Tudalen 1 o 3

Pump am y Penwythnos, 28.01.11

PostioPostiwyd: Gwe 28 Ion 2011 1:25 pm
gan Gwen
A finna wedi taro bargen ddirgel efo Hedd ddechrau'r wythnos dyma fi'n cadw fy ngair ac yn gosod cwestiynau Pump am y Penwythnos. Ma'i fel yr hen ddyddia yma, ond chydig yn llai democrataidd. Ta waeth...

Dwi wedi dwad adra am fy nghinio (ac i wneud PAYP, am fod arna i ofn Hedd), felly...
1. Be dach chi'n ei gael i ginio heddiw?

2. Be fysa'n well gynnoch chi ei gael?

3. Be sydd i'r dde i chi, a be di'ch barn chi am ei werth o?

4. Be di'r defnydd gorau o bapur wnaethoch chi erioed? A'r gwaetha?

5. Pa ran o'ch corff ydach chi fwya ymwybodol ohono ar y funud?

Re: Pump am y Penwythnos, 28.01.11

PostioPostiwyd: Gwe 28 Ion 2011 1:50 pm
gan Gwen
Anaml y byddwn i'n ateb y rhain fy hun, ond mae mhanad i'n dal i fod yn boeth felly waeth mi ddim.

1. Be dach chi'n ei gael i ginio heddiw?
Tôst. Am mod i wedi dwad adra. Ac am mod i'n hwyr bora 'ma - yn rhy hwyr i wneud fy mrechdanau.

2. Be fysa'n well gynnoch chi ei gael?
Dwn im. Mae o'n jenj o'r bocs bwyd, ond dio'm yn ddifyr iawn nachdi. Ond dwi'n mynd allan am swper ffarwelio heno. (Dim ond rwan dwi'n gweld bod y cwestiyna ma'n ddiflas - sori! On i'n gwbod y bysa hi di bod yn well i mi sticio at lendid corfforol fathag erstalwm.)

3. Be sydd i'r dde i chi, a be di'ch barn chi am ei werth o?
Oce... bwrdd yn cynnwys printar, trê i ddal pethau pwysig ond sy efo 'walkthrough' gêm ynddo fo ar y funud... 2 botel Becks wag... post-it yn cynnwys rhifau... ymm... be dach chi'n eu galw nhw? Pan dach chi'n cyfri fesul 5 gan fynd 1, 2, 3, 4 ac ma'r pumad fatha giât... Hynny. Hyd at 85 ar y pryd, ond dwi'n digwydd gwbod bod na dros gant erbyn hyn. Dyddiadur Y Lolfa 2009. Map OS o Eryri. A chortyn i ddiffodd y gola.

Eu gwerth nhw? Hmm...
Bwrdd: handi i ddal y petha erill, yn amlwg.
Y trê: syniad da ryw oes, ond heb ei ddefnyddio i ddibenion cystal ers hynny.
Y 'walkthrough': wel ia. Gwerthfawr tra parodd o. Ond yna mi ddifethodd y gêm, fel y bydd y petha ma. Dwi byth yn chwara gema go iawn - ar ôl Dolig oedd hi.
2 botel Becks: wel, handi mewn ffordd, achos dwi'n cofio rwan bod isho i mi ailgylchu.
Y post-it: mae o'n gneud i mi wenu. Ond mi fysa wedi gallu fy nghymell i i wneud rhywbeth annoeth hefyd fysa wedi torri fy nghalon i a gneud i mi deimlo'n annifyr. Nath o ddim, felly mae o'n oce.
Y dyddiadur: Da i ddim a deud y gwir nachdi? Ond dwi'n tueddu i gadw hen ddyddiaduron 'rhag ofn'.
Y map: Dio'm yn *ddefnyddiol* neu fysa fo ddim ar y wal. Ond mae o hefyd achos dwi di dysgu enw Parc Drysgol.
Y cortyn gola: yndi - defnyddiol achos dwi'm di agor y cyrtans yma.

4. Be di'r defnydd gorau o bapur wnaethoch chi erioed? A'r gwaetha?
Dwisho gallu deud rwbath gwreiddiol yn fama... rwbath gwell na thraethodau, CVs a ballu... Hmm... Be fysa fo 'dwch? Dim otsh - isho gweld atebion pobol erill ydw i yn fwy na dim. Y gwaetha: llythyr at fy chwaer y gnath hi ei ddangos i Dad ac y ces i goblyn o row o'i herwydd o a chwestiynu cyflwr fy meddwl :drwg: Nid peth diweddar wrth gwrs de. Gnawas. Dwi'n flin efo hi eto rwan.

5. Pa ran o'ch corff ydach chi fwya ymwybodol ohono ar y funud?
Cwestiwn i'ch gneud chi'n heipocondriacs ydi hwn. Felly... lle sy'n brifo dudwch? Fy mhen sgwydda dwi'n meddwl. O - ac mae fy amrant i'n cosi rwan... W - a'r ael...

Atebion pawb arall rwan plis :saeth:

Re: Pump am y Penwythnos, 28.01.11

PostioPostiwyd: Gwe 28 Ion 2011 1:54 pm
gan bartiddu
Fi gynta! :D (olreit, ail de) :gwyrdd:

1. Be dach chi'n ei gael i ginio heddiw?
Pastai caws a winwns gyda thatws ag india corn (oedd y relish winwns coch bach yn dros y top gydag e, ac yn rhy felys) :?

2. Be fysa'n well gynnoch chi ei gael?
Pysgodyn a sglodion (yfory!)

3. Be sydd i'r dde i chi, a be di'ch barn chi am ei werth o?
Cyfrifiadur - elen i'n ddwl hebddo mae'n siwr, bydde rhaid gwylio teledu wedyn! :ofn:

4. Be di'r defnydd gorau o bapur wnaethoch chi erioed? A'r gwaetha?
Mae papurau lleol yn dda iawn os rydych mewn argyfwng yn y ty bach. <---<< Gweler!

5. Pa ran o'ch corff ydach chi fwya ymwybodol ohono ar y funud?
Fy nhrywn (rwy'n ei grafu)

Re: Pump am y Penwythnos, 28.01.11

PostioPostiwyd: Gwe 28 Ion 2011 1:56 pm
gan Gwen
bartiddu a ddywedodd:Mae papurau lleol yn dda iawn os rydych mewn argyfwng yn y ty bach. <---<< Gweler!


A phapurau Orbit os ydi hi'n ddrwg iawn arnoch chi...

Re: Pump am y Penwythnos, 28.01.11

PostioPostiwyd: Gwe 28 Ion 2011 2:12 pm
gan Ramirez
1. Be dach chi'n ei gael i ginio heddiw?
Wrap hot & spicy chicken o'r Pantri yng Nghaernarfon, afal a Coca Cola

2. Be fysa'n well gynnoch chi ei gael?
Huevos Rancheros a Tequila

3. Be sydd i'r dde i chi, a be di'ch barn chi am ei werth o?
Powtsh 25g o Golden Virginia. £6.40

4. Be di'r defnydd gorau o bapur wnaethoch chi erioed? A'r gwaetha?
Gwagio hanner y powtsh uchod (Rizlas, innit)

5. Pa ran o'ch corff ydach chi fwya ymwybodol ohono ar y funud?
Clustiau. Mae Ozzy Osbourne yn rhuo i mewn iddyn nhw (can sydd efo mwy neu lai union yr un solo gitar a'r Final Countdown, digwydd bod)

Re: Pump am y Penwythnos, 28.01.11

PostioPostiwyd: Gwe 28 Ion 2011 3:12 pm
gan Hogyn o Rachub
Hwrê!


1. Be dach chi'n ei gael i ginio heddiw?

Mi geshi frechdan ham a thomato, ac wedyn banana.

2. Be fysa'n well gynnoch chi ei gael?

Rwbath seimllyd budur. Dwi wedi magu blas am lle nwdls yn ddiweddar felly peryg mai nwdls y byddai.

3. Be sydd i'r dde i chi, a be di'ch barn chi am ei werth o?

Styffylwr. £3.50 os hynny.

4. Be di'r defnydd gorau o bapur wnaethoch chi erioed? A'r gwaetha?

Mae'n siwr ryw eroplên pan o'n i'n fach. Y peth gwaethaf fwy na thebyg ydi'r 15 mlynedd o ddyddiaduron i gofnod fy mywyd diflas!

5. Pa ran o'ch corff ydach chi fwya ymwybodol ohono ar y funud?

Fy mysedd - gwneud sens!

Re: Pump am y Penwythnos, 28.01.11

PostioPostiwyd: Gwe 28 Ion 2011 3:56 pm
gan Gwen
Bobol, bobol... mi dach chi'n gwbod pris pob dim a gwerth dim byd. Eich barn chi ynglyn â *gwerth* y petha ma plis, boed yn Rislas neu styffylwyr.

Re: Pump am y Penwythnos, 28.01.11

PostioPostiwyd: Gwe 28 Ion 2011 4:16 pm
gan Ramirez
£6.40 ydi gwerth y powtsh hefyd! Mi dwi'n fodlon talu hynny amdano fo, a tydwi ddim yn fodlon talu mwy.


...ond os fysa'r pris yn codi, mi fyaswni'n fodlon talu mwy...

Re: Pump am y Penwythnos, 28.01.11

PostioPostiwyd: Gwe 28 Ion 2011 4:25 pm
gan Hogyn o Rachub
Ac mae gwerth styffylwr yn edefyn ar ei ben ei hun...

Re: Pump am y Penwythnos, 28.01.11

PostioPostiwyd: Gwe 28 Ion 2011 4:27 pm
gan Gwen
Ac mae gwerth pob dim yn cael ei fesur mewn styrling gynnoch chi?