Anaml y byddwn i'n ateb y rhain fy hun, ond mae mhanad i'n dal i fod yn boeth felly waeth mi ddim.
1. Be dach chi'n ei gael i ginio heddiw?Tôst. Am mod i wedi dwad adra. Ac am mod i'n hwyr bora 'ma - yn rhy hwyr i wneud fy mrechdanau.
2. Be fysa'n well gynnoch chi ei gael?Dwn im. Mae o'n jenj o'r bocs bwyd, ond dio'm yn ddifyr iawn nachdi. Ond dwi'n mynd allan am swper ffarwelio heno. (Dim ond rwan dwi'n gweld bod y cwestiyna ma'n ddiflas - sori! On i'n gwbod y bysa hi di bod yn well i mi sticio at lendid corfforol fathag erstalwm.)
3. Be sydd i'r dde i chi, a be di'ch barn chi am ei werth o?Oce... bwrdd yn cynnwys printar, trê i ddal pethau pwysig ond sy efo 'walkthrough' gêm ynddo fo ar y funud... 2 botel Becks wag... post-it yn cynnwys rhifau... ymm... be dach chi'n eu galw nhw? Pan dach chi'n cyfri fesul 5 gan fynd 1, 2, 3, 4 ac ma'r pumad fatha giât... Hynny. Hyd at 85 ar y pryd, ond dwi'n digwydd gwbod bod na dros gant erbyn hyn. Dyddiadur Y Lolfa 2009. Map OS o Eryri. A chortyn i ddiffodd y gola.
Eu gwerth nhw? Hmm...
Bwrdd: handi i ddal y petha erill, yn amlwg.
Y trê: syniad da ryw oes, ond heb ei ddefnyddio i ddibenion cystal ers hynny.
Y 'walkthrough': wel ia. Gwerthfawr tra parodd o. Ond yna mi ddifethodd y gêm, fel y bydd y petha ma. Dwi byth yn chwara gema go iawn - ar ôl Dolig oedd hi.
2 botel Becks: wel, handi mewn ffordd, achos dwi'n cofio rwan bod isho i mi ailgylchu.
Y post-it: mae o'n gneud i mi wenu. Ond mi fysa wedi gallu fy nghymell i i wneud rhywbeth annoeth hefyd fysa wedi torri fy nghalon i a gneud i mi deimlo'n annifyr. Nath o ddim, felly mae o'n oce.
Y dyddiadur: Da i ddim a deud y gwir nachdi? Ond dwi'n tueddu i gadw hen ddyddiaduron 'rhag ofn'.
Y map: Dio'm yn *ddefnyddiol* neu fysa fo ddim ar y wal. Ond mae o hefyd achos dwi di dysgu enw Parc Drysgol.
Y cortyn gola: yndi - defnyddiol achos dwi'm di agor y cyrtans yma.
4. Be di'r defnydd gorau o bapur wnaethoch chi erioed? A'r gwaetha?Dwisho gallu deud rwbath gwreiddiol yn fama... rwbath gwell na thraethodau, CVs a ballu... Hmm... Be fysa fo 'dwch? Dim otsh - isho gweld atebion pobol erill ydw i yn fwy na dim. Y gwaetha: llythyr at fy chwaer y gnath hi ei ddangos i Dad ac y ces i goblyn o row o'i herwydd o a chwestiynu cyflwr fy meddwl
Nid peth diweddar wrth gwrs de. Gnawas. Dwi'n flin efo hi eto rwan.
5. Pa ran o'ch corff ydach chi fwya ymwybodol ohono ar y funud?Cwestiwn i'ch gneud chi'n heipocondriacs ydi hwn. Felly... lle sy'n brifo dudwch? Fy mhen sgwydda dwi'n meddwl. O - ac mae fy amrant i'n cosi rwan... W - a'r ael...
Atebion pawb arall rwan plis