Tudalen 2 o 3

Re: Pump am y Penwythnos, 28.01.11

PostioPostiwyd: Gwe 28 Ion 2011 4:29 pm
gan Gwen
Mae'n rhaid 'mod i wedi colli hyn fwy nag on i di feddwl. Dwi di meddwl am gwestiyna dydd Gwenar nesa yn barod :D

Re: Pump am y Penwythnos, 28.01.11

PostioPostiwyd: Gwe 28 Ion 2011 4:58 pm
gan Twyllwr Rhinweddol
1. Mi es i Next efo cydweithwraig oedd isho prynu trowsus yn lle bwyta heddiw ma.

2. Mewn byd delfrydol, baguette BLT efo lot o feioneis o Spartacus Aberystwyth, kettle chips a crim egg. Mmm.

3. Dynas ganol oed sy'n isda wrth fy ochr ar y tren i dre'r Sbarticys. Mae ganddi dreinyrs gwyn am ei thraed, jins glas gola, cot weu ddu a rwbath o dan honno... Ar ol ei hastudio lawar mwy nag sy'n weddus ar drafnidiaeth gyhoeddus, gwelaf mai top brown gola sydd ganddi.

Ei gwerth? Ni thybiaf ei bod hi'n arbennig o gyfoethog. Ond mae hi werth y byd i rywun ma siwr tydi. Ei gwerth i mi? Ddudwn i ddim ei bod yn ddi-werth i mi chwaith.

4. Di gneud y petha gora i gyd ar gompiwtar [fydda i'n ffitio mewn yn haciaith fory wan da chi'n meddwl?]. Y peth gwaetha - dwdls di-ri a llunia sal.

5. Mi frathais tu mewn i ngheg ryw awr nol (isho bwyd rol methu cinio ma raid). Mae o di chwyddo wan, ond mi ddown drwyddi.

Re: Pump am y Penwythnos, 28.01.11

PostioPostiwyd: Gwe 28 Ion 2011 5:05 pm
gan Gwen
Twyllwr Rhinweddol a ddywedodd:3. Dynas ganol oed sy'n isda wrth fy ochr ar y tren i dre'r Sbarticys. Mae ganddi dreinyrs gwyn am ei thraed, jins glas gola, cot weu ddu a rwbath o dan honno... Ar ol ei hastudio lawar mwy nag sy'n weddus ar drafnidiaeth gyhoeddus, gwelaf mai top brown gola sydd ganddi.

Ei gwerth? Ni thybiaf ei bod hi'n arbennig o gyfoethog. Ond mae hi werth y byd i rywun ma siwr tydi. Ei gwerth i mi? Ddudwn i ddim ei bod yn ddi-werth i mi chwaith.


:lol:

Re: Pump am y Penwythnos, 28.01.11

PostioPostiwyd: Gwe 28 Ion 2011 5:19 pm
gan Ramirez
Gwen a ddywedodd:Ac mae gwerth pob dim yn cael ei fesur mewn styrling gynnoch chi?


Iyp! Dim o'r hippy shit 'na i fi diolch yn fawr!

Re: Pump am y Penwythnos, 28.01.11

PostioPostiwyd: Gwe 28 Ion 2011 6:17 pm
gan Manon
Twyllwr Rhinweddol a ddywedodd:
3. Dynas ganol oed sy'n isda wrth fy ochr ar y tren i dre'r Sbarticys. Mae ganddi dreinyrs gwyn am ei thraed, jins glas gola, cot weu ddu a rwbath o dan honno... Ar ol ei hastudio lawar mwy nag sy'n weddus ar drafnidiaeth gyhoeddus, gwelaf mai top brown gola sydd ganddi.

Ei gwerth? Ni thybiaf ei bod hi'n arbennig o gyfoethog. Ond mae hi werth y byd i rywun ma siwr tydi. Ei gwerth i mi? Ddudwn i ddim ei bod yn ddi-werth i mi chwaith.



:lol: :lol: :lol:

Re: Pump am y Penwythnos, 28.01.11

PostioPostiwyd: Gwe 28 Ion 2011 6:25 pm
gan Manon
1. Be dach chi'n ei gael i ginio heddiw?
Ges i faget gig moch. O'dd o'n neis ond fytish i ormod.

2. Be fysa'n well gynnoch chi ei gael?
Be' 'dwi wrthi'n ei gwcio rwan... Cyri prawns efo lwmp o grymbl afal i bwdin. Diwrnod arall o fwyta'n iach. :winc:

3. Be sydd i'r dde i chi, a be di'ch barn chi am ei werth o?
Cadair uchel y babi. Ei werth mewn styrling (chwedal Gwen, sydd o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg :winc: ) ydi ryw £20- Ma'r un sydd ar fin cael ei swpar ynddo, a gwneud llanast go fawr mashwr, yn werth y byd i gyd yn grwn.

4. Be di'r defnydd gorau o bapur wnaethoch chi erioed? A'r gwaetha?
Gora- 'Sgwennu storis.
Gwaetha'- 'Sgwennu llythyr ffug i problem page Just 17 yn rar gefn ffrind pan o'n i tua 7. Roedd o'n cynnwys un reg, ac mi wnaeth fy annwyl chwaer fy mlacmeilio i am FLYNYDDOEDD am y peth. :drwg:

5. Pa ran o'ch corff ydach chi fwya ymwybodol ohono ar y funud?
'Mol i. 'Dwi'n edrych tua 5 mis yn feichiog ar hyn o bryd achos myffins, cyris, cwcis a chrisps...

Re: Pump am y Penwythnos, 28.01.11

PostioPostiwyd: Gwe 28 Ion 2011 6:43 pm
gan Gwen
Manon a ddywedodd:'Mol i. 'Dwi'n edrych tua 5 mis yn feichiog ar hyn o bryd achos myffins, cyris, cwcis a chrisps...


Ma isho i mi ddysgu darllen yn fwy gofalus*. Wele fi ryw ugian eiliad yn ôl: :ofn: (yn barod i decsdio'r Twyllwr i ddeud!!)

* Deu gwir, ma hyn yn reit hanfodol ac ystyried fy swydd i.

Ar nodyn arall, dwi'n hapus iawn iawn fod Manon yn meddwl mod i'n argyhoeddi fel rhywun o'r 19g. Ies!

Re: Pump am y Penwythnos, 28.01.11

PostioPostiwyd: Gwe 28 Ion 2011 6:45 pm
gan Gwen
Manon a ddywedodd:'Sgwennu llythyr ffug i problem page Just 17 yn rar gefn ffrind pan o'n i tua 7. Roedd o'n cynnwys un reg, ac mi wnaeth fy annwyl chwaer fy mlacmeilio i am FLYNYDDOEDD am y peth. :drwg:


Dwi fatha taswn i'n cofio rwbath am hyn. Dydi fy ateb i ddim miliyn mails awê chwaith - roedd a wnelo fo â'r un "ffrind" a'r un "annwyl chwaer".

Re: Pump am y Penwythnos, 28.01.11

PostioPostiwyd: Gwe 28 Ion 2011 7:01 pm
gan Manon
Gwen a ddywedodd:
Manon a ddywedodd:'Mol i. 'Dwi'n edrych tua 5 mis yn feichiog ar hyn o bryd achos myffins, cyris, cwcis a chrisps...


Ma isho i mi ddysgu darllen yn fwy gofalus*. Wele fi ryw ugian eiliad yn ôl: :ofn: (yn barod i decsdio'r Twyllwr i ddeud!!)

* Deu gwir, ma hyn yn reit hanfodol ac ystyried fy swydd i.

Ar nodyn arall, dwi'n hapus iawn iawn fod Manon yn meddwl mod i'n argyhoeddi fel rhywun o'r 19g. Ies!




Heblaw'r "ies", Gwen. tydi 19gwyr ddim yn deud "ies".

Re: Pump am y Penwythnos, 28.01.11

PostioPostiwyd: Gwe 28 Ion 2011 7:05 pm
gan Twyllwr Rhinweddol
Dear Just 17, I hate my life. I'm being bullied at school because my father is a bloody vicar.

Geiriad y blacmel o flaen y rhieni (a tydi'r tad im yn ficar gyda llaw) oedd. "Rhaid i chdi xxxx ne dwi'n deud wrth mam a dad am ficar gwaed." Cynnil te. Er, mi odd yr awgrym yn fwy o beth nag oedd y gwirionadd. Fel tasa'r seithmlwydd sionc wedi trywanu Person y Plwy ne wbath difyr felly. Mi fysa hynny di bod yn amhrisiadwy, hyd yn oed mewn punnoedd sterling.