Tudalen 3 o 3

Re: Pump am y Penwythnos, 01/10/10

PostioPostiwyd: Sul 03 Hyd 2010 3:27 pm
gan osian
anffodus a ddywedodd:1. Be' 'di'ch hoff lyfr chi yn y byd i gyd yn grwn?
The Catcher in the Rye, J.D. Salinger neu Cyw Haul neu Cyw Dôl, Twm Miall

Wedi cymryd y ddau yna o'r llyfrgell wsos dwytha yn digwydd bod, ac wedi mwynhau Cyw Haul yn uffernol. Ma cwestiynna' fel hyn yn anodd iawn i'w hateb, felly nai'm boddro. Falch iawn o weld yr edefyn yma nol, fodd bynnag!

Re: Pump am y Penwythnos, 01/10/10

PostioPostiwyd: Llun 04 Hyd 2010 7:52 pm
gan Ramirez
Macsen a ddywedodd:Dwi'n darllen lot o The Road gan Cormac McCarthy yn ddiweddar. Mae o fatha llen meicro... ond hyd nofel.


Da beth. Ti wedi darllen y Borders Trilogy gan yr un awdur? Ymysg y pethau i mi eu mwynhau fwyaf erioed.

Re: Pump am y Penwythnos, 01/10/10

PostioPostiwyd: Llun 04 Hyd 2010 7:55 pm
gan Macsen
Ramirez a ddywedodd:Da beth. Ti wedi darllen y Borders Trilogy gan yr un awdur? Ymysg y pethau i mi eu mwynhau fwyaf erioed.

Na, yr unig lyfr arall ganddo ydw i wedi ei ddarllen ydi No Country for Old Men. Mae ei lyfrau o'n eitha depressing felly dw i am adael blwyddyn dda rhyngddyn nhw rhag ofn i fi ladd fy hun.

Re: Pump am y Penwythnos, 01/10/10

PostioPostiwyd: Llun 04 Hyd 2010 8:03 pm
gan Ramirez
Macsen a ddywedodd:
Ramirez a ddywedodd:Da beth. Ti wedi darllen y Borders Trilogy gan yr un awdur? Ymysg y pethau i mi eu mwynhau fwyaf erioed.

Na, yr unig lyfr arall ganddo ydw i wedi ei ddarllen ydi No Country for Old Men. Mae ei lyfrau o'n eitha depressing felly dw i am adael blwyddyn dda rhyngddyn nhw rhag ofn i fi ladd fy hun.


Digon gwir. Dwi newydd brynu Blood Meridian, a mae hwnnw bron a bod yn fwy 'bleak' na The Road yn ol pob son. Diar mi.