1. Beth oedd y cynnig diwetha gawsoch chi? "Wyt tisho panad o goffi?"
2. Wnaethoch chi ei dderbyn o? Pam? Do. Mae'n fore Sadwrn, ac roedd hi'n noson hwyr neithiwr.
3. Ddylech chi fod wedi derbyn? Be dach chi'n meddwl fydda wedi digwydd tasach chi wedi penderfynu fel arall? Duw, mae'n iawn i mi dderbyn. Taswn i heb gael coffi, mi fasa earl grey wedi gwneud yn iawn.
4. Edrychwch ar eich dwylo. Dywedwch wrtha i, ydach chi'n hapus efo nhw? Pam?Yndw, er bod yr ewinedd braidd yn hir (ych) a bod 'na greithia' lle 'dwi 'di llosgi ar ol anghofio defnyddio menyg pan 'dwi'n coginio. Ma' gin i un fodrwy ar bob llaw, ac mae 'nwylo i'n edrych yn hen braidd, ond 'dwi'n licio'r hanas maen nhw'n eu hadrodd.
5. Lle di'r lle gwaetha y buo'r dwylo yna erioed?Drenewydd.
Even I, as sick as I am, I would never be you...