsen
1. Be' 'di'ch hoff lyfr chi yn y byd i gyd yn grwn?

Dwi'n darllen lot o The Road gan Cormac McCarthy yn ddiweddar. Mae o fatha llen meicro... ond hyd nofel.

2. Be' 'd'r un peth mawr 'da chi isho'i gyflawni erbyn y 'Dolig?

Jesd gwylio fy merch yn tyfu i fod yn bedwar mis oed!

3. Be' 'di'r peth mwya' hyfryd 'da chi'n bwriadu'i fwyta penwythnos yma?

Ges i Lemon Chicken o Ling di Long Llambed neithiwr, dyna fydd yr uchafbwynt dwi'n meddwl.

4. Hoff ddyfyniad, o unrhywbeth, unrhyw iaith?

“Journalism is literature in a hurry.”

5. Hoff wenoglun?

:gwyrdd: