Tudalen 1 o 1
Pump am y Penwythnos, 04.02.11
Postiwyd:
Gwe 04 Chw 2011 2:01 pm
gan Gwen
1. Pwy oedd y person diwetha i chi ei weld?
2. Be ddywedson nhw wrthoch chi?
3. Be ydi'r un peth y buasech chi wedi/yn licio'i gael gan y person yna?
4. Ydyn nhw'n debygol o'i roi o i chi byth?
5. Be dach chi'n ei ogleuo (arogli / wynto) ar y funud?
Re: Pump am y Penwythnos, 04.02.11
Postiwyd:
Gwe 04 Chw 2011 2:06 pm
gan ceribethlem
1. Pwy oedd y person diwetha i chi ei weld?
Blwyddyn 11
2. Be ddywedson nhw wrthoch chi?
Shwd drymyr oedd Euros Rowlands te?
3. Be ydi'r un peth y buasech chi wedi/yn licio'i gael gan y person yna?
Canltyniadau o safon yn y TGAU
4. Ydyn nhw'n debygol o'i roi o i chi byth?
Ai, gyda bach o ymdrech.
5. Be dach chi'n ei ogleuo (arogli / wynto) ar y funud?
Sylffwr deuocsid yn dilyn arbrawf cyn cino.
Re: Pump am y Penwythnos, 04.02.11
Postiwyd:
Gwe 04 Chw 2011 2:37 pm
gan osian
1. Pwy oedd y person diwetha i chi ei weld?
Hogan sy'n byw efo fi
2. Be ddywedson nhw wrthoch chi?
WAAA. Mi oedd hi yn gorfedd ar y soffa pan gerddish i mewn i'r stafell fyw, a finna'n meddwl fod y lle yn wag. Gesh i goblyn o sioc.
3. Be ydi'r un peth y buasech chi wedi/yn licio'i gael gan y person yna?
Rhybudd.
4. Ydyn nhw'n debygol o'i roi o i chi byth?
Rhy hwyr, braidd
5. Be dach chi'n ei ogleuo (arogli / wynto) ar y funud?
Dim byd. Dwi'n y llyfrgell. Does na'm ogla yma. Od.
Re: Pump am y Penwythnos, 04.02.11
Postiwyd:
Gwe 04 Chw 2011 5:22 pm
gan Manon
1. Pwy oedd y person diwetha i chi ei weld? Fy meibion.
2. Be ddywedson nhw wrthoch chi? "mamamamamamama... pw."
3. Be ydi'r un peth y buasech chi wedi/yn licio'i gael gan y person yna? Sws!
4. Ydyn nhw'n debygol o'i roi o i chi byth? Miloedd, gobeithio.
5. Be dach chi'n ei ogleuo (arogli / wynto) ar y funud? Wel 'di'r gannwyll Zesty Lime 'ma o Morrissons yn ogleuo o ddim byd, felly'r sbeisys 'dwi 'di cymysgu ar gyfar y cyw iar at swpar. (cumin a coriander!)
Re: Pump am y Penwythnos, 04.02.11
Postiwyd:
Sad 05 Chw 2011 3:55 am
gan Mali
1. Pwy oedd y person diwetha i chi ei weld?Fy ngwr i .
2. Be ddywedson nhw wrthoch chi?Go Canucks !
3. Be ydi'r un peth y buasech chi wedi/yn licio'i gael gan y person yma?bocs siocled
4. Ydyn nhw'n debygol o'i roi o i chi byth?Ydi ar Chwefror 14.
5. Be dach chi'n ei ogleuo (arogli / wynto) ar y funud?Gaethon ni chinese têc awê yn gynharach , ac mae'r ty yn ogla fatha bwyta Tsieneaidd.
Re: Pump am y Penwythnos, 04.02.11
Postiwyd:
Sad 05 Chw 2011 7:45 pm
gan Hogyn o Rachub
1. Pwy oedd y person diwetha i chi ei weld?
Globan dew yn rhoi fy Macdonalds i mi
2. Be ddywedson nhw wrthoch chi?
£4.79
3. Be ydi'r un peth y buasech chi wedi/yn licio'i gael gan y person yna?
Ro'n i'n ddigon hapus ar fy chicken mcnuggets de
4. Ydyn nhw'n debygol o'i roi o i chi byth?
Ydyn wir
5. Be dach chi'n ei ogleuo (arogli / wynto) ar y funud?
Chicken mcnuggets. Sori, undonog mi wn!
Re: Pump am y Penwythnos, 04.02.11
Postiwyd:
Sul 06 Chw 2011 11:30 am
gan Macsen
1. Pwy oedd y person diwetha i chi ei weld?
Fy merch 5 mis oed.
2. Be ddywedson nhw wrthoch chi?
'Mamamamamama' (dyw hi heb feistroli 'Dadadadadada' eto).
3. Be ydi'r un peth y buasech chi wedi/yn licio'i gael gan y person yna?
Gwên.
4. Ydyn nhw'n debygol o'i roi o i chi byth?
Yn fwy aml yn ddiweddar.
5. Be dach chi'n ei ogleuo (arogli / wynto) ar y funud?
Yn y gwaith yn bwyta brechdan gaws, felly'r frechdan.