Re: Pump am y Penwythnos, 28.01.11
Postiwyd: Gwe 28 Ion 2011 9:36 pm
Twyllwr! Sud wyt ti'n cofio cystal???? "ficer gwaed" oedd yn gyfrifol am fy holl ddigalondid yn blentyn! 'Dwi'n siwr i'r holl beth fynd 'mlaen tan o'n i tua 14...
Gwen a ddywedodd:Mi ydach chi i *gyd* yn ystyried gwerth materol beth bynnag sydd i'r dde i chi! Hyd yn oed Manon a Mali. Dowch rwan - eu gwerth nhw i *chi*. Eu defnyddioldeb nhw os liciwch chi. Heb y gadair uchel mi fysa ap Manon yn gorfod buta'i fwyd ar lawr. Heb soffa mi fysa na le mawr gwag yn stafell fyw Mali. Mae'r petha ma'n bwysig. Maen nhw'n werthfawr. Tydi Dyddiadur 2009 ddim cweit mor werthfawr ond ella y bydd o ryw dro eto...