Tudalen 1 o 1

Pump am y Penwythnos 11.02.11

PostioPostiwyd: Gwe 11 Chw 2011 12:18 pm
gan Gwen
1. Beth oedd y cynnig diwetha gawsoch chi?

2. Wnaethoch chi ei dderbyn o? Pam?

3. Ddylech chi fod wedi derbyn? Be dach chi'n meddwl fydda wedi digwydd tasach chi wedi penderfynu fel arall?

4. Edrychwch ar eich dwylo. Dywedwch wrtha i, ydach chi'n hapus efo nhw? Pam?

5. Lle di'r lle gwaetha y buo'r dwylo yna erioed?

Re: Pump am y Penwythnos 11.02.11

PostioPostiwyd: Gwe 11 Chw 2011 1:10 pm
gan Hogyn o Rachub
1. Beth oedd y cynnig diwetha gawsoch chi?

Pensiwn, bora 'ma!

2. Wnaethoch chi ei dderbyn o? Pam?

Do, achos mi fyddai'n hen ryw ddydd oni fyddaf yn farw.

3. Ddylech chi fod wedi derbyn? Be dach chi'n meddwl fydda wedi digwydd tasach chi wedi penderfynu fel arall?

Bydda gen i fwy o bres i'w wario ar bethau sy'n debyg o'n lladd i cyn i mi gyrraedd oedran pensiwn!

4. Edrychwch ar eich dwylo. Dywedwch wrtha i, ydach chi'n hapus efo nhw? Pam?

Ddim ar y funud achos maen nhw'n drewi o nionod

5. Lle di'r lle gwaetha y buo'r dwylo yna erioed?

Lle i ddechrau....?

Re: Pump am y Penwythnos 11.02.11

PostioPostiwyd: Gwe 11 Chw 2011 1:42 pm
gan Gwen
Hogyn o Rachub a ddywedodd:5. Lle di'r lle gwaetha y buo'r dwylo yna erioed?

Lle i ddechrau....?


Efo'r peth ffiaidd cynta sy'n dwad i dy feddwl di. Yn sicir dim lle i jibio ydi Pump am y Penwythnos.

Re: Pump am y Penwythnos 11.02.11

PostioPostiwyd: Gwe 11 Chw 2011 2:35 pm
gan ceribethlem
1. Beth oedd y cynnig diwetha gawsoch chi?
"Ti ishe fi bigo ti lan marcie pump?"

2. Wnaethoch chi ei dderbyn o? Pam?
Do. Mae'n rhatach i ni rannu tacsi na chael un yr un.

3. Ddylech chi fod wedi derbyn? Be dach chi'n meddwl fydda wedi digwydd tasach chi wedi penderfynu fel arall?
Do, gweler uchod. Ffordd arall falle bydden i'n gyrru, a dyw hynny ddim yn beth da.

4. Edrychwch ar eich dwylo. Dywedwch wrtha i, ydach chi'n hapus efo nhw? Pam?
Dim heddi, mae'n nhw'n frwnt ar ol glanhau'r bwrdd gwyn.

5. Lle di'r lle gwaetha y buo'r dwylo yna erioed?
Jiawcs. Gad fi feddwl am hwnna. Rhaid bod nhw wedi bod rhwyle gwaeth na phentwr o gachu buwch!

Re: Pump am y Penwythnos 11.02.11

PostioPostiwyd: Gwe 11 Chw 2011 3:15 pm
gan Gwen
ceribethlem a ddywedodd:Jiawcs. Gad fi feddwl am hwnna. Rhaid bod nhw wedi bod rhwyle gwaeth na phentwr o gachu buwch!


Cofia wneud a dod nôl i rannu'r profiad. Dwi'n gobeithio cael atebion da i hwn.

Re: Pump am y Penwythnos 11.02.11

PostioPostiwyd: Sad 12 Chw 2011 8:23 am
gan Manon
1. Beth oedd y cynnig diwetha gawsoch chi? "Wyt tisho panad o goffi?"

2. Wnaethoch chi ei dderbyn o? Pam? Do. Mae'n fore Sadwrn, ac roedd hi'n noson hwyr neithiwr.

3. Ddylech chi fod wedi derbyn? Be dach chi'n meddwl fydda wedi digwydd tasach chi wedi penderfynu fel arall? Duw, mae'n iawn i mi dderbyn. Taswn i heb gael coffi, mi fasa earl grey wedi gwneud yn iawn.

4. Edrychwch ar eich dwylo. Dywedwch wrtha i, ydach chi'n hapus efo nhw? Pam?
Yndw, er bod yr ewinedd braidd yn hir (ych) a bod 'na greithia' lle 'dwi 'di llosgi ar ol anghofio defnyddio menyg pan 'dwi'n coginio. Ma' gin i un fodrwy ar bob llaw, ac mae 'nwylo i'n edrych yn hen braidd, ond 'dwi'n licio'r hanas maen nhw'n eu hadrodd.

5. Lle di'r lle gwaetha y buo'r dwylo yna erioed?
Drenewydd. :D

Re: Pump am y Penwythnos 11.02.11

PostioPostiwyd: Sad 12 Chw 2011 2:05 pm
gan osian
1. Beth oedd y cynnig diwetha gawsoch chi?
Tisho'r rimôt? Ew, dwi rêl stiwdant

2. Wnaethoch chi ei dderbyn o? Pam?
Do, am nad oeddwn yn hoff o Iolo ac Indiaid America (o'n i o'r farn mai ym Mhowys oedd o mewn gwirionedd)

3. Ddylech chi fod wedi derbyn? Be dach chi'n meddwl fydda wedi digwydd tasach chi wedi penderfynu fel arall?
Na ddylwn, nesh i lwyddo i droi o i Question of Sport, ac wedyn anghofio sut oedd newid yn ôl, ac o'n i'n sownd efo'r basdad peth am gryn 10 eiliad.

4. Edrychwch ar eich dwylo. Dywedwch wrtha i, ydach chi'n hapus efo nhw? Pam?
Yndw am wn i, er bo nhw'n tueddu i fynd braidd yn biws yn yr oerni. Ond di'm yn oer 'wan.

5. Lle di'r lle gwaetha y buo'r dwylo yna erioed?
Dwnim, ond dwi'n tybio'i fod o'n le y mae fy holl gorff i 'di bod.

Re: Pump am y Penwythnos 11.02.11

PostioPostiwyd: Sad 12 Chw 2011 2:56 pm
gan Macsen
1. Beth oedd y cynnig diwetha gawsoch chi?

'Gwin?'

2. Wnaethoch chi ei dderbyn o? Pam?

Do. Achos mod i'n hoffi gwin.

3. Ddylech chi fod wedi derbyn? Be dach chi'n meddwl fydda wedi digwydd tasach chi wedi penderfynu fel arall?

Dylwn. Dim lot o wahaniaeth naill ffordd na'r llall, dim ond dau wydryn ges i.

4. Edrychwch ar eich dwylo. Dywedwch wrtha i, ydach chi'n hapus efo nhw? Pam?

Mae yna lympiau hyll yr olwg dan y cymalau am fy mod i wedi bod yn codi pwysau heb wisgo menig. A marciau beiro achos mod i'n sgriblan pethau i lawr drwy'r dydd. Fel arall maen nhw'n iawn, traul bywyd yn dechrau dangos arnyn nhw.

5. Lle di'r lle gwaetha y buo'r dwylo yna erioed?

Yn teipio pethau i ymddangos ar Maes-e.