Tudalen 3 o 3

Re: Pump am y Penwythnos, 28.01.11

PostioPostiwyd: Gwe 28 Ion 2011 9:36 pm
gan Manon
Twyllwr! Sud wyt ti'n cofio cystal???? "ficer gwaed" oedd yn gyfrifol am fy holl ddigalondid yn blentyn! 'Dwi'n siwr i'r holl beth fynd 'mlaen tan o'n i tua 14...

Re: Pump am y Penwythnos, 28.01.11

PostioPostiwyd: Sad 29 Ion 2011 1:01 am
gan Mali
Ychydig yn hwyr dwi'n gwybod , ond mi ydwi wyth awr tu ol i lot o rai ar y maes ...... :winc:

1. Be dach chi'n ei gael i ginio heddiw?
Wedi cael cawl cyw iar . Ddim yn teimlo fel cael dim byd arall gan mod i wedi cael gormod i fwyta neithiwr.

2. Be fysa'n well gynnoch chi ei gael?
Taswn i'n teimlo'n well , faswn i 'di mwynhau sushi , neu wrap o ryw fath . 8)

3. Be sydd i'r dde i chi, a be di'ch barn chi am ei werth o?
Wel, y soffa lledr . Dim syniad be di werth o rwan .

4. Be di'r defnydd gorau o bapur wnaethoch chi erioed? A'r gwaetha?
W! Cewstiwn anodd. Fedrai ddim meddwl :(

5. Pa ran o'ch corff ydach chi fwya ymwybodol ohono ar y funud?
Rhy niferus i'w restru lol :winc:

Re: Pump am y Penwythnos, 28.01.11

PostioPostiwyd: Sad 29 Ion 2011 1:12 pm
gan Gwen
Mi ydach chi i *gyd* yn ystyried gwerth materol beth bynnag sydd i'r dde i chi! Hyd yn oed Manon a Mali. Dowch rwan - eu gwerth nhw i *chi*. Eu defnyddioldeb nhw os liciwch chi. Heb y gadair uchel mi fysa ap Manon yn gorfod buta'i fwyd ar lawr. Heb soffa mi fysa na le mawr gwag yn stafell fyw Mali. Mae'r petha ma'n bwysig. Maen nhw'n werthfawr. Tydi Dyddiadur 2009 ddim cweit mor werthfawr ond ella y bydd o ryw dro eto...

Re: Pump am y Penwythnos, 28.01.11

PostioPostiwyd: Sad 29 Ion 2011 2:52 pm
gan osian
1. Be dach chi'n ei gael i ginio heddiw?
Pitsa efo motsarela a sioritso ar ei ben

2. Be fysa'n well gynnoch chi ei gael?
Sudd oren. Mae gennyf benmaenmawr.

3. Be sydd i'r dde i chi, a be di'ch barn chi am ei werth o?

Wal, a thu hwnt i'r wal, y ferch drws nesa', sydd wrthi'n canu'n hapus. Yn anffodus, fedar hi ddim canu, felly dydi hi'n werth dim i mi.

4. Be di'r defnydd gorau o bapur wnaethoch chi erioed? A'r gwaetha?
Gneud water-bomb, ma'n reit hawdd. Dwi'n eitha' siwr mai'r traethawd diweddara' i mi neud oedd y gwaetha.

5. Pa ran o'ch corff ydach chi fwya ymwybodol ohono ar y funud?

Wrth mi feddwl am y cwestiwn yma, dwi 'di dechra cosi mewn sawl lle, ond i'r chwith o nhrwyn mae o waetha.

Re: Pump am y Penwythnos, 28.01.11

PostioPostiwyd: Sad 29 Ion 2011 6:06 pm
gan Mali
Gwen a ddywedodd:Mi ydach chi i *gyd* yn ystyried gwerth materol beth bynnag sydd i'r dde i chi! Hyd yn oed Manon a Mali. Dowch rwan - eu gwerth nhw i *chi*. Eu defnyddioldeb nhw os liciwch chi. Heb y gadair uchel mi fysa ap Manon yn gorfod buta'i fwyd ar lawr. Heb soffa mi fysa na le mawr gwag yn stafell fyw Mali. Mae'r petha ma'n bwysig. Maen nhw'n werthfawr. Tydi Dyddiadur 2009 ddim cweit mor werthfawr ond ella y bydd o ryw dro eto...


Ha ha ... :lol: Rwan dwi'n gweld . :wps:
Oce, mae'r soffa ledr yn werthfawr iawn . Mae 'na gefn uchel iawn iddi , a dyma un o'r rhesymau pam ddaru ni ei phrynu , gan fod fy ngwr a finna yn bobl dal. Mae hi hefyd yn gyfforddus iawn , ac mae'r ddau ben yn codi ar gyfer y coesau a'r traed. Handi iawn wrth ymlacio gyda'r nos i wylio'r teledu. Mae 'r soffa 'di bod gennym ers deng mlynedd bellach , a'r adeg honno dim ond un gath oedd gennym , sef yr 'hen' Blackie [ 'roedd hi'n 20 oed ] , a chymrodd hi fawr o sylw o'r soffa , dim ond cerdded tu ol iddi tuag at y ffenestr.
Ond , mae Mali'r gath yn hoff iawn o'r soffa lledr ! A dyma lle fydd hi'n cysgu bob nos . :D

Re: Pump am y Penwythnos, 28.01.11

PostioPostiwyd: Sul 30 Ion 2011 9:50 am
gan Manon
Oce Gwen, mae'r gadair uchel yn werthfawr achos ma' hi'n un arbennig nes i chwilio amdani ar y we, un sy'n clipio ar gadair cegin arferol, fel bod y bychan yn gallu isda efo'r gweddill ohona ni heb horwth mawr o gadair yn cymryd drosodd. Er, 'dwi'n meddwl y bysa'r babi yn ddigon hapus i fwyta oddi ar y llawr- MAe o i'w weld yn mwynhau petha' mae o'n ffindio yn fwy na'r hyn 'dwi'n ei roi iddo fo...