Pump am y Penwythnos, 04.02.11

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos, 04.02.11

Postiogan Gwen » Gwe 04 Chw 2011 2:01 pm

1. Pwy oedd y person diwetha i chi ei weld?

2. Be ddywedson nhw wrthoch chi?

3. Be ydi'r un peth y buasech chi wedi/yn licio'i gael gan y person yna?

4. Ydyn nhw'n debygol o'i roi o i chi byth?

5. Be dach chi'n ei ogleuo (arogli / wynto) ar y funud?
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Pump am y Penwythnos, 04.02.11

Postiogan ceribethlem » Gwe 04 Chw 2011 2:06 pm

1. Pwy oedd y person diwetha i chi ei weld?
Blwyddyn 11

2. Be ddywedson nhw wrthoch chi?
Shwd drymyr oedd Euros Rowlands te?

3. Be ydi'r un peth y buasech chi wedi/yn licio'i gael gan y person yna?
Canltyniadau o safon yn y TGAU

4. Ydyn nhw'n debygol o'i roi o i chi byth?
Ai, gyda bach o ymdrech.

5. Be dach chi'n ei ogleuo (arogli / wynto) ar y funud?
Sylffwr deuocsid yn dilyn arbrawf cyn cino.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Pump am y Penwythnos, 04.02.11

Postiogan osian » Gwe 04 Chw 2011 2:37 pm

1. Pwy oedd y person diwetha i chi ei weld?
Hogan sy'n byw efo fi

2. Be ddywedson nhw wrthoch chi?
WAAA. Mi oedd hi yn gorfedd ar y soffa pan gerddish i mewn i'r stafell fyw, a finna'n meddwl fod y lle yn wag. Gesh i goblyn o sioc.

3. Be ydi'r un peth y buasech chi wedi/yn licio'i gael gan y person yna?
Rhybudd.

4. Ydyn nhw'n debygol o'i roi o i chi byth?
Rhy hwyr, braidd

5. Be dach chi'n ei ogleuo (arogli / wynto) ar y funud?
Dim byd. Dwi'n y llyfrgell. Does na'm ogla yma. Od.
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: Pump am y Penwythnos, 04.02.11

Postiogan Manon » Gwe 04 Chw 2011 5:22 pm

1. Pwy oedd y person diwetha i chi ei weld? Fy meibion.

2. Be ddywedson nhw wrthoch chi? "mamamamamamama... pw." :D

3. Be ydi'r un peth y buasech chi wedi/yn licio'i gael gan y person yna? Sws!

4. Ydyn nhw'n debygol o'i roi o i chi byth? Miloedd, gobeithio.

5. Be dach chi'n ei ogleuo (arogli / wynto) ar y funud? Wel 'di'r gannwyll Zesty Lime 'ma o Morrissons yn ogleuo o ddim byd, felly'r sbeisys 'dwi 'di cymysgu ar gyfar y cyw iar at swpar. (cumin a coriander!)
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Pump am y Penwythnos, 04.02.11

Postiogan Mali » Sad 05 Chw 2011 3:55 am

1. Pwy oedd y person diwetha i chi ei weld?
Fy ngwr i . :)
2. Be ddywedson nhw wrthoch chi?
Go Canucks !
3. Be ydi'r un peth y buasech chi wedi/yn licio'i gael gan y person yma?
bocs siocled
4. Ydyn nhw'n debygol o'i roi o i chi byth?
Ydi ar Chwefror 14.
5. Be dach chi'n ei ogleuo (arogli / wynto) ar y funud?
Gaethon ni chinese têc awê yn gynharach , ac mae'r ty yn ogla fatha bwyta Tsieneaidd. 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Pump am y Penwythnos, 04.02.11

Postiogan Hogyn o Rachub » Sad 05 Chw 2011 7:45 pm

1. Pwy oedd y person diwetha i chi ei weld?

Globan dew yn rhoi fy Macdonalds i mi

2. Be ddywedson nhw wrthoch chi?

£4.79

3. Be ydi'r un peth y buasech chi wedi/yn licio'i gael gan y person yna?

Ro'n i'n ddigon hapus ar fy chicken mcnuggets de

4. Ydyn nhw'n debygol o'i roi o i chi byth?

Ydyn wir

5. Be dach chi'n ei ogleuo (arogli / wynto) ar y funud?

Chicken mcnuggets. Sori, undonog mi wn!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Pump am y Penwythnos, 04.02.11

Postiogan Macsen » Sul 06 Chw 2011 11:30 am

1. Pwy oedd y person diwetha i chi ei weld?

Fy merch 5 mis oed.

2. Be ddywedson nhw wrthoch chi?

'Mamamamamama' (dyw hi heb feistroli 'Dadadadadada' eto).

3. Be ydi'r un peth y buasech chi wedi/yn licio'i gael gan y person yna?

Gwên.

4. Ydyn nhw'n debygol o'i roi o i chi byth?

Yn fwy aml yn ddiweddar.

5. Be dach chi'n ei ogleuo (arogli / wynto) ar y funud?

Yn y gwaith yn bwyta brechdan gaws, felly'r frechdan.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr


Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron