Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?
Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen
Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu
gan Gwen » Gwe 04 Chw 2011 2:01 pm
1. Pwy oedd y person diwetha i chi ei weld?
2. Be ddywedson nhw wrthoch chi?
3. Be ydi'r un peth y buasech chi wedi/yn licio'i gael gan y person yna?
4. Ydyn nhw'n debygol o'i roi o i chi byth?
5. Be dach chi'n ei ogleuo (arogli / wynto) ar y funud?
-

Gwen
- Cymedrolwr

-
- Negeseuon: 1825
- Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
- Lleoliad: Aberystwyth
gan ceribethlem » Gwe 04 Chw 2011 2:06 pm
1. Pwy oedd y person diwetha i chi ei weld?
Blwyddyn 11
2. Be ddywedson nhw wrthoch chi?
Shwd drymyr oedd Euros Rowlands te?
3. Be ydi'r un peth y buasech chi wedi/yn licio'i gael gan y person yna?
Canltyniadau o safon yn y TGAU
4. Ydyn nhw'n debygol o'i roi o i chi byth?
Ai, gyda bach o ymdrech.
5. Be dach chi'n ei ogleuo (arogli / wynto) ar y funud?
Sylffwr deuocsid yn dilyn arbrawf cyn cino.
Nonsens
-
ceribethlem
- Gweinyddwr

-
- Negeseuon: 4530
- Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
- Lleoliad: mynydd du
gan osian » Gwe 04 Chw 2011 2:37 pm
1. Pwy oedd y person diwetha i chi ei weld?
Hogan sy'n byw efo fi
2. Be ddywedson nhw wrthoch chi?
WAAA. Mi oedd hi yn gorfedd ar y soffa pan gerddish i mewn i'r stafell fyw, a finna'n meddwl fod y lle yn wag. Gesh i goblyn o sioc.
3. Be ydi'r un peth y buasech chi wedi/yn licio'i gael gan y person yna?
Rhybudd.
4. Ydyn nhw'n debygol o'i roi o i chi byth?
Rhy hwyr, braidd
5. Be dach chi'n ei ogleuo (arogli / wynto) ar y funud?
Dim byd. Dwi'n y llyfrgell. Does na'm ogla yma. Od.
"I'm hugely confused Ted!"
-

osian
- Defnyddiwr Arian

-
- Negeseuon: 627
- Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
- Lleoliad: o flaen sgrin
gan Manon » Gwe 04 Chw 2011 5:22 pm
1. Pwy oedd y person diwetha i chi ei weld? Fy meibion.
2. Be ddywedson nhw wrthoch chi? "mamamamamamama... pw."
3. Be ydi'r un peth y buasech chi wedi/yn licio'i gael gan y person yna? Sws!
4. Ydyn nhw'n debygol o'i roi o i chi byth? Miloedd, gobeithio.
5. Be dach chi'n ei ogleuo (arogli / wynto) ar y funud? Wel 'di'r gannwyll Zesty Lime 'ma o Morrissons yn ogleuo o ddim byd, felly'r sbeisys 'dwi 'di cymysgu ar gyfar y cyw iar at swpar. (cumin a coriander!)
Even I, as sick as I am, I would never be you...
-

Manon
- Defnyddiwr Arian

-
- Negeseuon: 958
- Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm
gan Mali » Sad 05 Chw 2011 3:55 am
1. Pwy oedd y person diwetha i chi ei weld?Fy ngwr i .
2. Be ddywedson nhw wrthoch chi?Go Canucks !
3. Be ydi'r un peth y buasech chi wedi/yn licio'i gael gan y person yma?bocs siocled
4. Ydyn nhw'n debygol o'i roi o i chi byth?Ydi ar Chwefror 14.
5. Be dach chi'n ei ogleuo (arogli / wynto) ar y funud?Gaethon ni chinese têc awê yn gynharach , ac mae'r ty yn ogla fatha bwyta Tsieneaidd.

-

Mali
- Cymedrolwr

-
- Negeseuon: 2574
- Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
- Lleoliad: Canada
-
gan Hogyn o Rachub » Sad 05 Chw 2011 7:45 pm
1. Pwy oedd y person diwetha i chi ei weld?
Globan dew yn rhoi fy Macdonalds i mi
2. Be ddywedson nhw wrthoch chi?
£4.79
3. Be ydi'r un peth y buasech chi wedi/yn licio'i gael gan y person yna?
Ro'n i'n ddigon hapus ar fy chicken mcnuggets de
4. Ydyn nhw'n debygol o'i roi o i chi byth?
Ydyn wir
5. Be dach chi'n ei ogleuo (arogli / wynto) ar y funud?
Chicken mcnuggets. Sori, undonog mi wn!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"
-

Hogyn o Rachub
- Defnyddiwr Aur

-
- Negeseuon: 4939
- Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
- Lleoliad: Caerdydd a Rachub
-
gan Macsen » Sul 06 Chw 2011 11:30 am
1. Pwy oedd y person diwetha i chi ei weld?
Fy merch 5 mis oed.
2. Be ddywedson nhw wrthoch chi?
'Mamamamamama' (dyw hi heb feistroli 'Dadadadadada' eto).
3. Be ydi'r un peth y buasech chi wedi/yn licio'i gael gan y person yna?
Gwên.
4. Ydyn nhw'n debygol o'i roi o i chi byth?
Yn fwy aml yn ddiweddar.
5. Be dach chi'n ei ogleuo (arogli / wynto) ar y funud?
Yn y gwaith yn bwyta brechdan gaws, felly'r frechdan.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch !
-

Macsen
- Defnyddiwr Platinwm

-
- Negeseuon: 6193
- Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
- Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr
-
Dychwelyd i Pump am y Penwythnos
Pwy sydd ar-lein
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai